Effaith rhaglenni dysgu teuluol ar godi lefelau llythrennedd a rhifedd plant ac oedolion – Mai 2012
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad yn ystyried: pa mor effeithiol yw rhaglenni dysgu teuluol wrth godi safonau llythrennedd/rhifedd plant ifanc; p’un a oes cysondeb yn ansawdd cyflwyno rhaglenni dysgu teuluol; y cynnydd a wna oedolion wrth wella eu safonau llythrennedd/rhifedd eu hunain; beth sy’n gyfystyr ag arfer dda wrth gyflwyno rhaglenni dysgu teuluol; i ba raddau y mae’r rhaglenni’n arwain at gymorth dilynol gwell ar gyfer y plant hynny sydd ei angen; ac i ba raddau y mae’r rhaglenni’n cynnig gwerth am arian.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddiwygio gweithrediad y rhaglen grantiau i gymell dilyniant dysgwyr o sesiynau rhagflas i gyrsiau ymgysylltu byr ac i raglenni achrededig hwy wedyn;
- amodi isafswm nifer o oriau ar gyfer sesiynau rhagflas a rhaglenni ymgysylltu byr;
- gofyn i ddarparwyr osod targedau dilyniant, casglu data a mesur deilliannau;
- cyfyngu ar nifer yr adegau y gall dysgwr fynychu sesiynau rhagflas a chyrsiau ymgysylltu byr er mwyn annog dilyniant;
- diwygio canllawiau’r grant a ffurflenni hawlio i fynnu bod darparwyr dysgu teuluol yn dychwelyd digon o ddata i Lywodraeth Cymru a fydd yn ei galluogi i feincnodi deilliannau; a
- diwygio’r canllawiau ar gyfranogwyr sy’n oedolion i alluogi’r rhai y mae eu medrau ar lefel 1 i ymuno â’r rhaglen, lle mae’r ysgol wedi nodi y byddai eu plant yn elwa ar gymorth rhieni.
Dylai awdurdodau lleol:
- weithio gyda phartneriaid eraill i osod targedau recriwtio sy’n canolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn angen;
- dadansoddi data recriwtio er mwyn gosod targedau recriwtio heriol ar gyfer y dyfodol;
- casglu data ar y gyfradd sy’n manteisio ymhlith y plant hynny y nodwyd eu bod yn gymwys;
- monitro cynnydd plant a nodwyd ar gyfer y rhaglenni teuluol ond nad ydynt wedi cymryd rhan, yn ogystal â’r rhai sydd wedi’u cwblhau;
- sicrhau bod cynllunio strategol ar y cyd yn gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau, yn cynnwys lleoliadau;
- cynnwys rhaglenni teuluol mewn cynlluniau PPPhI; a
- sicrhau ansawdd rhaglenni teuluol ar lefel strategol.
Dylai darparwyr:
- gasglu data dysgwyr yn ôl rhywedd a datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r diffyg yn nifer y dynion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni teuluol;
- asesu anghenion dysgwyr yn ffurfiol wrth iddynt ddechrau ar bob cwrs;
- olrhain cyrhaeddiad a dilyniant dysgwyr sy’n oedolion ar gyrsiau a defnyddio’r data hwn i gynllunio ar lefel strategol; a
- gosod targedau ar gyfer dilyniant dysgwyr o gyrsiau byr rhagflas/ymgysylltu i raglenni hir.