Effaith gweithio mewn partneriaeth i gefnogi datblygiad a lles plant.
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Little Lambs Emmanuel yn lleoliad preifat yn Ysgol Gynradd Emmanuel yn nhref glan y môr Y Rhyl. Ei nod yw darparu amgylchedd cartrefol, cariadus ac anogol lle caiff pob plentyn ei annog i ddatblygu i’w lawn botensial.
Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ofalu am 61 o blant rhwng 2 oed ac 11 oed. Mae’n cynnig sesiynau cylch chwarae, gofal cofleidiol a chlwb ar ôl yr ysgol yn ystod y tymor yn unig.
- Mae’n cynnig Dechrau’n Deg, Addysg Gynnar, y Cynnig Gofal Plant a sesiynau preifat y telir amdanynt.
- Mae 2% o’r plant yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal yn y gorffennol
- Mae 1% o’r plant yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol
- Mae 106 o blant ar y gofrestr (48 yn y clwb ar ôl yr ysgol, a 58 yn y cylch chwarae)
- Mae 10 o blant yn cael Addysg Gynnar ar hyn o bryd
- Mae 30 o blant yn cael darpariaeth Dechrau’n Deg ar hyn o bryd
- Mae 10 o blant yn mynychu’r ysgol yn rhan-amser ac yn mynychu gofal cofleidiol yn y lleoliad
- 10 aelod o staff ar y gofrestr
Cymerodd Little Lambs yr awenau yn y cylch chwarae a’r clwb ar ôl yr ysgol ym mis Ionawr 2021 yn ystod pandemig COVID-19. Mae’r lleoliad ar agor am bum niwrnod yr wythnos, o 8am-6pm, dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.
Mae 10 aelod o staff, yn cynnwys perchennog y feithrinfa. Mae gan bob un o’r staff brofiad addas o weithio gyda phlant ifanc.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Cred arweinwyr fod cael gweledigaeth glir ar gyfer y lleoliad ac ymagwedd ragweithiol at feithrin natur gadarnhaol, yn gallu dylanwadu’n sylweddol ar y deilliannau y maent yn eu cyflawni. Wedi iddynt gymryd yr awenau yn y lleoliad, sylweddolon nhw’n gyflym eu bod yn gweithredu o fewn cymuned wedi’i heffeithio gan heriau economaidd-gymdeithasol amrywiol, a nodon nhw ffactorau allanol amrywiol sy’n effeithio ar y ddynameg rhwng rhieni a’r lleoliad.
Wrth gydnabod yr heriau cynhenid sy’n codi mewn bywyd, mae arweinwyr yn deall y niwed posibl y gall hyn ei achosi i iechyd meddwl a lles staff, rhieni a phlant, fel ei gilydd. Trwy fynd i’r afael yn rhagweithiol â’r materion hyn, maent yn creu amgylchedd sy’n ffafriol i hapusrwydd ac ymgysylltu. Mae hyn, yn ei dro, yn magu hyder a chreadigrwydd ymhlith staff, rhieni a phlant, ac yn cyfrannu at brofiad mwy bywiog a boddhaus i bawb sy’n gysylltiedig.
Mae ymarferwyr yn mynd ati i ymgysylltu â phartneriaethau â staff yr ysgol a Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, gan gydnabod eu rolau gwerthfawr yn y rhwydwaith cefnogi cymuned. Trwy’r partneriaethau hyn, maent yn sicrhau bod teuluoedd sy’n wynebu heriau yn gallu manteisio ar ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion unigryw. Mae’r ymagwedd gydweithredol hon nid yn unig yn cryfhau’r gallu i fynd i’r afael â’r materion amlweddog sy’n wynebu teuluoedd, ond hefyd yn datblygu ymdeimlad o undod a chyfrifoldeb ar y cyd mewn dyrchafu’r gymuned gyfan.
Yn Sir Ddinbych, mae tîm o Weithwyr Cyswllt Teuluoedd sy’n cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol. Mae’r Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd hyn yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, ysgolion a lleoliadau i wneud yn siŵr fod pob un o’r plant yn cael profiad cadarnhaol o addysg, ac yn anelu at feithrin cyfleoedd i helpu cynorthwyo plant i gyrraedd eu llawn botensial.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector
Mae datblygu partneriaethau cadarn â rhanddeiliaid allweddol yn ganolog i’r ymagwedd. Mae’r berthynas agos â Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd yn gweithredu fel conglfaen, gan hwyluso cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau yn ddi-dor i fynd i’r afael ag anghenion unigryw pob teulu. Hefyd, mae cydweithio yn ymestyn amgylchedd yr ysgol, lle gwneir ymdrechion ar y cyd i feithrin amgylchedd dysgu cefnogol sy’n ffafriol i lwyddiant academaidd plant o gefndiroedd sydd dan anfantais yn economaidd.
Enghreifftiau o ymagweddau cydweithredol:
- Aeth arweinwyr at y gweithwyr proffesiynol y maent yn eu gweld bob dydd a gofyn am gael cyfarfod cydweithredol er mwyn trafod pob un o’r plant yn y lleoliad, a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i ganiatáu ar gyfer unrhyw ymyriadau cynnar. Cytunon nhw i gynnal cyfarfodydd bob tymor i drafod plant, cynnydd ac anghenion cymorth gyda gweithwyr proffesiynol o Dechrau’n Deg, Addysg Gynnar a Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, maent yn trafod cynnydd a datblygiad plant unigol, yn ogystal â’r ffyrdd gorau o gynorthwyo teuluoedd ar sail anghenion unigol.
- Cwpwrdd Gofalu a Rhannu: Mae’r ‘Cwpwrdd Gofalu a Rhannu’ yn gwpwrdd agored sydd ar gael ar y maes chwarae i rieni a theuluoedd gael mynediad ato. Cyflwynwyd hwn i gynorthwyo teuluoedd sydd efallai’n cael trafferth neu fod angen cyflenwadau brys arnynt. Darperir y cyflenwadau yn rhad ac am ddim i rieni ac mae’r cwpwrdd ar gael am ddim yn ystod amseroedd gollwng a chasglu. Gall rhieni gymryd cynifer o gyflenwadau â’r hyn sydd ei angen arnynt. Mae cyflenwadau’n cynnwys elfennau fel weipiau gwlyb, eli haul, siampŵ, gel cawod, hetiau a menyg, ac mae llyfrgell gymunedol yn y lleoliad lle gall plant fenthyca neu gadw llyfrau i’w defnyddio gartref.
- Perthnasoedd cryf â Dechrau’n Deg, Addysg Gynnar a Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd: Pan fydd pryderon yn codi ynghylch lles plant, mae’r lleoliad yn dibynnu ar ei gydweithio â Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd i helpu hwyluso ymyriadau cynnar. Maent yn darparu cymorth â phethau fel helpu rhieni i lenwi ffurflenni, cyfeirio at wasanaethau eraill, a chymorth ag ymddygiad.
- Defnyddio arian, grantiau a chyllid yn briodol: Ar ddiwedd pob tymor (mis Gorffennaf), mae’r lleoliad yn prynu detholiad o adnoddau i’w hanfon gartref gyda phob plentyn, sydd yn ei dro yn eu galluogi i gael cyflenwadau ar gyfer gwyliau’r haf. Mae ymarferwyr yn galw hwn yn ‘Becyn Gofal yr Haf’. Mae’n cynnwys gel cawod, siampŵ, weipiau gwlyb, eli haul a nwyddau mislif. Mae’r pecyn gofal hwn yn galluogi teuluoedd i gael digon o gyflenwadau iddynt allu eu defnyddio trwy’r haf pan fydd y lleoliad ar gau. Mae’r lleoliad yn prynu’r holl gyflenwadau hyn trwy gyllid yr arweinwyr eu hunain, ac yn caniatáu ar gyfer hyn yn ei gyllideb.
- Heriau gwaith cartref: Mae’r lleoliad yn darparu heriau gwaith cartref bach wedi’u harwain gan deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol a gwyliau hanner tymor pan fydd yr ysgol ar gau. Mae’n gwahodd rhieni i anfon ffotograffau o blant yn cwblhau’r her ac mae ymarferwyr yn argraffu’r rhain ar gyfer y llyfr her gwaith cartref. Mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif am gymryd rhan. Mae arweinwyr yn credu bod y cyfleoedd hyn yn darparu’r camau cynnar i rieni ar gyfer meithrin partneriaethau cryf â gweithwyr proffesiynol a phobl yn y sector gofal plant ac addysg, sy’n pontio’r bwlch ac yn cefnogi presenoldeb a chyrhaeddiad. Dyma enghreifftiau o heriau gwaith cartref: Gwnewch rywbeth caredig i rywun, gwyliwch ffilm, chwaraewch gêm fel teulu, ewch ar daith gerdded natur, pa dirnod allwch chi ddod o hyd iddo yn ein hardal leol, ac anfonwch ffotograffau o gastell.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae gweithio mewn partneriaethau wedi cael effaith ddwys ar y ddarpariaeth a’r safonau ar gyfer y plant. Trwy feithrin perthnasoedd cydweithredol cryf, mae arweinwyr wedi sefydlu cyfathrebu hynod effeithiol sy’n hwyluso deialog agored rhwng rhieni a staff. Mae hyn wedi arwain at ymagwedd fwy rhagweithiol at fynd i’r afael â materion a phryderon, gan sicrhau eu bod yn cael eu nodi’n brydlon a’u datrys yn effeithiol. O ganlyniad, mae rhieni’n teimlo’u bod wedi’u grymuso i ymgysylltu â staff, gan feithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth a thryloywder o fewn y lleoliad.
Mae ymdrechion cydweithredol wedi cyfrannu at welliannau nodedig mewn cyfraddau presenoldeb ymhlith plant. Trwy fentrau ar y cyd â sefydliadau partner ac ysgolion, mae arweinwyr wedi rhoi strategaethau ar waith i fynd i’r afael â rhwystrau rhag presenoldeb, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn absenoldebau. Mae hyn nid yn unig yn gwella’r profiadau dysgu ar gyfer plant, mae hefyd yn pwysleisio ymrwymiad i ddarparu cymorth cyson a dibynadwy.
Trwy weithio’n agos â phartneriaid i gynllunio a gweithredu ymyriadau targedig, mae arweinwyr wedi creu llwybrau teilwredig ar gyfer datblygiad a llwyddiant academaidd plant. Mae’r ymagwedd gyfannol hon at gymorth yn sicrhau bod plant yn derbyn yr adnoddau a’r cymorth angenrheidiol i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae Little Lambs yn ymdrechu i rymuso teuluoedd i oresgyn rhwystrau a ffynnu, er gwaethaf yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r lleoliad yn mynd ati i rannu arferion gorau trwy sianelau amrywiol i uchafu eu heffaith a’u cyrhaeddiad.
Trwy ddefnyddio platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel Instagram a Facebook, yn ogystal ag ap dynodedig ar gyfer rhieni, mae’r lleoliad yn arddangos ei gyflawniadau a’i fentrau llwyddiannus i gynulleidfa eang. Mae hyn nid yn unig yn hyrwyddo tryloywder ond hefyd yn annog ymgysylltiad ac adborth gan rieni a rhanddeiliaid.
Mae Little Lambs wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o welliant parhaus. Mae’n cyflawni hyn trwy flaenoriaethu cyfarfodydd staff rheolaidd ac uchafu defnyddioldeb diwrnodau hyfforddi staff i wella a mireinio arferion. Trwy’r sesiynau strwythuredig hyn, mae’n darparu cyfleoedd i aelodau’r tîm gydweithio, rhannu mewnwelediadau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol. Trwy fuddsoddi yn nhwf a datblygiad medrau staff, mae arweinwyr yn sicrhau bod arferion yn parhau i fod yn gyfredol, yn effeithiol ac yn cyd-fynd ag anghenion esblygol plant a theuluoedd.
Mae ymarferwyr yn rhannu eu harfer, eu syniadau, eu mewnwelediadau a’u profiadau ymhlith cydweithwyr ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys Addysg Gynnar, Dechrau’n Deg, ac awdurdodau lleol. Trwy hwyluso’r cyfnewidiadau hyn, maent yn defnyddio arbenigedd ar y cyd y tîm i wella arferion a sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno i blant a theuluoedd.