Dysgu yn yr agored: arfarnu dysgu yn yr awyr agored i blant o dan bump oed yn y Cyfnod Sylfaen – Medi 2011
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion a lleoliadau:
- roi cyfleoedd mwy rheolaidd i blant ddatblygu ac ymarfer eu medrau darllen ac ysgrifennu yn yr awyr agored;
- cynllunio, trefnu ac asesu dysgu a lles yn yr awyr agored fel y maent yn gwneud dan do;
- sicrhau bod pob un o’r staff wedi’u hyfforddi’n dda ac yn hyderus yn defnyddio’r awyr agored i gefnogi dysgu’r plant; ac
- ystyried yr effaith ar ddeilliannau i blant wrth wneud penderfyniadau ariannol i ddatblygu darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.
Dylai awdurdodau lleol:
- ddarparu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr a rheolwyr i’w helpu i nodi arfer orau yn narpariaeth dysgu yn yr awyr agored; a
- gweithio gydag ysgolion a lleoliadau i wella’r data sydd ar gael i arfarnu effeithiolrwydd dysgu yn yr awyr agored.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddarparu arweiniad ar arfarnu cost effeithiolrwydd darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.