Effeithiolrwydd strategaethau cynnwys dysgwyr mewn dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu yn y gwaith – Tachwedd 2014
Yr adroddiad hwn yw’r trydydd mewn cyfres o dri adroddiad y gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau amdanynt yn ei lythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn. Ei fwriad yw llywio datblygiad pellach arweiniad strategaeth cynnwys dysgwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr dysgu ôl-16, a lledaenu astudiaethau achos arfer orau ar draws y rhwydwaith ôl-16.Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned (DOG) a darparwyr dysgu yn y gwaith (DYYG) yn rhoi strategaethau cynnwys dysgwyr ar waith.Fel rhan o’r arolwg hwn, mae arolygwyr wedi casglu ac arfarnu ystod o wybodaeth. Fe wnaethom ymweld â 12 o bartneriaethau a darparwyr DOG ac wyth o ddarparwyr DYYG (gweler Atodiad 1). Diben yr ymweliadau hyn oedd mynd ar drywydd y cynnydd y mae’r darparwyr addysg a hyfforddiant hyn wedi’i wneud ers cyflwyno strategaeth cynnwys dysgwyr Llywodraeth Cymru yn 2010. Aethom ati i wneud y gwaith hwn rhwng Awst a Rhagfyr 2013. Hefyd, cynhaliwyd arolwg ar-lein gennym ym Medi 2013.Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi arfarniad cyffredinol o ba mor dda y mae darparwyr yn y sector ôl-16 yn helpu dysgwyr i lywio’u cwricwlwm ac i gymryd mwy o reolaeth dros yr hyn maent yn ei ddysgu.
Argymhellion
Dylai darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned:
- rhoi seilweithiau ffurfiol ar waith i helpu dysgwyr drefnu’u dosbarthiadau a’u gweithgareddau eu hunain yn eu cymunedau;
- gynyddu’r defnydd o strategaethau a gweithgareddau cynnwys dysgwyr er mwyn gwella ansawdd yr addysgu a’r asesu;
- cynnig rhaglenni i ddysgwyr sy’n eu helpu i ddatblygu eu medrau dinasyddiaeth ac arweinyddiaeth;
- rhoi systemau ffurfiol ar waith i gofnodi a chydnabod ystod y deilliannau personol a chymdeithasol a gyflawnir gan ddysgwyr;
- gwneud defnydd cadarn o arolwg Llais y Dysgwr Cymru ar lefel partneriaeth wrth gynllunio gwella ansawdd; a
- gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn gwybod am beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i ddarparu’u barnau a’u safbwyntiau, neu beth maent wedi’i newid o ganlyniad i gymryd rhan mewn arolygon neu holiaduron.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
- fonitro’n fanylach effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys dysgwyr ar gyfer dysgwyr unigol;
- gwella mynediad i weithgareddau cynnwys dysgwyr ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau gwasgaredig yn ddaearyddol; a
- gwneud yn siŵr bod pob dysgwr yn gwybod beth yw canlyniadau arolwg Llais y Dysgwr Cymru ar lefel darparwr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- adolygu ei strategaeth cynnwys dysgwyr i roi mwy o bwyslais ar ddatblygu medrau dinasyddiaeth a meithrin gallu dysgwyr i ymgymryd â rolau arwain a threfnu eu dysgu eu hunain.