Effaith datblygiad proffesiynol - Estyn

Effaith datblygiad proffesiynol

Arfer effeithiol

Clase Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr

Mae Ysgol Gynradd Clase yn ysgol gynradd gymunedol sydd wedi’i lleoli dair milltir i’r gogledd o ddinas Abertawe a milltir o dref Treforys.  Ar hyn o bryd, mae 311 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 36 o ddisgyblion rhan-amser yn y feithrinfa.  Mae gan yr ysgol 12 dosbarth a phedair canolfan addysgu arbenigol i ddisgyblion ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu cymedrol. 

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf yw 55%.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd i Gymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan tua 50% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Ar hyn o bryd, mae gan 11% ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae llawer o’r disgyblion hyn yn y pedair canolfan addysgu arbenigol, gydag ychydig yn unig ohonynt mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er Medi 2010.

Cyd-destun a chefndir i’r ymarfer

Mae Tîm Arwain yr Ysgol, gan gynnwys y corff llywodraethol, wedi dangos ymrwymiad cryf, cyson i wella’r ysgol er budd yr holl ddysgwyr.  Caiff hyn ei fynegi a’i rannu trwy weledigaeth, nodau ac arwyddair yr ysgol ac fe’i cefnogir gan gymuned yr ysgol, gan gynnwys disgyblion eu hunain, a’i randdeiliaid allweddol yn y gymuned ehangach.  Mae’r ymrwymiad hwn i’w weld yn y Siarter Arwain bresennol, sy’n seiliedig ar werthoedd a safonau arwain yr ysgol, ac mae’n amlygu’r pwysigrwydd arwyddocaol y rhoddodd arweinwyr yr ysgol ar nodi anghenion staff a rhoi ‘cyfleoedd iddynt serennu’.

Mae’r pennaeth wedi dangos dealltwriaeth glir, yn gyson, o bwysigrwydd strategol meithrin y gallu i arwain ar bob lefel ar draws yr ysgol.  Mae’n nodi cryfderau ymhlith staff ac yn rhoi’r cyfle iddynt dderbyn datblygiad proffesiynol parhaus o safon, a’r hyder i gymryd risgiau.  Trwy fodelu ac annog, mae hi’n cefnogi staff ac yn gosod safonau uchel, sy’n annog ymddiriedaeth a gweithio ar y cyd.

Mae uwch arweinwyr yn dangos ymrwymiad cadarn a gweithgar i’w datblygiad eu hunain a dangosant egni, uchelgais ac ymrwymiad i ethos, diwylliant a gweledigaeth yr ysgol.  O ganlyniad, mae bron pob un o’r staff wedi’u hysbrydoli a’u hannog i wella’u harferion eu hunain a meddu ar ddyheadau uchel.

Dros nifer o flynyddoedd, mae’r ysgol wedi datblygu hanes cyson o feithrin gallu, ac ymrwymiad cryf iawn iddo, trwy fanteisio ar hyfforddiant o ansawdd uchel a grymuso unigolion, yn enwedig o ran datblygiad personol a gyrfaol.  Mae hyn yn cynnwys nodi dyheadau staff a chynllunio cyfleoedd posibl yn ystod cyfarfodydd perfformiad.  Caiff anghenion a gofynion hyfforddi penodol eu nodi ac wrth ymgymryd â rolau arwain yn yr ysgol, mae staff yn cael ‘cyfle i serennu’.  O ganlyniad, mae bron pob un o’r staff yn cytuno’n gryf eu bod yn cael cyfle priodol i ddatblygu’n broffesiynol a bod pwys yn cael ei roi ar eu cyfraniad a’u medrau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Mae trefniadau cadarn i reoli perfformiad ar waith, ac mae cyfleoedd dysgu proffesiynol llwyddiannus ar gael i’r holl staff.  Mae’r prosesau hyn yn helpu i wella’r ysgol ac yn cefnogi dilyniant gyrfaol yn effeithiol.  Mae hyn yn nodwedd gref o’r ysgol.

Darperir hyfforddiant i gynorthwyo unigolion i ddatblygu’u rolau arwain ac mae gan yr ysgol ddiwylliant cryf o arweinyddiaeth wasgaredig.  Er enghraifft:

  • Mae’r holl uwch arweinwyr wedi cwblhau hyfforddiant ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth a rheolaeth neu mewn dysgu proffesiynol.  Er enghraifft, mae athro arweiniol y cwricwlwm ac athro arweiniol cymorth bugeiliol ac anogaeth wedi cwblhau diploma 2 flynedd mewn arweinyddiaeth a rheolaeth i raddedigion.  Mae athro arweiniol TGCh/y Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi cwblhau hyfforddiant arweinyddiaeth ganol yn llwyddiannus a Diploma pellach mewn Dysgu Proffesiynol i raddedigion.

  • Mae’r pennaeth yn arolygydd cymheiriaid ar ran Estyn ac mae wedi cefnogi cydweithwyr eraill yn yr awdurdod lleol ac ar draws y consortiwm rhanbarthol yn effeithiol.

  • Mae’r dirprwy bennaeth wedi cwblhau’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, mae’n arweinydd asesu yn y clwstwr ac mae wedi cwblhau cwrs anogaeth a rheolaeth.

  • Rhoddir cyfle i arweinwyr y cwricwlwm fynychu hyfforddiant rhanbarthol ar arweinyddiaeth ganol.

  • Mae’r holl athrawon yn y ddarpariaeth addysgu arbenigol wedi cwblhau, neu wrthi’n cwblhau, diplomâu ôl-raddedig mewn cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol difrifol a chymhleth.

  • Mae ychydig gynorthwywyr addysgu wedi cwblhau’r Rhaglen Athrawon Graddedig ac maent yn athrawon yn yr ysgol erbyn hyn, gydag un o’r cyntaf i ymgymryd â’r hyfforddiant eisoes mewn rôl arwain uwch yn yr ysgol.

  • Mae ychydig athrawon wedi cwblhau gradd Feistr mewn ymarfer addysg ac mae un o’r cynorthwywyr addysgu’n cwblhau gradd Feistr mewn cefnogi disgyblion ag awtistiaeth.

  • Mae’r gofalwr wedi cwblhau prentisiaeth mewn rheoli cyfleusterau.

  • Mae uwch athro arweiniol y cwricwlwm wedi cymryd rhan mewn secondiad mewnol rhanbarthol hynod effeithiol ar ‘ddatblygu arweinyddiaeth uwch’.  Mae’r broses hon wedi cynorthwyo â datblygu medrau arwain.

  • Mae nifer cynyddol, graddol, o gynorthwywyr addysgu wedi manteisio ar, neu wedi cwblhau, cyrsiau gradd sylfaen ac wedi mynd i ymlaen i gyrsiau gradd llawn.  Mae rhai wedi parhau i gymhwyso’n athrawon.

  • Mae’r holl lywodraethwyr wedi mynychu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn yr ysgol a chyda’r awdurdod lleol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

 

O ganlyniad i allu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, mae llawer o staff wedi ymgymryd â rolau arwain pellach yn yr ysgol.  Mae hyn wedi helpu ymhellach i ddatblygu arweinyddiaeth wasgaredig a sicrhau cysondeb, hyd yn oed pan fydd staff yn cael eu dyrchafu o fewn yr ysgol neu’n symud i ysgolion eraill.  Mae hyn hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Mae nifer cynyddol, graddol, o staff wedi ymgymryd ag amrywiaeth o raddau sylfaen ac, o’r rheiny, mae nifer sylweddol bellach wedi cwblhau graddau ac mae un wrthi’n ymgymryd â gradd Feistr ar Awtistiaeth.

Mae trefniadau i ddatblygu staff yn broffesiynol wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar gynnydd disgyblion a’u lles.  Mae cysylltiadau, rhwydweithiau a rhannu arfer dda yn llwyddiannus wedi sicrhau bod gallu’n cael ei feithrin yn effeithiol yn yr ysgol a chydag ysgolion a darparwyr addysg eraill.  Er enghraifft, o ganlyniad i secondiad arweinydd uwch i rôl wyddoniaeth, mae disgyblion wedi gallu gwella medrau cofnodi’u hymchwiliadau ym Mlynyddoedd 5 a 6.

Mae gan yr ysgol ddiwylliant cryf o arweinyddiaeth wasgaredig, sydd wedi effeithio’n sylweddol ar wella’r ysgol ac ar addysgu a dysgu.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’i harfer gydag ysgolion eraill yn Abertawe ac yn y rhanbarth.

Mae’r pennaeth wedi cefnogi penaethiaid ac arweinwyr eraill yn effeithiol trwy grŵp ymgynghorol yr awdurdod lleol ac, yn fwy diweddar, trwy’r rhaglen gymorth ranbarthol Ysgol i Ysgol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn