Dysgu trwy chwarae mewn cyd-destun bywyd go iawn

Arfer effeithiol

Cadoxton Community Primary

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Tregatwg wedi’i lleoli yn nwyrain y Barri ym Mro Morgannwg.  Gyda nifer  y disgyblion ar y gofrestr yn cynyddu ac yn sgil Ysgol Feithrin Tregatwg â’r ysgol yn ddiweddar ym Medi 2016, mae poblogaeth yr ysgol wedi cynyddu’n raddol o ryw 300 i 500 o ddisgyblion.  Mae tua 38% ohonynt yn cael eu hystyried yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw cyfartaledd yr awdurdod lleol a’r cyfartaledd cenedlaethol.  Hefyd, ystyrir bod gan oddeutu 38% o ddisgyblion ryw raddau o anghenion dysgu ychwanegol, sydd hefyd uwchlaw cyfartaledd yr awdurdod lleol a’r cyfartaledd cenedlaethol.  Nid oes gan yr un disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Tregatwg yn ymrwymo i ddarparu’r cyfnod sylfaen i bawb.  Mae’r ffocws ar greu amgylchedd sy’n caniatáu i ddisgyblion ddysgu trwy chwarae strwythuredig ym Mlwyddyn 2.  Mae hyn yn annog dysgwyr i archwilio sefyllfaoedd realistig drwy ryngweithio â’i gilydd mewn amrywiaeth o gyd-destunau tebyg i ‘Bentref’, i archwilio rolau byd oedolion yn ddychmygus.  Mae’r ‘Pentref’ yn galluogi efelychu llawer o brofiadau gwahanol bywyd go iawn ac mae’r disgyblion yn rhyngweithio rhwng y cyd-destunau gwahanol ar gyfer dysgu.  Sefydlwyd y ‘Pentref’ gyda’r nod o ganiatáu i ddisgyblion ddatblygu’u medrau trwy dasgau cyfoethog mewn amgylchedd gweithredol a chynorthwyol, sy’n cynnig profiadau i’r disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Crëwyd y ‘Pentref’ i gynnig cyd-destunau cyffrous i ddysgwyr Blwyddyn 2 ar gyfer dysgu, sy’n ysgogi ymatebion cyfoethog mewn iaith lafar ac yn cynyddu’u dealltwriaeth.  Mae’n galluogi disgyblion i ddatblygu dychymyg byw trwy gyd-destunau dilys, cyfoethog.

Nodau:
  • cyfleodd dilys i ddatrys problemau
  • mae popeth yn y ‘Pentref’ yn bethau go iawn
  • heriau estynedig sy’n caniatáu am gyfleoedd i ddatblygu medrau sylfaenol
  • cyd-destunau wedi’u harwain gan ddisgyblion, gyda’u syniadau yn cyfrannu at ddatblygiad yr amgylchedd
  • amgylchedd sy’n gallu cael ei newid a’i addasu yn addas i’r dasg gyfoethog ac yn adlewyrchu pynciau perthnasol presennol ac amser y flwyddyn
  • datblygu medrau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a all gael eu haddasu yn dibynnu ar gam y dysgwr
  • cyfleoedd ymchwil
  • teithiau ymchwil ymestynnol i gefnogi elfen y ‘pentref’ sy’n gysylltiedig â llais y disgybl

     

Daw dysgu disgyblion yn gyfoethocach gan eu bod yn gallu defnyddio iaith i archwilio’u profiadau a’u bydoedd dychmygus eu hunain.  Nid oes ofn arnynt roi cynnig ar bethau newydd, gan ddysgu o’u camgymeriadau.
Mae disgyblion yn trosglwyddo’u medrau mathemategol i weithgareddau annibynnol yn dda ac nid oes arnynt ofn gwneud camgymeriadau ac archwilio ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â her. 

Ar ôl archwilio stondinau marchnad y ‘Pentref’ i ddechrau, darganfu’r ysgol fod y disgyblion am ddatblygu’r rhain ymhellach.  I ategu’r datblygiad hwn, cynhaliodd yr ysgol daith ymestynnol i Farchnad Caerdydd.  Fe wnaethant ymchwilio i’r pethau allai fod mewn marchnad a sut gallai marchnad gael ei datblygu.  Canfu’r ysgol fod y berchenogaeth hon wedi galluogi disgyblion i ymddiddori’n llawn yn eu dysgu a’i fwynhau, gan ysgogi angerdd a balchder yn yr amgylchedd a grëwyd ganddynt.  Llais y disgybl oedd y grym wrth wraidd datblygu eu cyfleoedd dysgu eu hunain, gan hybu dysgu trwy wneud, profi a darganfod pethau drostynt eu hunain.  Roeddent yn gallu:

  • dewis, cymryd rhan, cychwyn a chyfeirio’u dysgu eu hunain
  • dysgu o weithgareddau uniongyrchol ac ymarferol, trwy brofiad
  • profi lefel briodol o her a chefnogaeth gan yr oedolion
  • manteisio ar amgylchedd dysgu ysgogol, dan do ac yn yr awyr agored, fel y gwneir cynnydd da
  • trosglwyddo medrau llythrennedd a rhifedd ar draws feysydd dysgu yn hyderus

     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Trwy’r defnydd creadigol o’r amgylchedd, mae safonau disgyblion wedi gwella, yn enwedig yn y lefel cyflawniad yn y ddarpariaeth estynedig ac wrth i ddisgyblion weithio’n annibynnol.  Mae gan ddisgyblion nodau dysgu clir ac maent wedi cymryd perchenogaeth ar y ddarpariaeth a’r heriau a osodir.  Mae’r ‘Pentref’ wedi codi safonau medrau personol a chymdeithasol i bron pob un o’r disgyblion trwy ganiatáu iddynt weithio’n annibynnol ac ar y cyd.  Mae safonau rhesymu rhifyddol wedi codi oherwydd bod medrau’n cael eu cymhwyso’n ymarferol mewn amrywiaeth o gyd-destunau bywyd go iawn.  Mae’r disgyblion yn gallu mynd yn ôl at fedrau er mwyn symud eu dysgu yn ei flaen.  Mae safonau ysgrifennu annibynnol y disgyblion wedi codi, yn enwedig i’r bechgyn, trwy roi diben ystyrlon i’w gwaith ysgrifennu.  Maent yn ymfalchïo yn eu tasgau dysgu ac eisiau cwblhau tasgau i safon uchel.  Mae disgyblion wedi gallu datblygu’u medrau llythrennedd a rhifedd yn greadigol ar draws y cwricwlwm ac mae eu dealltwriaeth wedi gwella’n sylweddol yn sgil cymhwyso medrau yn ymarferol, mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.  Mae defnyddio technoleg ddigidol yn y ‘Pentref’, er enghraifft gan ddefnyddio camera gweithgareddau i recordio profiadau dysgu, yn gwella’u medrau TGCh ymhellach.  Defnyddiant ap i rannu’r dysgu sy’n digwydd gyda’u rhieni gartref.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae llawer o ysgolion o bob cwr o Gymru wedi ymweld â’r ysgol i weld y ddarpariaeth.  Mae’r weledigaeth ar gyfer dysgu trwy brofiad, trwy ddarpariaeth chwarae o ansawdd uchel, wedi cael ei rhannu yn ystod diwrnodau agored ac mewn rhaglenni hyfforddiant mewn ysgolion, a gynhelir ar ran y consortiwm. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn