Ehangu cyfranogiad a sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i ddysgu’r iaith beth bynnag fo’u cefndir

Arfer effeithiol

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol/The National Centre for Learning Welsh

Allweddell gyfrifiadurol gyda dwy allwedd arfer: un gwyrdd gydag arwyddlun y ddraig Gymreig, a 'dysgwch' coch arall wedi'i labelu.

Gwybodaeth am y darparwr

Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae’r Ganolfan yn gorff hyd braich wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu 11 darparwr Dysgu Cymraeg. Maer Ganolfan yn cyllido’r darparwyr Dysgu Cymraeg hyn i gynnig arlwy Cymraeg i oedolion o fewn eu cymunedau. Dros amser, mae nifer y dysgwyr unigryw wedi cynyddu gyda 33% mwy o ddysgwyr yn 2022-2023 i gymharu â’r ffigurau cenedlaethol cyntaf yn 2017-2018. Erbyn 2022-2023, roedd 16,905 o ddysgwyr unigryw. Mae nifer y gweithgareddau dysgu hefyd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod yr un cyfnod.

Sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad,  yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Mae’r Ganolfan wedi ymdrechu i sicrhau bod y cynnig Dysgu Cymraeg yn un cynhwysol. Gosodir targedau lleol gan fonitro’r ddarpariaeth yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod amrywiaeth priodol o gyrsiau ar bob lefel ym mhob cwr o Gymru. O ganlyniad, mae dysgwyr yn medru dilyn cwrs sydd yn addas ar eu cyfer, ac yn medru cael dilyniant i’w dysgu drwy’r ystod lefelau. O ganlyniad, yn 2022-23 mae 54% o ddysgwyr y Ganolfan wedi parhau i ddysgu ar lefel yn uwch a hynny yn gynnydd o 14% ers 2019-20. 

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Un o argymhellion Estyn i’r Ganolfan yn dilyn arolwg 2021 oedd parhau i weithio gyda darparwyr Dysgu Cymraeg i ddatblygu modelau o ddarpariaeth ar sail argaeledd dysgwyr.  Mae’r Ganolfan wedi cyflwyno modelau amrywiol o ddarpariaeth ar draws y sector gan gynnwys cynlluniau i ddenu cynulleidfaoedd penodol a datblygu mwy o ddulliau dysgu er mwyn parhau i ymestyn y dewis i ddysgwyr. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Y newid mwyaf dros y blynyddoedd diwethaf yw’r dulliau dysgu a gynigir bellach o fewn rhaglenni dysgu  darparwyr Dysgu Cymraeg.  Mae amrywiaeth eang o ddewisiadau o ran dulliau dysgu, ac wedi cyfrannu’n gadarnhaol at y cynnydd diweddar yn niferoedd y data (cynnydd o 11% yn niferoedd y dysgwyr unigryw). 

Drwy gynllun Ymlaen gyda’r Dysgu Y Ganolfan darparwyd gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr rhwng 16-25, ac mae pobl ifanc o bob cefndir wedi elwa o’r cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg ac i ddysgu mwy am ddiwylliant cyfoes Cymru.  Yn dilyn ymgyrchoedd marchnata wedi eu teilwra yn benodol i ddenu dysgwyr iau, a chreu partneriaethau newydd gan gynnwys gyda Dug Caeredin, Yr Urdd, Colegau Addysg Bellach a darparwyr prentisiaethau,  yn 2022-23 roedd cynnydd o 9% yn niferoedd y dysgwyr yr ystod oedran hon. 

Mae mwyafrif helaeth o ddysgwyr yn parhau i fod yma yng Nghymru, ond mae dysgu rhithiol wedi agor y drws i ddenu cynulleidfa ehangach gyda 14% yn dysgu tu hwnt i Gymru a nifer o’r rheiny yn dysgu Cymraeg am resymau teuluol neu er mwyn paratoi i ddychwelyd yn ôl i Gymru.

Mae’r Ganolfan wedi rhoi blaenoriaeth benodol i ymgysylltu â grwpiau gwahanol o ddysgwyr, er enghraifft dysgwyr sy’n cael eu cydnabod fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid trwy’r cynllun Croeso i Bawb. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cydweithio ag Addysg Oedolion Cymru, gan gyflwyno cyrsiau WSOL (Welsh for Speakers of Other Languages) i ddysgwyr ESOL (English for Speakers of Other Languages). Yn ogystal, mae unedau Dysgu Cymraeg ar gael mewn Cantoneg, Arabeg Syria, Pashto, Ffarsi ac Wcreineg.

Mae amrywiaeth o ymyraethau a chynlluniau yn anelu at sicrhau nad oes her ariannol i unrhyw un sy’n dymuno dysgu’r iaith. Ceir amrywiaeth o gefnogaeth gyllidol a darpariaeth am ddim i’r sawl sydd angen, ac o ganlyniad mae 44% o ddysgwyr yn derbyn eu cyrsiau am ddim, a 48% arall yn derbyn consesiwn sylweddol ar gyfer eu gwersi. Ychydig iawn o ddysgwyr erbyn hyn sy’n talu’r ffi lawn. Yn 2022-23, roedd 36% o ddysgwyr yn byw yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r nod o sicrhau nad oes rhwystrau i unrhyw aelod o gymdeithas rhag dysgu Cymraeg.   Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig, trwy gronfa arbennig, arian i brynu offer technegol, cwrslyfrau, costau teithio a chymorth i ariannu gofal plant, yn ogystal â chyfrannu at gostau aros cyrsiau haf.

Mae ystod o raglenni megis Clwb Cwtsh a’r rhaglen Cymraeg yn y Cartref yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn medru dysgu’r Gymraeg yn ddi-gost. Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cynnal ledled Cymru, a thargedu addas i ardaloedd penodol er mwyn sicrhau’r cynnig i bawb.

Mae Cynllun Cymraeg Gwaith yn cynnig darpariaeth dysgu Cymraeg amrywiol i gyflogwyr a sectorau benodol, sy’n cefnogi dysgwyr i gael mynediad hygyrch at wersi, er enghraifft fel rhan allweddol o’u gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith wedi esblygu ar raddfa gyflym ac mae’n diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn fuddiol iawn. Mae dros 1000 o gyflogwyr erbyn hyn wedi ymgysylltu â’r Cynllun, a chynlluniau sectorol penodol wedi’u datblygu ar gyfer y sector.  Er enghraifft, wrth ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru yn y sector iechyd megis Mwy na Geiriau, mae tiwtor wedi ei benodi ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru er mwyn cefnogi’r gweithlu iechyd a gofal i ddarparu gwasanaeth i gleifion yn Gymraeg.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi datblygu darpariaeth newydd i’r gweithlu addysg fanteisio ar ystod o gyrsiau di-gost a bwriedir parhau i ychwanegu at y rhaglen hon i’r dyfodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r mentrau uchod mae’r sector Dysgu Cymraeg, dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi llwyddo i gynyddu nifer y dysgwyr gan gynnwys dysgwyr o grwpiau penodol wrth weithio’n fwriadus i ddiddymu rhwystrau ymarferol neu ariannol i unigolion rhag dysgu Cymraeg.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn