Dysgu Proffesiynol yn Ysgol Heronsbridge - Estyn

Dysgu Proffesiynol yn Ysgol Heronsbridge

Arfer effeithiol

Heronsbridge School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Heronsbridge yn ysgol breswyl arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 19 oed. Mae bron pob un o’r disgyblion yn mynychu bob dydd. Ar hyn o bryd, mae 266 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 240 aelod o staff. Mae gan lawer o ddisgyblion naill ai ddatganiad o anghenion arbennig neu gynllun datblygu unigol (CDU) awdurdod lleol. Mae gan ddisgyblion yn yr ysgol amrywiaeth o anghenion, yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), anawsterau dysgu difrifol (ADD) ac anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA). Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n adrannau cynradd, uwchradd, ôl-16, a cheir canolfan ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran sydd wedi cael diagnosis cychwynnol o awtistiaeth ac anghenion cymhleth. Mae 41% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae cyfraddau presenoldeb tua 91%.

Mae gan yr ysgol weledigaeth sefydledig, sef, ‘Fe Rown Ni Adenydd Iddyn Nhw, a Bydd Ein Crehyrod yn Hedfan’, a gwerthoedd cryf, sy’n cael eu rhannu gan yr holl staff a rhanddeiliaid. Mae’r rhain yn gosod y disgyblion yn gadarn wrth wraidd popeth sy’n digwydd yn yr ysgol. Mae ‘Gyda’n gilydd, gallwn ni’ wedi’i ymgorffori’n ddwfn ym mhopeth sy’n digwydd ar draws yr ysgol. Mae’r ysgol yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau, yn Ysgol Blatinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ac yn Ysgol Ddiemwnt Buddsoddwyr mewn Teuluoedd. O ganlyniad, mae gan bob un o’r staff ddisgwyliadau a dyheadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Aeth Heronsbridge ati i ymgysylltu â diwygio’r cwricwlwm fel ysgol arloesi ar gyfer y cwricwlwm a dysgu proffesiynol, ac fel ysgol beilot ar gyfer y ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’, y ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu’ newydd a’r ‘model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’. Roedd hyn yn ymdrin â ffocws Llywodraeth Cymru ar baratoi’r gweithlu ar gyfer newid trawsffurfiannol: i ddatblygu gweithlu addysg hynod hyfforddedig sydd wedi ymrwymo i ddysgu parhaus i bawb, gyda phwyslais ar ddysgu proffesiynol i gyflawni’r uchelgais ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

Fel ysgol arloesi, anogwyd Heronsbridge i ailfeddwl am ei haddysgeg, bod yn arloesol mewn ymagweddau a hwyluso asiantaeth athrawon mewn archwilio a deall y Cwricwlwm i Gymru. Y model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r safonau proffesiynol newydd oedd y cyfryngau a ddefnyddiwyd ar gyfer hyn. Fe wnaeth y model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu alluogi’r ysgol i greu’r hinsawdd, y diwylliant a’r strwythurau dysgu cywir i addasu yn wyneb newid. Helpodd y safonau proffesiynol i osod disgwyliadau uchel ochr yn ochr â datblygu ymarferwyr myfyriol sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu hanghenion datblygu proffesiynol eu hunain, ac ar y cyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Gweledigaeth yr ysgol, sef: ‘Fe Rown Ni Adenydd Iddyn Nhw, a Bydd Ein Crehyrod yn Hedfan’, yw’r diben a’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu sy’n ategu holl brosesau gwella’r ysgol. Mae’r arolwg blynyddol yn rhoi gwybod i’r ysgol ble mae ar hyn o bryd, a ble mae angen iddi fod. Mae’n hanfodol i bob aelod o staff gael codi llais ynghylch gwella’r ysgol, a’r man cychwyn ar gyfer hyn yw’r arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, sy’n graddio perfformiad yr ysgol yn y saith dimensiwn sy’n seiliedig ar weithredu; sy’n amlygu’r nodau a’r prosesau dyheadol i drawsnewid ysgol yn sefydliad dysgu. Mae cynllun gwella’r ysgol yn tyfu o ganlyniadau’r arolwg. Yn ychwanegol, rhoddir cyfleoedd i bob un o’r staff fyfyrio ar eu harfer gan ddefnyddio’r safonau proffesiynol a ffolderi eu ‘Taith Ddysgu Broffesiynol’, fel sbardun i hyrwyddo ymwybyddiaeth bersonol ochr yn ochr â thrafodaethau ar y cyd ar ddysgu proffesiynol ar draws yr ysgol.

Trwy ymateb i ganlyniadau arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, gall yr uwch dîm arweinyddiaeth hwyluso rhaglen o gyfleoedd dysgu proffesiynol, sy’n mynd i’r afael ag anghenion yr ysgol ac yn grymuso staff i gymryd perchnogaeth o’u taith ddysgu. Mae’r gwaith hwn yn sicrhau bod yr ysgol: yn diwallu anghenion dysgu unigol disgyblion, yn cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm, yn cefnogi profiadau dysgu disgyblion ac yn rheoli’r amgylchedd dysgu’n rhagweithiol i sicrhau perthnasoedd anogol gyda disgyblion.

Defnyddir grantiau yn effeithiol i alluogi staff i fanteisio ar hyfforddiant a chymorth o gyfeiriadur pwrpasol Heronsbridge ochr yn ochr â chyfleoedd allanol sydd ar gael.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Pecyn ymsefydlu / prawf cynhwysfawr, yn cynnwys hyfforddiant ac E-ddysgu gorfodol.
  • Sesiynau Cyfnos yn ystod y tymor – hawl i bawb – gyda ffocws sylweddol ar les a pharodrwydd i ddysgu medrau – fe’u cefnogir gan y tîm iechyd, y tîm cynorthwyo disgyblion a’r tîm cyfathrebu / digidol
  • Rhaglen Ddatblygu Heronsbridge: i gynnal dilyniant a safonau ar draws yr ysgol.
  • Cyfleoedd am drafodaeth broffesiynol ar addysgeg trwy hyfforddi cymheiriaid, dadansoddi fideos a myfyrdodau, teithiau dysgu a bwrw golwg ar lyfrau – calendr o gyfarfodydd a’u dibenion.
  • Hyfforddiant yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) a chysylltiadau â darparwyr hyfforddiant allanol i gefnogi llwybrau dysgu achrededig.
  • Ymglymiad byd-eang i rannu arfer trwy brosiect BOTAWA a ariennir gan y Cyngor Prydeinig (cyswllt ag ysgolion yn Botswana, Tansanïa a Chymru)
  • Mae llawer o staff yn cael eu hyfforddi i fod yn hyfforddwyr achrededig, gan sicrhau bod medrau a gwybodaeth yn cael eu cyflwyno’n gynaliadwy.
  • Tanysgrifio i ddarparwyr E-ddysgu i ganiatáu ymagwedd hyblyg at ddysgu, gydag ardal staff ar y wefan yn cynnig cyfeiriad pellach at gyfleoedd dysgu.
  • ‘Cyfeiriadur’ hyfforddiant i arwain staff yn eu taith ddysgu.

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr, ond mae’n dangos buddsoddiad yr ysgol yn y cynnig dysgu proffesiynol gorau i staff, i gefnogi llwyddiant pob dysgwr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cynnig dysgu proffesiynol helaeth – sy’n gysylltiedig â gwerthoedd ysgol, rheoli perfformiad a thargedau gwella’r ysgol – yn cyflawni anghenion dysgu proffesiynol pob un o’r staff. Mae hyn yn hanfodol i gynllunio gwelliant, gyda gwerthusiad helaeth o effaith ar ddysgwyr a dysgu gan arweinwyr. Caiff effaith ei mesur trwy bresenoldeb, graddfeydd ymddygiad, agweddau at ddysgu, ymgysylltu, lles a chynnydd mewn dysgu a chyflawniad personol.

‘O ganlyniad, mae gan yr ysgol weithlu hynod hyfforddedig sy’n fedrus wrth reoli anghenion disgyblion ar draws yr ysgol yn eithriadol o dda.’ (Estyn 2023)

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Cyfle systemig trwy rwydweithiau Consortiwm Canolbarth y De, y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC), Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu (TALP) a grwpiau cydweithio ysgolion arbennig.
  • Mae staff allweddol yn cyflwyno hyfforddiant yn rheolaidd trwy Gonsortiwm Canolbarth y De – e.e. athrawon sy’n newydd i ADY ac Arweinwyr y Dyfodol (ysgolion arbennig).
  • Bydd staff sydd wedi cael eu hyfforddi gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) yn darparu hyfforddiant i rieni, gyda hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu gan ein tîm ymgysylltu â theuluoedd.
  • Mae systemau dysgu proffesiynol Heronsbridge wedi cael eu rhannu ag arweinwyr ysgolion arbennig eraill ar draws Cymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru a rhwydweithiau’r South and West Association of Leaders of Special Schools mewn cyfarfodydd a chynadleddau.
  • Rhennir rhestr chwarae dysgu proffesiynol yr ysgol ar Hwb: Cyfleoedd datblygu a dysgu staff: Ysgol Heronsbridge – Hwb (llyw.cymru)

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn