Effeithiolrwydd strategaethau ar gyfer cynnwys y dysgwyr mewn dysgu ôl-16 oed – Mai 2012
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- adolygu gofynion adroddiad hunanasesu blynyddol y darparwr er mwyn dal deilliannau strategaethau cynnwys y dysgwr yn llawnach;
- adolygu prosiect cynrychiolaeth myfyrwyr addysg bellach Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i asesu ei effaith ar ddysgwyr;
- monitro gweithredu strategaethau cynnwys y dysgwr ar lefel y darparwr;
- gweithredu prosiectau cynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sector ôl-16 oed i hyfforddi dysgwyr i weithredu fel eiriolwyr/cynrychiolwyr dysgwyr a sicrhau ymglymiad corff ehangach o ddysgwyr; a
- sefydlu fforymau dysgwyr sector ar lefel genedlaethol er mwyn galluogi dysgwyr i lywio natur a chwmpas eu dysgu.
Dylai darparwyr mewn sectorau ôl-16 oed:
- sefydlu systemau ar gyfer cofnodi ystod y deilliannau sy’n cael eu cyflawni gan ddysgwyr, gan gynnwys y manteision personol a chymdeithasol, o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr;
- gwella’r systemau ar gyfer monitro dysgwyr er mwyn nodi effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr ar ddysgwyr unigol; a
- chefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn rhwydweithiau cynnwys y dysgwr ar lefel leol a chenedlaethol.