Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd – Gorffennaf 2013

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn arfarnu safonau ym mhwnc ‘technoleg gwybodaeth a chyfathrebu’ (TGCh) y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn ystyried effaith TGCh fel medr allweddol ar ddysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Yn benodol, mae’r adroddiad yn ystyried effaith TGCh ar ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd ac ar gau’r bwlch tlodi.Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar bwnc TGCh a defnyddio medrau TGCh ar draws y cwricwlwm. Er bod disgyblion yn aml yn ennill medrau TGCh cychwynnol mewn gwersi TGCh, er mwyn bod yn gwbl gymwys a hyfedr, rhaid i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn a’u defnyddio mewn pynciau a chyd-destunau eraill.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddatblygu’r ystod lawn o fedrau TGCh disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, yn enwedig mewn trin data, modelu a rhifedd;
  • asesu ac olrhain gwybodaeth bynciol a medrau disgyblion mewn TGCh yn drylwyr;
  • cynllunio ar gyfer cyflwyno technolegau cludadwy;
  • gweithredu ac arfarnu cynllun datblygu i wella safonau mewn TGCh; ac
  • hyfforddi athrawon fel eu bod yn gymwys i gyflwyno ystod lawn y rhaglen astudio TG yng nghyfnod allweddol 2.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • gefnogi ysgolion i wella safonau ac yn holl elfennau TGCh yng nghyfnod allweddol 2;
  • helpu ysgolion uwchradd i gynllunio i fodloni anghenion disgyblion a oedd yn defnyddio cyfrifiaduron llechen yn rheolaidd mewn ysgolion cynradd ac yn canfod ar ôl mynd i ysgolion uwchradd nad oedd cyfrifiaduron llechen yn cael eu defnyddio mor aml;
  • cynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i gael dealltwriaeth gyffredin o safonau mewn TGCh;
  • lledaenu arfer dda mewn TGCh mewn ysgolion;
  • cefnogi trefniadau diogelu ysgolion gan wneud y mwyaf o’u defnydd o ystod o dechnolegau a gwasanaethau digidol ar-lein; ac
  • esbonio i ysgolion lefelau’r cymorth TGCh y gallant ei ddisgwyl gan y consortia rhanbarthol newydd.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu gorchmynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Fframwaith Sgiliau anstatudol ar gyfer TGCh i wneud yn siŵr eu bod yn aros yn berthnasol yng ngoleuni technolegau newydd;
  • cefnogi datblygiad cymwysiadau addysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer dyfeisiau cludadwy; a
  • darparu cysylltedd band eang digonol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn