Effaith datblygiad proffesiynol gwasgaredig ag arbenigol ar ansawdd y ddarpariaeth.

Arfer effeithiol

Canolfan Addysg Y Bont


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Canolfan Addysg Y Bont yn ysgol arbennig 3-19 sydd wedi ei lleoli yn nhref Llanfefni a hi yw’r unig ysgol arbennig gydaddysgol sydd yn gwasanaethu Ynys Môn. Mae’r disgyblion a myfyrwyr yn rhychwantu sbectrwm eang o anghenion sy’n cynnwys awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu ac anableddau corfforol ac mae rhai yn gallu dangos ymddygiadau sy’n herio. Mae 125 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, mae 28% yn ferched a 72% yn fechgyn, o’r rhain mae 45% yn gymwys i ginio am ddim. Gwelwyd cynnydd o 35% mewn disgyblion yn ystod y pedwar blynedd ddiwethaf. Cymraeg ydi prif Iaith yr ysgol. Mae 64 o staff yn gweithio yn yr ysgol. 

Nod yr ysgol yw cynorthwyo disgyblion i gyflawni eu llawn botensial trwy leihau agweddau negyddol eu hanabledd mewn amgylchedd sy’n cynnig cynhesrwydd, diogelwch, cysondeb a dealltwriaeth. Er mwyn cyflawni hyn rydym yn cynnig cwricwlwm strwythuredig, eang, cytbwys, perthnasol gan ddarparu profiadau a sgiliau i fyfyrwyr ddatblygu cymaint o annibyniaeth â phosibl. Mae gan ein disgyblion fynediad at hinsawdd addysgu ddigyffro a chyson, sydd yn llwyddo i ymateb i’w hanghenion dysgu a gofal unigol ychwanegol a mynd i’r afael â’u diagnosis. Mae cyfathrebu’n effeitiol ar sawl lefel yn ffactor allweddol. Mae gennym ddisgwyliadau uchel ac rydym yn credu bod partneriaeth agored ac onest gyda rhieni/uned deuluol a hefyd gydag ystod eang o asiantaethau allanol yn allweddol i gyflawni ein nodau a bwriadau dysgu cytunedig. 

Mae gan bob disgybl yn yr ysgol ddatganiad ADY (5%) a/neu Gynllun Datblygu Ysgol (95%). Mae’r ysgol wedi’i threfnu i dri phrif grŵp – Meithrin/Cynradd (7 dosbarth), Uwchradd (7 dosbarth), a dosbarth gofal arbennig. Mae’r holl ddisgyblion yn dilyn un neu ragor o’n 4 llwybr dysgu, sef y Llwybr Anffurfiol (gan gynnwys Cyn-Anffurfiol), Lled-ffurfiol neu Ffurfiol. Mae’r ysgol wedi ymgorffori Cwricwlwm i Gymru drwy asio’r llwybrau dysgu i’r ddarpariaeth arbenigol. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gwnaethpwyd y penderfyniad i gynllunio ar gyfer gosod ffocws sylweddol ar ddatblygiad proffesiynol holl staff yr ysgol yn 2018. Mewn hinsawdd gynyddol hesb, ble mae/roedd gallu a chapasiti gwasanaethau eraill i gynnig mewnbwn a chefnogaeth i’r ysgol yn lleihau, cytunwyd bod angen i’r ysgol mynd ati i fod yn fwy hunan cynhaliol a sicrhau gwell dycnwch ac ansawdd i’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth fewnol. 

Golyga hyn y byddai’r ysgol mewn gwell sefyllfa wrth ymateb yn flaengar ac yn gynhwysfawr er mwyn cynnal, ymestyn a gwella’r ddarpariaeth. Yn ogystal, rhoddwyd pwyslais penodol  ar y gynhaliaeth arbenigol yn gyffredinol, gan fod pwyslais arbennig ar ofal, lles ag iechyd mewn lleoliad addysgol o’r fath. Teimlad arweinwyr yr ysgol oedd bod datblygiadau o fewn y sector arbennig bellach yn digwydd yn aml ac yn gyflym ar draws yr ystod anghenion ychwanegol, a bod yna ddyletswydd arnynt i alluogi ymateb mwy effeithiol draws ysgol. Adlewyrchwyd hwn yn bennaf wrth i ddata ysgol ddangos yn glir y cynnydd sylweddol yn lefel anghenion y disgyblion, h.y. roeddynt yn gynyddol fwy dwys a chymhleth wrth gychwyn yn yr ysgol. Er enghraifft, bu cynnydd o 22% o ddisgyblion di-iaith ag awtistiaeth. Yn syml, penderfynwyd fod rhaid datblygu a gweithredu mewn ffordd fwy addas, arbenigol ac unigol, er mwyn osgoi gorddibyniaeth ar asiantaethau allanol. 

Magwyd a gwreiddiwyd consensws cadarn y bydd yr ysgol yn medru rheoli a monitro ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth yn fwy effeithiol drwy gyflwyno sustemau a dulliau addysgu fyddai’n gwell adlewyrchu naratif a sefyllfa bresennol yr ysgol. Byddai hyn hefyd yn arwain at sefydlu gwell hyder yn ein trefniadau ymyrraeth gynnar a rhaglenni ymyrraeth  byddai’n targedu unigolion a grwpiau penodol. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd gyda chychwyn taith yr ysgol, wrth ddod i benderfyniadau cychwynnol ar ddatblygiad Cwricwlwm i Gymru o fewn yr ysgol. 

Aethpwyd ati i fuddsoddi amser ag arian mewn ystod eang o unigolion ag hyfforddiant arbenigol er mwyn gwireddu’r weledigaeth o gymuned ysgol sydd yn fwy hunan cynhaliol, fyddai hefyd yn ei dro yn arwain at hinsawdd barhaus o gynaladwyedd o fewn a thu hwnt i’r ysgol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Arfarnwyd y ddarpariaeth, gan adnabod agweddau a meysydd ble roedd yr ysgol yn ystyried ei hun yn or-ddibynnol ar fewnbwn asiantaethau allanol. Yn greiddiol i’r amcan oedd adnabod arweinwyr ar bob lefel, gan gynnwys meysydd arbenigol, ble roedd lefel uchel o gymhelliant a pharodrwydd i uwchsgilio yr aelod staff yn angenrheidiol. Er mwyn hyrwyddo hyn roddwyd mwy o berchnogaeth a hynni’n wasgaredig i’r gweithlu, wrth iddynt gymryd fwy o gyfrifoldeb yn eu datblygiad proffesiynol parhaus. Rhannwyd y weledigaeth o fod yn ganolfan o ragoriaeth yn gyson, gan fapio’n glir y deilliannau fyddai’n dylanwadu’n ffafriol a dros gyfnod estynedig ar ansawdd y ddarpariaeth. Yn ganolog i’r weledigaeth oedd y ddamcaniaeth bod arweinwyr yn datblygu arweinwyr eraill. 

Yn anochel, roedd angen trafodaethau anffurfiol a ffurfiol gonest ac agored ar gychwyn cyflwyno’r strategaeth, gyda ffocws penodol ar adnabod unigolion, llunio amserlen DPP ac adnabod ffynonellau ariannu. Mae’n briodol nodi pwysigrwydd y gwaith ymchwil sydd yn allweddol wrth adnabod darparwyr addas o safon wrth ystyried natur arbennig y sector. Roedd angen sylw gofalus wrth ystyried unrhyw gynllun costio yn y Cynllun Gwella Ysgol. 

Amlygwyd dwy ffrwd amlwg i’r strategaeth; sef datblygu arweinwyr ar bob lefel a datblygu unigolion i arwain ar agweddau arbenigol. Wrth glustnodi arweinwyr i ddatblygu, bu rhaid cynnal trafodaethau agos gyda’r consortiwm i gefnogi’r amcan. Hyffroddwyd a chymhwyswyd 35 o staff mewn amrywiol feysydd dros gyfnod o 5 mlynedd a hyd at y presennol. Mae’n werth nodi bod yr ysgol wedi ystyried y risg, a chynllunio ar gyfer staff sydd yn debygol iawn o symud ymlaen (oherwydd dyrchafiad/ymestyn gyrfa), gan fod hyn yn greiddiol i’r cysyniad o greu cynaladwyedd o fewn y ddarpariaeth. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros gyfnod o amser ag yng nghyd-destun yr ystod uwch-sgilio, cryfhawyd y ddarpariaeth ar bob lefel ar draws ysgol. Dilyniant naturiol i hyn oedd yr effaith gadarnhaol iawn ar safonau’r dysgwyr, gan gynnwys eu hiechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys; 

  • Bron pob un disgybl yn gwneud cynnydd nodweddiadol o’i man cychwyn, gan gynnwys mewn llafaredd, darllen a rhifedd. 

  • Cynnydd cadarn yn medrau cyfathrebu y rhan fwyaf o ddisgyblion ac y neu cyfranogiad. 

  • Cynnydd yn ansawdd rhyngberthnasu cadarnhaol disgyblion, eu hymddygiad a’u gallu i fynegi eu teimladau a rheoli eu hemosiynau. 

  • Datblygiad cadarnhaol ym medrau dysgu annibynnol disgyblion dros amser.

  • Cynnydd yn yr ystod o achrediadau a gynigir, ac mae data yn dangos cynnydd mewn cyrhaeddiad. 

  • Ychydig iawn o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd arwyddocaol dros amser ac wedi trosglwyddo i ysgolion prif-lif yn llawn amser. 

  • Cynnydd yn nisgwyliadau athrawon o’u disgyblion. 

  • Cryfhau sylweddol i’r cydberthynas rhwng disgyblion a’r staff, a thystiolaeth glir fod gan staff adnabyddiaeth dda iawn o gryfderau ac anghenion eu disgyblion. 

  • Y cynllun DPP wedi creu ymdeimlad cryf o gydweithio fel tîm.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Blaenoriaethwyd rhaglen fewnol o rannu arfer dda. Mae hyn wedi arwain at raglen o ddatblygiad proffesiynol cyson sydd yn gyrru gwelliant parhaus ar lawr dosbarth, ac sydd yn rhychwantu’r ystod arlwy diwrnodau HMS yr ysgol. Mae’r holl staff, boed yn newydd, yn ddibrofiad neu fel arall yn cael eu hannog i ‘daro i mewn’ i sesiynau ble mae arweinwyr yn arwain y dysgu. Yn aml cynhelir sesiynau hyfforddi ol-ysgol, a gweithredu’r sustem barhaus o gynnal sesiynau atgoffa a/neu anwytho. Prif ganlyniad medru trefnu hyfforddwyr cymwys yn fewnol i arwain ar hyfforddiant ydi bod modd bod yn hyblyg o ran amser, bod modd targedu unigolion a/neu grwpiau yn gyflym heb yr angen i ystyried cost neu faterion ymarferol megis gofod a darparwyr. Mae hyn hefyd yn creu mwy o amser i arweinwyr fynd i’r afael ar flaenoriaethau amgen sydd angen sylw. 

Mae’r ysgol yn rhannu arfer dda ac yn cynghori ysgolion prif-lif ble’r mae’r angen yn codi ac amser yn caniatáu. Yn aml mae athrawon a/neu cymhorthyddion o sefydliadau eraill yn ymweld er mwyn gweld yr arfer dda ar waith, ac er mwyn sefydlu rhaglenni ymyrraeth debyg. Mae arweinwyr o fewn yr ysgol yn cynghori ysgolion ar lunio Cynlluniau Datblygu Unigol effeithiol wrth i’r Bil ADY ddod i rym statudol. Rhenni’r arfer dda’r ysgol ymhlith rhanddeiliaid allweddol megis ysgolion arbennig y ranbarth, Gwasanaethau Arbenigol Plant a cholegau lleol, mae hyn yn cael effaith pwrpasol ar hyrwyddo unrhyw gynlluniau trosiannol neu drefniadau gofal sydd yn gyffredin rhwng sefydliadau.