Effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir – Mai 2015
Adroddiad thematig
Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. Mae’r adroddiad yn archwilio effaith athrawon ymgynghorol ar leoliadau nas cynhelir a ariennir. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau sy’n dangos effaith athrawon ymgynghorol. Mae tri atodiad yn cynnwys sail dystiolaeth fanwl ar gyfer yr adroddiad, trefniadau presennol ar gyfer cefnogi a herio lleoliadau nas cynhelir a rhestr wirio ar gyfer ymweliadau ymgynghorol â lleoliadau.
Argymhellion
Dylai athrawon ymgynghorol:
- ddarparu lefel addas o her ar gyfer lleoliadau a sicrhau bod ymweliadau a hyfforddiant yn canolbwyntio ar wella safonau plant
- parhau ag arweinyddiaeth a rheolaeth gefnogol ond gwneud mwy i fodelu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a rhannu syniadau newydd gydag ymarferwyr
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn addysg sy’n effeithio ar leoliadau
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- ddarparu 10% o amser athrawon ymgynghorol ar gyfer pob lleoliad a sicrhau bod athrawon ymgynghorol yn ymweld â lleoliadau yn rheolaidd
- gwneud yn siŵr bod lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn cael cymorth a hyfforddiant yn yr iaith y maent yn gweithredu ynddi
- monitro gwaith athrawon ymgynghorol a sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi yn cael eu nodi a’u bodloni
- gweithio gyda’i gilydd a gyda sefydliadau gwirfoddol i sicrhau bod lleoliadau’n cael cymorth cynhwysfawr a chysylltiedig, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol a diogelu
- dwyn sefydliadau gwirfoddol a ariennir i gyfrif am ansawdd eu cyngor a’u harweiniad
- sicrhau bod cynifer o ymarferwyr nas cynhelir ag y bo modd yn gallu mynychu hyfforddiant
- ystyried penodi athrawon ymgynghorol am gyfnod penodol i adfywio’r gwasanaeth y gallant ei gynnig
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried clustnodi cyllid i wneud yn siŵr bod bob lleoliad yn cael 10% o gymorth gan athro cymwys a hyfforddiant yn ychwanegol i hyn
- creu rhwydwaith i athrawon ymgynghorol rannu gwybodaeth ac arfer orau