Effaith dysgu proffesiynol ar wella ansawdd yr addysgu yn Ysgol Gyfun Radur
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gyfun Radur yng Nghaerdydd yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,409 o ddisgyblion, y mae 1,157 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae tri phwynt pump y cant o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 14.3% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae gan ryw 8.7% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol, sydd hefyd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth a thri phennaeth cynorthwyol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae gan yr ysgol weledigaeth glir i ddarparu’r profiadau dysgu gorau oll ar gyfer pob disgybl. Gwella addysgu a dysgu fu’r sbardun allweddol ar gyfer ymagwedd yr ysgol at Gwricwlwm i Gymru. Bu prif ffocws yr ysgol ar uchafu cyfranogiad a dyfnhau meddwl mewn gwersi trwy dechnegau addysgu syml ond effeithiol. Cefnogwyd hyn gan ddysgu proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol lle caiff defnyddio’r technegau hyn ei fodelu gan arweinwyr. Mae arweinwyr yn defnyddio ymchwil i lywio’u hymagwedd, gan ystyried yn ofalus sut y gellir ei chymhwyso i gyd-destun penodol yr ysgol. Maent yn gwerthuso’r holl ymagweddau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’u gweledigaeth, ac yn monitro’u heffaith yn agos.
Er mwyn ysbrydoli angerdd am addysgeg ac addysgu, mae arweinwyr wedi annog diwylliant dysgu cryf ymhlith pob un o’r staff. Yr hyn sydd wrth wraidd y gwaith hwn fu’r penderfyniad i hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus trwy annog myfyrio a dysgu proffesiynol parhaus rheolaidd ar gyfer pob un o’r staff. Caiff hyn ei fodelu gan uwch arweinwyr, sy’n ymgysylltu’n frwdfrydig â chyfleoedd dysgu proffesiynol mewnol ac allanol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Cynlluniwyd model dysgu proffesiynol mewnol yr ysgol gydag anghenion penodol staff, disgyblion a meysydd nodedig yr ysgol i’w gwella, mewn cof. Ystyriwyd blaenoriaethau cenedlaethol fel y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) a’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NPLE) hefyd. Llenwodd staff yr arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (SLO) yn ogystal ag arolwg wedi’i gynllunio gan yr ysgol, a defnyddiwyd y canfyddiadau i gynllunio rhaglen dysgu proffesiynol unigoledig. Croesgyfeiriwyd y wybodaeth hon â chanfyddiadau o weithgareddau hunanwerthuso fel teithiau dysgu, arsylwadau gwersi, llais y dysgwr, a chraffu ar waith i sicrhau bod y rhain wedi cael eu hystyried, hefyd. Gwnaed ymchwil helaeth gan uwch arweinwyr a chyfarwyddwyr dysgu hefyd er mwyn cynllunio a gweithredu’r ymagwedd fwyaf effeithiol at wella addysgu.
Mae ymagwedd dysgu proffesiynol yr ysgol yn cynnwys arlwy ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r arlwy ffurfiol yn cynnwys pob un o’r staff addysgu yn cofrestru ar gyfer ‘elfen’, o blith dewis o saith, y maent yn ei dilyn trwy gydol y flwyddyn. Mae pob elfen yn cynnwys un sesiwn bob hanner tymor. Cyflwynir sesiynau gan arweinwyr ar draws yr ysgol, yn ogystal â llywodraethwyr sydd â phrofiad gwerthfawr mewn meysydd fel rheoli newid sefydliadol a gwella’r defnydd o holi. Caiff staff eu hannog i werthuso pob sesiwn, a gwneir newidiadau, o ganlyniad. Er enghraifft, addaswyd elfen ‘Cau’r Bwlch’ i gael mwy o ffocws ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac ychwanegwyd elfen ar gyfer darpar uwch arweinwyr. Mae’r amser a ddarperir rhwng sesiynau yn rhoi cyfleoedd buddiol i staff gynllunio a gweithredu ymagweddau er mwyn iddynt wella’u harfer.
Caiff pob aelod newydd o staff a benodir ei gyflwyno’n llawn i ymagwedd yr ysgol at gryfhau addysgu a dysgu, a’i gynorthwyo’n effeithiol i ddeall a datblygu yn unol â disgwyliadau’r ysgol. Mae’r arweinwyr ar gyfer addysgu a dysgu a chyfarwyddwyr dysgu yn arbenigwyr sy’n rhannu ac yn modelu ymagweddau fel bod gan athrawon yr hyder i’w treialu yn yr ystafell ddosbarth. Cynigir sesiynau ar amrywiaeth o feysydd penodol. Maent yn archwilio, er enghraifft, sut gellir defnyddio ‘galw diwahoddiad’ i uchafu cyfranogiad a dyfnhau meddwl, a sut i wirio dealltwriaeth ac addasu addysgu, o ganlyniad. Yn unol â chanfyddiadau o weithgareddau hunanwerthuso, mae sesiwn wedi cael ei hychwanegu yn ddiweddar ar ddefnyddio adborth ysgrifenedig i uchafu dilyniant dysgwyr.
Mae dysgu proffesiynol anffurfiol yn cynnwys cylchlythyrau addysgu a dysgu bob hanner tymor a thudalen addysgu a dysgu Teams. Caiff pob un o’r staff eu hannog i rannu a defnyddio ymchwil werthfawr trwy’r dulliau hyn. Mae uwch arweinwyr a chyfarwyddwyr dysgu yn ymchwilio’n eang ac yn rheolaidd. Maent yn hidlo ac yn lledaenu’r hyn sydd fwyaf perthnasol i anghenion yr ysgol ac yn berthnasol i anghenion staff yn effeithiol. Y nodwedd fwyaf nodedig o hyn yw’r ffordd y mae arweinwyr yn gwneud ymchwil yn berthnasol ac yn hawdd i staff ei hamgyffred. Mae hyn yn galluogi staff i ddeall sut i gymhwyso rhai ymagweddau yn yr ystafell ddosbarth.
Caiff ymrwymiad i ddysgu a gwelliant parhaus i bawb ei annog trwy ymagwedd yr ysgol at reoli perfformiad (RhP). Mae hyn yn gysylltiedig â’r modelau dysgu proffesiynol, ac addysgu a dysgu. Fel rhan o RhP, mae pob un o’r staff yn ymgymryd ag ymholi gweithredol i ganlyn eu hanghenion datblygiad addysgegol a’u diddordebau eu hunain. Trwy hyn, cânt eu hannog i fentro, treialu strategaethau newydd, a chydweithio ag athrawon o ysgolion eraill. Gofynnir iddynt weithredu ar fodel ‘darllen-gweithredu-myfyrio’ cyn defnyddio’r Pasbortau Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Maent yn cofnodi eu canfyddiadau fel Profiadau Dysgu Proffesiynol (PDPau). Er mwyn modelu a thyfu arweinyddiaeth ddysgu yn unol â’r model Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu, eir ati i annog staff i arddangos eu canfyddiadau yn ystod diwrnodau HMS ‘rhannu arfer orau’. Mae staff yn lledaenu eu dysgu proffesiynol a chynnydd eu hymholi gweithredol mewn cyfarfodydd cyfadrannau er mwyn ymgorffori diwylliant o ymholi.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd nodedig yn gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu, fel y nodwyd yn eu hadroddiad arolygu diweddaraf. Mae llawer o athrawon yn cynllunio a chyflwyno gwersi effeithiol sy’n cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd cryf. Mewn lleiafrif o achosion, mae’r addysgu yn ysbrydoledig ac yn helpu disgyblion yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau. Mae’r addysgu mewn nifer o adrannau, yn enwedig mathemateg, Saesneg, y dyniaethau ac ieithoedd tramor modern, yn hynod effeithiol ac mae cynnydd disgyblion yn adlewyrchu hyn.
Mae holi gan athrawon yn gryfder arbennig. Yn gyffredinol, mae athrawon yn defnyddio holi’n dda i wirio dealltwriaeth disgyblion a phrocio a dyfnhau eu dysgu. Mae hyn wedi arwain at ymgysylltu gwell ac agweddau gwell at ddysgu, ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fedrau siarad disgyblion, hefyd.
Mae ymrwymiad uwch arweinwyr i ddysgu parhaus i bawb wedi arwain at fanteisio’n gynyddol ar gyfleoedd dysgu proffesiynol gwirfoddol fel MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru). Mae’r trafodaethau brwdfrydig am addysgeg wedi creu newid nodedig mewn diwylliant, ac mae llawer mwy o staff bellach yn fwy parod i gymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol. O ganlyniad, mae staff yn fwy parod i ymgysylltu â rhaglen hyfforddi’r ysgol oherwydd y gred ar y cyd y dylai pob athro fod yn well, ac y gallant fod yn well. Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn galluogi staff i weithio gyda’i gilydd i arsylwi a gwella addysgu ei gilydd. Mae staff yn gwerthfawrogi’r rhaglen hon gan ei bod yn canolbwyntio ar yr agweddau penodol ar addysgu y maent yn anelu at eu gwella.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol yn croesawu cyswllt gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi’r ymagwedd hon ar waith yn eu lleoliad.