Effaith ymagwedd yr ysgol gyfan at ddileu rhwystrau rhag dysgu. - Estyn

Effaith ymagwedd yr ysgol gyfan at ddileu rhwystrau rhag dysgu.

Arfer effeithiol

Ebbw Fawr Learning Community


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ebwy Fawr yn gymuned ddysgu 3-16 sydd wedi’i rhannu dros ddau safle wedi’u lleoli yng Nglynebwy. O’r 1,300 o ddisgyblion, mae tua 28% o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae’r ysgol yn amcangyfrif bod 30% yn fwy o blant yn byw o fewn aelwydydd sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol. Nodwyd bod gan ryw 11% o blant anghenion dysgu ychwanegol, ac mae 35 o ddisgyblion yn blant sy’n derbyn gofal.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Atgyfnerthodd y pandemig y ffaith fod ystod o rwystrau sydd wedi’u gwreiddio mewn tlodi yn bennaf yn cael effaith negyddol ar brofiad ysgol disgybl. Maent yn amrywiol ac yn cael effaith niweidiol ar lawer o agweddau ar brofiad ysgol plentyn o gymharu â’u cyfoedion. Mae hyn yn ei dro yn rhwystro’u cynnydd academaidd. Wrth ddychwelyd ar ôl y pandemig, aeth yr ysgol ati i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at ddileu’r rhwystrau hyn mewn ffordd systematig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  • Adolygwyd gweledigaeth a gwerthoedd craidd yr ysgol gyda’r holl randdeiliaid, a rhoddwyd disgyblion dan anfantais yn ganolog i’r weledigaeth newydd hon. Yn ychwanegol, mabwysiadwyd y gwerth craidd ‘Ymdrechu i’r Eithaf’ (‘Extra Mile’) gan bawb, a chydnabod bod angen i’r ysgol feddwl ac ymddwyn yn wahanol i ddileu rhwystrau.
  • Datblygwyd polisi ysgol gyfan eglur, gan annog yr holl arweinwyr a thimau ar draws yr ysgol i ystyried y rhwystrau sy’n wynebu’r grwpiau hyn o ddysgwyr. Roedd tegwch a chynhwysiant bellach yn ffocws newydd ar gyfer rhaglen dysgu proffesiynol y staff, ac roedd gan yr ysgol resymeg glir ar gyfer defnyddio cyllid grant i gefnogi’r uchelgeisiau hyn.
  • Penodwyd arweinwyr ar gyfer disgyblion dan anfantais yn y ddau sector, a chodwyd proffil Cydlynwyr ADY yr ysgol. Mae’r arweinwyr hyn yn olrhain ac yn monitro presenoldeb a chynnydd disgyblion a nodwyd, gan gynnwys eu cyfle i fynd ar dripiau ysgol a’u presenoldeb mewn clybiau a digwyddiadau allgyrsiol.
  • Defnyddiwyd cyllid grant i gyflogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn y ddau sector. Mae’r swyddogion hyn yn gweithio’n agos i gynorthwyo teuluoedd penodedig ynghylch presenoldeb ac ymgysylltu â bywyd yr ysgol.
  • Roedd yr ysgol eisoes wedi sefydlu Darpariaeth EVE (Ymgysylltu Glyn Ebwy) (Ebbw Vale Engage), sef darpariaeth yr ysgol oddi ar y safle ar gyfer y disgyblion uwchradd mwyaf bregus sydd mewn perygl o ymddieithrio a chael eu gwahardd. Fodd bynnag, roedd sefydlu gweledigaeth gydlynus bellach yn rhoi hyder i arweinwyr ymestyn y ddarpariaeth a gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol.
  • Gwnaeth yr ysgol arolwg o deuluoedd a disgyblion a nodwyd ar ystod o destunau, er enghraifft “Beth allai eich atal rhag mynychu cyfarfod rhieni / gofalwyr?” Dadansoddwyd canlyniadau’r holiaduron hyn, a nodwyd atebion fel rhan o fenter “Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni” (“You Said, We Did”).
  • Mae datblygiadau’n cynnwys:
    • bwcio hyblyg a chludiant ar gyfer noson rieni
    • datblygu Ap “Gweld Digwyddiad a’i Ddatrys” (“Spot it Sort it”) lle gall disgyblion gofnodi unrhyw beth o fwlio, fandaliaeth i broblemau iechyd meddwl
    • offer Chromebooks personol ar gyfer yr holl ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 ac yn uwch
    • mae’r holl grwpiau arwain myfyrwyr yn cynnwys disgyblion dan anfantais
    • dyfeisiwyd tripiau ysgol i fod yn hygyrch i bawb
    • cyflogi gyrrwr bws ar gyfer gweithgareddau ar ôl yr ysgol a phresenoldeb
    • datblygwyd bwrdd siarad dydd Mawrth (Table Talk Tuesday), dydd Mercher Rhyfeddu (Wonder Wednesday) a dydd Gwener Balch (Proud Friday) fel cyfleoedd amser cinio ar gyfer disgyblion uwchradd
    • agor banciau bwyd, gwisg ysgol ac offer
    • agor clybiau brecwast uwchradd, caffi i rieni cynradd, a chylch chwarae ar gyfer plant cyn-ysgol
    • sesiynau costau byw a medrau ar gyfer rhieni

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Erbyn hyn, mae arolygon yn dangos bod gan y rhan fwyaf o ddisgyblion o fewn y grŵp targed agwedd gadarnhaol at yr ysgol a dysgu, a bod arnynt eisiau cyflawni’n dda. Maent yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol, mae nifer y gwaharddiadau wedi gostwng, a phresenoldeb wedi gwella. Mae niferoedd gwell o ddisgyblion yn manteisio ar gyfleoedd allgyrsiol, ac yn ymgysylltu’n gynyddol ym mywyd ehangach yr ysgol. Mae ymdrech yr ysgol i ddileu rhwystrau wedi creu diwylliant “gallu gwneud” yn yr ysgol, sydd hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar rieni a’r gymuned.