Effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad dysgwyr mewn addysg bellach a dysgu yn y gwaith – Gorffennaf 2011
Adroddiad thematig
Mae colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith yn rhoi gofal, cymorth ac arweiniad i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig, ond mae angen iddynt wneud yn siŵr bod y dysgwyr hyn yn cyflawni eu potensial.Nifer fach yn unig o golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith sy’n cymharu cyflawniadau dysgwyr o ardaloedd difreintiedig, neu’r rhai sy’n cael cymorth ariannol, â pherfformiad dysgwyr eraill. Nid ydynt yn gwneud digon o ddefnydd o ddata ar ymrestru i ddadansoddi a ydynt yn cynnig y cyrsiau cywir i ddenu dysgwyr o ardaloedd difreintiedig.
Argymhellion
Dylai darparwyr:
- roi cymorth ac arweiniad i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig cyn iddynt wneud cais ar gyfer rhaglenni;
- olrhain perfformiad a chynnydd dysgwyr o ardaloedd difreintiedig a chymharu’r rhain â pherfformiad dysgwyr o ardaloedd eraill;
- arfarnu effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer dysgwyr o ardaloedd difreintiedig i nodi ei effaith ar gyrhaeddiad; a
- gweithio’n agosach gydag ysgolion a darparwyr eraill i nodi dysgwyr o ardaloedd difreintiedig a’u hanghenion cymorth.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- barhau i gefnogi dysgwyr o ardaloedd difreintiedig yn ariannol i’w galluogi i gwblhau eu haddysg neu’u hyfforddiant; a
- datblygu meincnodau cenedlaethol a thargedau ar gyfer gwella yng nghyrhaeddiad dysgwyr o ardaloedd difreintiedig.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.