Effeithiolrwydd trefniadau is-gontractio mewn dysgu yn y gwaith – Tachwedd 2011
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- atgyfnerthu eu cyngor ar sut i reoli is-gontractwyr fel rhan o arweiniad Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd yr AdAS.
Dylai darparwyr arweiniol dysgu yn y gwaith:
- wneud yn siwr bod pob dysgwr yn cael hyfforddiant cyson dda ar draws pob is-gontractwr;
- alinio systemau sicrhau ansawdd is-gontractwyr gyda’u systemau sicrhau ansawdd eu hunain lle bynnag y bo modd;
- datblygu systemau i nodi a rhannu arfer dda; a
- ystyried deilliannau holiaduron boddhad dysgwyr i gywiro unrhyw ddiffygion a nodwyd.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.