Effaith ymyriadau ar ddatblygiad cyfathrebu a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad/ysgol/darparwr
Mae Ysgol Pen Coch yn ysgol arbennig ddydd sy’n darparu addysg i ddisgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anghenion dysgu cymhleth. Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol, rhwng dwy ac 11 oed.
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Fel ysgol arloesi ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae Ysgol Pen Coch yn ymwneud â datblygu a phrofi cwricwlwm newydd i Gymru. Yn Ysgol Pen Coch, mae hyn yn cynnwys datblygu dysgu wedi’i bersonoli i fodloni anghenion cymhleth disgyblion, trwy ymyriadau ffocysedig a chymorth sydd wedi’i addasu’n unigol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae’r ysgol yn defnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau i fynd i’r afael ag anghenion penodol disgyblion unigol a gwneud yn siŵr bod disgyblion yn datblygu’r medrau y mae arnynt eu hangen i wneud cynnydd a llwyddo yn unol â’u hanghenion. Mae hyn yn cynnwys ffocws cadarn ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol disgyblion a’u medrau cyfathrebu.
Mae gwefan yr ysgol yn darparu gwybodaeth gyfredol am y therapïau a’r ymyriadau a ddefnyddir yn yr ysgol. Un ymyrraeth lwyddiannus iawn yw’r ystafell rithwir.
Mae’r ysgol yn defnyddio’i hystafell rithwir i leihau gorbryder a pharatoi disgyblion ar gyfer y byd tu hwnt iddi. Mae’r ystafell yn caniatáu i ddisgyblion brofi a wynebu sefyllfaoedd anodd y maent yn aml yn dod ar eu traws yn ystod eu bywyd a’u harferion bob dydd.
Mae rheolyddion a synwyryddion llaw yn rhoi ymdeimlad cwbl newydd o’r profiad realiti artiffisial. Mae trosglwyddyddion a derbynyddion ar y waliau ac mae’r profiad trochi yn real iawn. Mae hyn yn caniatáu i ddisgyblion archwilio a phrofi sefyllfaoedd fel pe baent yn bresennol go iawn yn yr amgylchedd neu’r lle hwnnw.
Wrth ddewis y profiadau mwyaf priodol, fe wnaeth yr ysgol gydweithio’n agos â rhieni ynghylch y sefyllfaoedd a oedd yn peri’r pryder mwyaf iddynt. Un o’r rhain oedd croesi’r ffordd. Ymwelodd un o’r staff addysgu â chroesfan leol i gerddwyr, tynnu ffotograffau a recordio’r holl seiniau a gafwyd yno. Yna, trosglwyddodd y rhain i raglen ar y cyfrifiadur, sydd wedi’i gysylltu â’r offer rhithwir, gan greu fersiwn 3D o’r groesfan. Cafodd seiniau eu taflunio i dair wal yn yr ystafell, gan roi profiad 360 gradd i ddisgyblion.
Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau wythnosol unigol o rhwng 10 a 15 munud am gyfnod o wyth wythnos. Mae sesiynau’n cynnwys tri cham. Yn ystod y cam cyntaf, mae’n rhaid i ddisgyblion chwilio am, a gwrando ar, yr holl olygfeydd a seiniau sy’n gysylltiedig â chroesi’r ffordd gan ddefnyddio croesfan cerddwyr. Maent yn dysgu sut i bwyso botwm i weithio’r dyn coch a gwyrdd ac maent yn dysgu bod yn amyneddgar ac edrych a gwrando’n barhaus am y dyn coch a gwyrdd. Pan fyddant yn hyderus ynghylch cam cyntaf y profiad, bydd disgyblion yn symud ymlaen i’r ail gam yn yr ystafell rithwir. Mae hyn yn cynnwys goleuadau traffig go iawn ar gyfer cerddwyr, sydd ag amserydd yn rhan o’r offer. Gan ddefnyddio’r amserydd, mae’n rhaid i ddisgyblion sefyll yn llonydd wrth y groesfan hyd nes bod y goleuadau’n newid ac mae’r dyn gwyrdd yn ymddangos.
Yn y trydydd cam, mae’r disgyblion yn mynd allan i’r groesfan cerddwyr. Roedd pob un o’r 30 disgybl a gymerodd ran yn yr ymyrraeth hon yn ddiweddar yn gallu cyrraedd y groesfan, pwyso’r botwm i weithio’r dyn coch a gwyrdd, ac aros yn amyneddgar hyd nes bod hi’n amser croesi heb ddechrau cynhyrfu na theimlo pwysau arnynt. Roedd pob disgybl yn gallu croesi’r ffordd yn hyderus.
Yn ddiweddar, addaswyd yr ystafell rithwir i fod yn ysgol uwchradd y byddai disgyblion Blwyddyn 6 yn mynd iddi ym mis Medi. O’r blaen, nid oedd rhai disgyblion yn gallu cymryd rhan ym mhrosiectau pontio arferol yr ysgol oherwydd eu lefelau uchel o bryder. Trwy’r ystafell rithwir, mae disgyblion yn gallu ymarfer ‘mynd’ i’r ysgol uwchradd i baratoi ar gyfer eu pontio go iawn ar ddiwedd tymor yr haf.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae disgyblion sy’n profi’r ystafell rithwir yn gallu cyflawni gweithgareddau penodol gyda llawer mwy o hyder. Mae hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar barodrwydd disgyblion i ddysgu ac ar eu lles a’u hymgysylltiad.
Nododd adroddiad arolygu diweddar Estyn: “Mae’r ymagwedd arloesol at y cwricwlwm yn gryfder yn yr ysgol. Mae staff yn canolbwyntio’n ddi-baid ar ddeall anghenion unigol disgyblion a darparu ystod briodol o weithgareddau cyfoethogi i’w symbylu a’u hymgysylltu”
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae’r ysgol wedi ysgrifennu a chyfrannu at amrywiaeth eang o ymchwil a chyhoeddiadau, y mae wedi rhannu ei harfer dda ynddynt.
Yn ogystal, mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag ysgolion arloesi eraill.