Effaith absenoldeb athrawon – Medi 2013

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn archwilio ‘effaith strategaethau ysgolion i gyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon ar gynnydd dysgwyr a chyflogaeth, hyfforddiant a defnyddio athrawon cyflenwi yn effeithiol ac effeithlon’. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos sy’n amlygu dulliau cyffredin o reoli absenoldeb athrawon.Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn mewn cydweithrediad â Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn sôn am effeithlonrwydd a gwerth am arian trefniadau adnoddau dynol i leihau absenoldeb athrawon a gwneud trefniadau cyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon ar lefel ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad Estyn hwn yn canolbwyntio ar effaith absenoldeb athrawon ar ddysgwr ac ar y ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth, a sut mae ysgolion yn rheoli effaith absenoldeb athrawon.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • reoli absenoldeb athrawon yn fwy effeithlon;
  • gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn gwersi a gyflenwir, drwy wneud yn siwr bod y gwaith a osodir ar lefel briodol a bod y staff yn cael digon o wybodaeth am anghenion unigol y dysgwyr;
  • cynorthwyo staff cyflenwi a staff llawn i wella’u technegau rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth;
  • arfarnu effaith absenoldeb athrawon ar ddysgwyr, yn enwedig y disgyblion mwy galluog a’r rhai yng nghyfnod allweddol 3, a monitro ansawdd yr addysgu a’r dysgu pan fydd athrawon yn absennol;
  • sicrhau bod staff cyflenwi yn cael eu cynnwys mewn trefniadau rheoli perfformiad;
  • cynnig mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff cyflenwi; a
  • gwneud yn siwr bod staff cyflenwi yn cael gwybodaeth hanfodol am iechyd a diogelwch a diogelu, gan gynnwys manylion cyswllt y swyddog amddiffyn plant enwebedig yn yr ysgol.

Dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau hyfforddi:

  • ddarparu data cymharol ar gyfraddau absenoldeb athrawon i ysgolion; a
  • gofyn am adborth ar ansawdd staff cyflenwi y maent yn eu cofrestru, a’i gofnodi, a defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion rheoli ansawdd.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu gwell mynediad i staff cyflenwi at y rhaglenni hyfforddi cenedlaethol hynny sydd ar gael i athrawon mewn swyddi parhaol.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn