Effaith y Mesur Dysgu a Sgiliau ar ddysgwyr sy’n agored i niwed
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion, colegau addysg bellach, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol wella cyrhaeddiad dysgwyr sy’n agored i niwed fel ei fod yn cyd-fynd yn fwy â’u cyfoedion, trwy:
- A1 Olrhain a monitro cyflawniadau dysgwyr sy’n agored i niwed yn agosach, a dadansoddi data ar grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed yn well
- A2 Gwella eu presenoldeb a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gymorth targedig
- A3 Arfarnu’r cwricwlwm i ystyried i ba raddau y mae’n bodloni anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed ac yn cynnig cyfleoedd iddynt ennill cymwysterau priodol