Effaith y ddarpariaeth eang o ymyraethau i gefnogi datblygiad medrau llythrennedd rhif motor personol emosiynol ac ymddygiadol disg

Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Gyfun Aberaron yn ysgol gyfun ddwyieithog 11-19 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Sir Geredigion. Mae 581 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 27% o’r disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (dros dair blynedd) mewn ysgolion uwchradd, sef 16.1%. 

Mae tua 30.5% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, 50.1% ddim yn siarad Cymraeg gartref a 19.4% ddim yn gallu siarad Cymraeg. Mae bron pob disgybl yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol ac un uwch athro.  

Mae gan yr ysgol ganolfannau dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion yn cynnwys: 

  • Canolfan y Môr – Canolfan arbenigol sy’n darparu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion lleferydd a chyfathrebu dwys ynghyd a disgyblion sydd ag anghenion awtistiaeth, synhwyraidd a meddygol. 
  • Canolfan Croeso –  Canolfan sgiliau bywyd sy’n rhoi darpariaeth unigol i ddisgyblion ynghyd a’u cynnal (yn ddibynol ar oed a gallu) trwy ddarpariaethau prif ffrwd. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gweledigaeth yr ysgol yw ‘sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i wynebu heriau’r 21ain Ganrif a’n bod yn cefnogi holl aelodau ein cymuned i ddatblygu eu potensial yn academaidd, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.’ Yn y canolfannau dysgu arbenigol, mae amrywiaeth eang a chyfoethog o brosiectau ac ymyraethau yn cael eu darparu er mwyn sicrhau ymglymiad, lles a chynnydd ym medrau a sgiliau personol a chymdeithasol y disgyblion. Cyflwynwyd sesiynau therapi celf er mwyn datblygu medrau Llythrennedd Emosiynol y disgyblion a ‘chlwb clai’ er mwyn datblygu medrau motor llawysgrifen disgyblion ynghyd ag ymyraethau mwy traddodiadol. Sefydlwyd sesiynau ‘Tylino Stori’ yn ogystal â sesiynau Ioga a Meddwlgarwch. Mewn partneriaeth a’r theatr leol cynlluniwyd prosiectau perfformio er mwyn hybu medrau cyfathrebu disgyblion.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er mwyn cefnogi disgyblion ag amrywiaeth eang o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY),  defnyddir ymyraethau sy’n cynnwys: 

 

  • Clwb Clai: Clwb i ddatblygu medrau motor a llawysgrifen disgyblion yw’r Clwb Clai. Mae grwpiau o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn ‘clwb clai’ hyd at 3 sesiwn yr wythnos – ymarferion clai i ddatblygu medrau motor disgyblion yn cynnwys defnydd o gerddoriaeth, symud a thrafod.   
  • Therapi Celf: Mae disgyblion yn derbyn y sesiynau yma er mwyn datblygu eu medrau personol a chymdeithasol ynghyd a’u lles. Mewn grwpiau bach neu fel unigolion, mae disgyblion yn cwblhau gwaith gyda’r therapydd celf arbenigol. Ceir arddangosfa o’u gwaith yn yr ystafell therapi ac mae’r disgyblion yn falch iawn o hyn. 
  • Celf ac Enaid / ‘Art and Soul’ – Mae’r CADY ynghyd a chymorthyddion arbenigol yr ysgol yn rhedeg sesiynau celf therapiwtig ar draws y canolfannau a grwpiau mynediad. Mae’r sesiynau yn dechrau gyda gwirio emosiynol, datganiad y dydd a thrafodaeth ac yna gweithgareddau celf. Mae’r gweithgareddau wedi eu gwahaniaethu yn ôl gallu, deallusrwydd a lefel medr y disgyblion. Y nod yw i ddatblygu medrau llythrennedd emosiynol, mewn awyrgylch diogel a thawel. 
  • Tylino stori – Sefydlwyd sesiynau tylino stori ynghyd a sesiynau ioga a meddwlgarwch i ddisgyblion fel modd o gyflwyno themâu cwricwlaidd ac o gefnogi eu lles. Mae staff wedi cael hyfforddiant penodol ac yn defnyddio sgriptiau gan gynnwys stori, darnau o farddoniaeth, deialog neu erthygl, sy’n cyd-fynd gyda’r symudiadau. Mae’n fodd effeithiol o addysgu agweddau penodol o destun i ddisgyblion ag ADY, yn enwedig y rheini sy’n dysgu mewn modd sensori. Mae hwn yn hybu lles a dysgu disgyblion y canolfannau.   
  • Prosiect perfformio – Datblygwyd y rhaglen yma er mwyn datblygu medrau personol a chymdeithasol, medrau cyfathrebu a sgiliau dysgu annibynnol y dysgwyr. Trwy brofiadau theatr wythnosol: symud, dawns, chwarae rôl, chwarae synhwyraidd a ffilmio mae’r disgyblion yn datblygu ystod o sgiliau. Drwy gydweithio gyda theatr Felinfach mae perfformiadau a gweithdai wedi rhedeg i gyd-fynd gyda themâu tymhorol e.e.Joseff a’r Gôt Amryliw, Y Ddraig Goch, Y Gofod.  

           Llythrennedd a Rhifedd: 

  • Ymyraethau fel Dyfal Donc a Geiriaduron Personol i ddatblygu medrau disgyblion 
  • Ymyraethau darllen estynedig wedi eu gwahaniaethu’n sylweddol – gweler astudiaeth achos ar raglen yr ysgol i ddatblygu medrau darllen 
  • Cyfri Ceredigion ac ymyraethau eraill i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Drwy’r gweithgareddau a’r ymyraethau amrywiol, mae’r ysgol yn gweld ymglymiad uchel a mwynhad wrth ddysgu gan bron bob disgybl. Mae hunanhyder disgyblion a’u parodrwydd i ymdrechu â gweithgareddau newydd wedi datblygu’n dda. Trwy’r gweithgareddau, mae disgyblion yn dyfnhau eu deallusrwydd o’r themâu neu’r testunau a astudir. 

Wrth graffu ar waith ddysgwyr, mae’r ysgol yn cydnabod cynnydd cam-wrth-gam ym medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion. Mae’r disgyblion, yn nodi eu bod yn mwynhau’r ymyraethau yma ac yn nodi bod y gefnogaeth yn eu helpu i ddatblygu yn yr ysgol.    

 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn rhannu’r arferion da yn y rhanbarth trwy Wefan Iechyd a Lles, newyddlen yr Adran ADY a thrwy rhwydweithiau CADY. Mae’r CADY wedi cydweithio gyda therapydd celf i gynhyrchu llyfrynnau arweiniol ar weithgareddau celf sy’n hybu lles emosiynol disgyblion. Mae llwyddiant y prosiect perfformio theatr wedi arwain at ehangu’r prosiect ar draws yr awdurod i ganolfanau arbenigol eraill.