Effaith y Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion (Teach First) yng Nghymru
Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am effeithiolrwydd y Rhaglen Hyfforddiant Ychwanegol i Raddedigion (RhHYR) yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn. Mae’r adroddiad wedi ei fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru ac arweinwyr a staff y RhHYR yng Nghymru a’u hysgolion partneriaeth. Gallai fod o ddiddordeb ehangach i gyfranogwyr hefyd (hynny yw, hyfforddeion ar y rhaglen Teach First), i arweinwyr a staff sy’n gweithio mewn ysgolion, ac i’r rheiny sy’n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant i athrawon.
Argymhellion
I gryfhau’r RhHYR a llwybrau eraill i addysgu, dylai Llywodraeth Cymru:
A1 Sicrhau bod darparwyr hyfforddiant i athrawon yn helpu hyfforddeion i ddatblygu’r addysgeg fwyaf effeithiol ar gyfer eu pwnc a’u sector
A2 Ystyried strategaethau i wella ansawdd y mentora mewn ysgolion, i alluogi athrawon dan hyfforddiant i wneud cynnydd da a chyflawni eu potensial
A3 Sicrhau bod pob rhaglen ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant yn effeithiol yn ystod wythnosau cyntaf yr addysgu
A4 Gwella casglu data mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon i arfarnu effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddi