Dysgu proffesiynol yn gwella ansawdd addysg ac yn helpu i wella deilliannau

Arfer effeithiol

Barry Island Primary


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae tri phennaeth ac uwch staff tair ysgol gynradd wedi cysylltu’n agos a chydweithio fel unigolion unfryd sy’n rhannu brwdfrydedd dros wella’r dysgu a’r addysgu yn eu hysgolion. Fe wnaethant greu rhwydwaith effeithiol rhwng eu hysgolion, a oedd yn ychwanegol i’r grwpiau clwstwr ysgolion a ffurfiwyd gan yr awdurdod lleol. Ers hyn, mae’r rhwydwaith hwn wedi datblygu’n llwyddiannus iawn yn gymunedau dysgu proffesiynol (CDPau) ar draws y tair ysgol. Yn sgil penodi un o’r penaethiaid i ysgol arall yn yr un awdurdod yn ddiweddar, mae lle i’r cymunedau dysgu hyn gynnwys dros 1500 o ddisgyblion a 150 o staff.

Fel ysgolion a oedd eisoes yn perfformio’n dda o gymharu â chyfartaleddau teuluol, lleol a chenedlaethol, roedd arweinwyr a rheolwyr yn ymwybodol iawn o’r heriau o ran cynnal, lle bo’n bosibl, a sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion. Ar yr un pryd, roedd newidiadau i’r cwricwlwm ac addysgeg, fel ‘Rhaglen Datblygu Medrau Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu’ Llywodraeth Cymru, gyda’i ffocws ar ddatblygu medrau meddwl dysgwyr, yn gofyn am ffyrdd newydd a gwahanol o weithio. Cydnabu’r
arweinwyr a’r rheolwyr hyn:

  • fanteision rhannu gwybodaeth a hyrwyddo arfer orau ar draws yr ysgolion;
  • y modd yr oedd ymchwil yn seiliedig ar weithredu yn helpu staff i fod yn fwy gwybodus am ddysgu ac addysgu;
  • y gellid cyflawni darbodion maint pwysig pan gaiff adnoddau eu rhannu; a’r
  • flaenoriaeth uchel y dylai ysgolion ei rhoi i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion er mwyn iddynt allu llwyddo mewn gwaith ar draws y cwricwlwm a chyflawni safonau uwch.

Trwy gydweithio, dadansoddi gwahanol ddulliau a her arfer, mae’r ysgolion hyn wedi llwyddo i wella ansawdd addysg a galluogi disgyblion i gyflawni deilliannau gwell.Negeseuon o’r ysgolion

‘Rydym yn credu’n gadarn bod yn rhaid cael y diwylliant cywir i gymunedau dysgu proffesiynol ffynnu. Gan ein bod eisoes wedi sefydlu ymddiriedaeth rhyngom ni ein hunain fel rhwydwaith, nid oedd ofn arnom i herio ein gilydd.’

Janet Hayward, Pennaeth, Ysgol Gynradd Tregatwg

‘Mae gweithio fel rhan o gymuned ddysgu broffesiynol gydag ysgolion eraill wedi cefnogi ein hunanarfarniad ein hunain gan ein bod wedi cael golwg allanol ar ein harfer. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn gweld beth mae ysgolion eraill yn ei
wneud yn dda.’

Kelvin Law, Pennaeth, Ysgol Gynradd Romilly

‘Mae’n bwysig bod yn agored i weithio mewn gwahanol ffyrdd am ei fod ynglŷn â gweld sut y gall gwahanol fathau o ddulliau fod o fudd i’r ysgol.’

Louise Lynn, Pennaeth, Ysgol Gynradd y Rhws

‘Gyda’r darbodion maint, yr ydym wedi’u cyflawni trwy gydweithio, gall ddisgyblion ddysgu mewn ffyrdd mwy amrywiol a chyffrous.’

Tŷ Golding, Pennaeth, Ysgol Gynradd Ynys y Barri

Manylion am yr arfer dda

Mae cymunedau dysgu proffesiynol wedi datblygu yn yr ysgol dros gyfnod o sawl blwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae staff wedi sefydlu dull cyffredin, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn iddynt wrth ganolbwyntio ar ystod o waith. Mae’r dull hwn yn cynnwys:

  • cyfarfodydd cychwynnol staff cynrychioliadol o’r ysgolion sy’n cymryd rhan, lle mae staff yn cytuno ar y meysydd gwaith a’r deilliannau sydd eu hangen;
  • gofyn i weithwyr proffesiynol o ansawdd uchel sy’n meddu ar arbenigedd sylweddol a pherthnasol i adolygu dulliau cyfredol gyda’r ysgolion;
  • datblygu ystod o weithgareddau, yn cynnwys ymchwil ystafell ddosbarth sy’n seiliedig ar weithredu, i fodloni’r amcanion a osodir gan yr ysgolion; ac
  • adrodd yn ôl i bob un o’r staff fel bod y rhai nad ydynt yn ymwneud â’r gymuned ddysgu broffesiynol yn uniongyrchol yn cael cyfle i drafod, holi a dysgu am y gwaith a wnaed.

Mae’r cymunedau dysgu proffesiynol wedi canolbwyntio ar wahanol agweddau ar wella ysgolion, fel datblygiadau’r cwricwlwm, asesu ar gyfer dysgu, prosiectau amser chwarae, gwella gwaith gwyddoniaeth ymchwiliol a gwella’r defnydd o’r amgylchedd awyr agored. Er bod rhywfaint o waith cymunedau dysgu proffesiynol yn digwydd dros un neu ddau dymor, mae gwaith cymunedau dysgu proffesiynol eraill wedi para hyd at ddwy flynedd. Dywed Janet Hayward ‘Fe wnaethom ddechrau’r cymunedau dysgu proffesiynol trwy gynnwys staff a oedd yn awyddus i roi cynnig ar ddulliau newydd a ffyrdd newydd o weithio. Fe wnaeth y dull hwn helpu i annog staff eraill a phan gafodd y deilliannau eu rhannu, roedd y dystiolaeth yn ddylanwadol wrth argyhoeddi pawb am fanteision gweithio ar draws ysgolion.’ 

Yn dilyn cyhoeddi ‘Rhaglen Datblygu Medrau Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu’ Llywodraeth Cymru, sefydlodd yr ysgolion gymuned ddysgu broffesiynol i archwilio a datblygu strategaethau asesu ar gyfer dysgu y gellid eu rhoi ar waith ym mhob un o’r ysgolion. Gwnaed y gwaith dros ddau dymor yn dilyn y dull a ddisgrifir uchod. I ddechrau, roedd y gweithgaredd yn cynnwys tri grŵp blwyddyn yn yr ysgolion, lle’r oedd staff eisoes wedi ymrwymo i egwyddorion asesu ar gyfer dysgu, fel datblygu medrau disgyblion mewn hunanasesu ac asesu cyfoedion. Un o’r datblygiadau a gododd o’r gwaith oedd yr angen i wella sesiynau llawn ar ddiwedd gwersi. Roedd ymchwil yn seiliedig ar weithredu yn dangos pa mor bwerus y gallai’r sesiynau hyn fod wrth ddatblygu dysgu disgyblion. Er enghraifft, gwelodd staff pan oeddent yn defnyddio dulliau fel ‘y gadair goch’ neu’n cyfnewid dosbarthiadau i rannu’r sesiynau llawn, fod disgyblion yn llawn cymhelliant ac yn ail-ymgysylltu yn eu dysgu, a oedd yn eu helpu i gyflawni mwy. Mae’r ‘pecyn canllawiau’ a luniwyd gan staff yn y gymuned ddysgu broffesiynol yn cael ei ddefnyddio gan yr holl staff yn yr ysgolion erbyn hyn. Mae sesiynau llawn ar ddiwedd gwersi yn helpu i sicrhau bod dysgu disgyblion mor effeithiol ag y bo modd.

Er bod staff eisoes yn ymweld â’r ysgolion eraill yn rheolaidd i archwilio a rhannu arfer dda, nodwedd allweddol o waith y cymunedau dysgu proffesiynol fu trefnu i ddisgyblion ymweld â’r ysgolion hyn hefyd. Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn dysgu ar y cyd trwy ystod o offer ar-lein hefyd. Yn ystod eu hymweliadau â’r ysgolion eraill, mae disgyblion yn gwneud cyflwyniadau ar y gwaith y maent wedi’i wneud, yn eu prosiect ar y testun ‘Hedfan’, er enghraifft. Mae’r adborth y mae disgyblion yn ei roi yn dilyn y profiadau hyn yn galluogi staff i gael cipolwg gwerthfawr ar agweddau penodol ar ddysgu ac addysgu.

Mae’r ysgolion yn cynnal arolwg o safbwyntiau rhieni am ddysgu ac addysgu hefyd. Mae hyn yn ychwanegu dimensiwn arall at y wybodaeth a gaiff arweinwyr a rheolwyr am ansawdd eu gwaith. Er enghraifft, fe wnaeth uwch reolwyr yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri gynnal arolwg o rieni disgyblion ym Mlwyddyn 1 am agwedd eu plentyn at yr ysgol. Dywedodd y rhieni:

‘Fe wnes i (mam) ei fwynhau’n fawr, gwnaeth i Peter1 eistedd i lawr a meddwl beth yr oedd yn ei wneud bob dydd, ac fe siaradon ni amdano hefyd. O’r blaen, roedd yn arfer dweud “Dydw i ddim yn gallu cofio”, a doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor hyderus ydoedd yn ei alluoedd chwaith.’

‘Mae’r prosiect wedi annog Jane i drafod ei diwrnodau yn yr ysgol gyda mi a bod yn agored am ei theimladau a’i phryderon.’
Yn sgil newidiadau i’r cwricwlwm yn 2008 a datblygu’r fframwaith medrau anstatudol, ystyriodd yr ysgolion sut i ddatblygu eu cynllunio i ymateb i’r gofynion hyn a pharhau i wella medrau dysgu a meddwl disgyblion. Roedd staff yn gwybod eu bod am ddatblygu eu cynllunio cwricwlwm i gynnig dull yn seiliedig ar destunau a themâu.

Rhoddwyd blaenoriaeth uchel i lythrennedd yn y gwaith hwn fel y byddai disgyblion yn datblygu medrau llafaredd, darllen ac ysgrifennu mewn gwaith ar draws y cwricwlwm. Roedd staff hefyd yn awyddus i sicrhau bod disgyblion yn cymryd rhan mewn cynllunio a phenderfynu eu gwaith, er mwyn iddynt ddangos mwy o ddiddordeb, dangos cymhelliant gwell a chyflawni mwy.

Sefydlodd y tair ysgol gymuned ddysgu broffesiynol hefyd i’w helpu i archwilio a phenderfynu ar ddull o gynllunio testunau. Canlyniad y gwaith hwn fu model arloesol o gynllunio cwricwlwm sydd wedi cael ei fabwysiadu gan yr ysgolion. Mae’r model yn cynrychioli taith ddysgu i ddisgyblion trwy destun neu thema, ac oherwydd natur y model, gellir defnyddio’r dull hwn hefyd fel y strwythur ar gyfer gwers neu gyfres o wersi.

Yn ychwanegol i’r gwaith sy’n cael ei astudio trwy’r dull testun hwn, mae’r ysgolion yn cynllunio wythnosau thema arbennig neu uned waith sy’n benodol i bwnc hefyd, fel prosiect dylunio a thechnoleg neu fathemateg. Fel hyn, mae gwaith disgyblion yn ddiddorol, yn amrywiol ac yn bodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yr hyn sy’n bwysig yw’r ffaith fod y model hwn yn cysylltu’n dda â dulliau dysgu ac addysgu’r Cyfnod Sylfaen, fel bod parhad a dilyniant yn nysgu’r disgyblion. I sicrhau bod y cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd yn effeithiol, mae’r ysgolion cynradd yn rhannu gwybodaeth ac maent yn cynnwys eu hysgolion uwchradd partner wrth ddyfeisio eu dulliau cwricwlwm penodol.

Mae datblygu medrau llythrennedd disgyblion wedi bod yn ganolog i’r model cwricwlwm hwn. Mae’r dull thematig wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddarparu llawer o gyfleoedd amrywiol ar gyfer datblygu medrau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion. Yn benodol, mae’r dull wedi rhoi rhesymau dilys i ddisgyblion ysgrifennu yn ogystal â chwmpas ar gyfer creu darnau estynedig a chyson o waith ysgrifenedig. Mae’r ymdriniaeth â’r gwaith testun neu thema yn cynnwys naw cam pwysig sy’n datblygu medrau dysgu, chyfathrebu a meddwl disgyblion.

Barry1

Dyfeisiwyd cynrychiolaeth o’r model cwricwlwm hwn a ddangosir yn yr astudiaeth achos hon gan Louise Lynn, pennaeth Ysgol Gynradd y Rhws. 

Tri cham cyntaf y model cwricwlwm yw Trochi, Rhannu Syniadau ac Ymholi a ddangosir yn y diagram uchod. Wrth ddechrau dadansoddi gwahanol ddulliau cwricwlwm, cydnabu staff bwysigrwydd ysgogi diddordeb ac ymglymiad disgyblion yn y cyd-destun thematig. Felly, cyn iddynt ddechrau testun, mae disgyblion yn treulio sawl diwrnod yn ymdrochi yn y testun neu’r thema, lle defnyddir llawer o adnoddau i ysgogi eu diddordeb. Mae’r lluniau canlynol yn dangos y modd y caiff disgyblion o Ysgol Gynradd Romilly eu trochi mewn ystod eang o weithgareddau cyn iddynt ddechrau gweithio ar y testun dŵr. Tri cham nesaf y dull yw Cynllunio, Ymchwilio a Threfnu. Yn y cam cynllunio, mae disgyblion yn penderfynu ar eu meini prawf llwyddiant eu hunain. Mae’r llun isod yn dangos cam pump lle mae disgyblion yn ymchwilio i ystod o themâu sy’n gysylltiedig â’u testun ar ddŵr.

Yn ystod cam chwech (Trefnu), mae disgyblion yn defnyddio’r meini prawf llwyddo y maent yn eu gosod i’w helpu i arfarnu eu dysgu hyd yn hyn a rhannu’r deilliannau gyda disgyblion eraill yn eu dosbarth. Ar y cyd â staff, maent yn cynllunio’r camau nesaf yn eu taith ddysgu. Y tri cham olaf yn y dull yw Creu, Dathlu ac Arfarnu. Wrth greu fel rhan o gam saith, mae’r pwyslais ar berthnasedd y canlyniad fel bod disgyblion yn deall diben eu dysgu. Yng ngham naw (Arfarnu), mae disgyblion yn ystyried y strategaethau y maent wedi’u defnyddio a’r medrau y maent wedi’u hennill. Maent yn nodi eu cryfderau a’r meysydd i’w datblygu yn ogystal â gosod targedau ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

Mae defnyddio cymunedau dysgu proffesiynol yn yr ysgolion hyn wedi helpu arweinwyr a rheolwyr i:

  • ddatblygu cydweithio ag athrawon o fewn ac ar draws ysgolion gan alluogi staff i weithio gyda’i gilydd i rannu a datblygu eu harbenigedd a’u gwybodaeth broffesiynol;
  • cael gwybodaeth well am ddysgu ac addysgu;
  • ysgogi newid ar draws y rhwydwaith o ysgolion;
  • ymateb yn effeithiol i heriau addysgol cenedlaethol; a
  • sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion.

Yr effaith ar safonau

Mae ystod o ddata perfformiad disgyblion yn dangos bod yr ysgolion wedi llwyddo i wella safonau dros gyfnod. Yn benodol:

  • er 2008, mae dangosydd pwnc craidd pob un o’r tair ysgol wedi bod uwchlaw eu cymedr teulu o ysgolion priodol ac ymhell uwchlaw canlyniadau’r awdurdod lleol a Chymru hefyd; ac
  • yng nghyfnodau allweddol 1 a 2, mae canlyniadau +1 yn cymharu’n ffafriol â chanlyniadau’r teulu, yr awdurdod lleol a Chymru. Arolygwyd dwy o’r pedair ysgol yn ddiweddar.

Yn yr arolygiad o Ysgol Gynradd y Rhws, nododd arolygwyr fod:

‘Bron pob un o’r disgyblion yn deall pa mor dda y maent yn gwneud, pa mor dda y maent yn gwneud cynnydd a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i symud ymlaen i’r lefel nesaf yn eu dysgu. Mae hon yn nodwedd ragorol.’

‘Ar draws yr ysgol, mae athrawon …yn defnyddio …strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn effeithiol iawn i roi ‘perchnogaeth’ i ddisgyblion dros eu dysgu…’

‘Caiff y cwricwlwm sydd wedi’i seilio ar fedrau ei ddefnyddio’n effeithiol iawn i gynllunio ar gyfer dysgu disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 ac mae’n golygu eu bod yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth. Trwy ddull thema, mae’r ysgol yn
datblygu cysylltiadau da iawn rhwng meysydd dysgu.’ 

Wrth arolygu Ysgol Gynradd Romilly, nododd arolygwyr fod:

‘Disgyblion yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd a bod ganddynt allu rhagorol i ddeall pa mor dda y maent yn dysgu ac am eu perfformiad eu hunain.’

‘Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd rhagorol yn datblygu hunanasesu ac asesu cyfoedion i wella dealltwriaeth disgyblion o’r camau nesaf y mae angen iddynt eu cymryd yn eu dysgu.’

‘Lle mae’r addysgu’n rhagorol… mae athrawon yn defnyddio dulliau asesu ar gyfer dysgu a strategaethau medrau meddwl yn effeithiol iawn i roi perchnogaeth i ddisgyblion dros eu dysgu.’

Mae arolygon i ddisgyblion a rhieni wedi cadarnhau llwyddiant gwaith yr ysgolion hefyd. Er enghraifft, mae arolygon i rieni o bob un o’r ysgolion yn dangos bod bron pob un o’r rhieni’n ystyried yr addysgu’n dda neu’n dda iawn. Mae deilliannau arolygon disgyblion yn gadarnhaol hefyd, fel y sylwadau hyn gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Ynys y Barri ac Ysgol Gynradd y Rhws. 

‘Mi wnes i fwynhau ein hymweliad ag Ysgol Gynradd Romilly yn fawr. Fe wnaethom rannu ein gwaith am hedfan gyda’r plant eraill. Fe wnaethom ddarganfod ein bod ni’n gwneud llawer o’r un pethau, ond roedd yn ddiddorol gweld beth roedd yr ysgolion eraill wedi’i wneud yn wahanol.’

Disgybl Blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Ynys y Barri

‘Roedd yn wych dathlu’r hyn yr oeddem ni wedi’i ddysgu trwy hedfan ein barcutiaid gyda’n gilydd.’

Disgybl o Ysgol Gynradd y Rhws

Darllen am astudiaethau achos eraill cysylltiedig

Gall fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen am waith llwyddiannus ysgolion eraill yn yr astudiaethau achos Arfer Orau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Estyn.

Myfyrio ar arfer yn eich ysgol eich hun

Defnyddiwch yr astudiaethau achos i’ch helpu i fyfyrio ar arfer yn eich ysgol eich hun.

  • Pa ganlyniadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth achos hon ydych chi wedi’u cyflawni hyd yn hyn?
  • Beth yw effaith eich arfer/gweithgarwch presennol?
  • Sut ydych chi’n mesur effaith y gwaith hwn?
  • Pa ganlyniadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth achos hon ydych chi wedi’u cyflawni hyd yn hyn? Beth yw effaith eich arfer/gweithgarwch presennol?
  • Sut ydych chi’n mesur effaith y gwaith hwn?
  • Gall yr awgrymiadau canlynol fod yn ddefnyddiol i chi hefyd wrth benderfynu beth i’w wneud i godi safonau.

Safonau
I ba raddau y caiff disgyblion help i:

  • wella eu medrau mewn gwaith ar draws y cwricwlwm;
  • datblygu a defnyddio medrau llythrennedd lefel uwch yn hyderus ac yn gymwys ar draws y cwricwlwm;
  • gwella eu gallu i gynllunio eu gweithgareddau eu hunain, gwybod sut i wella eu medrau a gosod eu targedau medrau eu hunain; a
  • chyflawni safonau perfformiad uwch yn gyffredinol?

Cynllunio dull ysgol gyfan

  • Sut caiff cwricwlwm wedi’i seilio ar fedrau ei gynllunio? A yw llythrennedd yn elfen drefnu greiddiol?
  • Pa mor dda y mae staff wedi cyfuno’r fframwaith medrau anstatudol gyda gorchmynion pwnc Cwricwlwm Cenedlaethol 2008? A oes pwyslais addas ar lythrennedd ym mhob maes?
  • A oes dilyniant clir yn natblygiad medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm?
  •  A yw pob un o’r staff yn sicrhau bod digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio a datblygu eu medrau darllen ac ysgrifennu (yn cynnwys ysgrifennu estynedig) ar draws holl feysydd y cwricwlwm?

Addysgu ac asesu

  • Pa mor dda y mae staff yn galluogi disgyblion i fod yn annibynnol a chymryd perchnogaeth o’u dysgu?
  • A yw pob un o’r staff yn defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn gyson?
  • A yw dulliau addysgu yn rhoi ystyriaeth i ddatblygu medrau disgyblion mewn gwaith ar draws y cwricwlwm, fel defnyddio technegau holi, y cymorth a ddarperir gan fframiau ysgrifennu, ac ati?
  • A yw athrawon yn asesu medrau llythrennedd disgyblion ar draws holl feysydd y cwricwlwm, ac nid mewn Cymraeg neu Saesneg yn unig?
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn olrhain datblygiad medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm? A gaiff gwybodaeth ei rhannu a’i defnyddio’n effeithiol ar draws yr ysgol?

Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • Sut caiff datblygiad medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm ei fonitro a’i arfarnu? (Pwy sy’n cymryd rhan a beth maen nhw’n ei wneud?)
  • Beth fu effaith y gweithdrefnau monitro ac arfarnu?
  • Sut mae datblygiad medrau disgyblion yn gweddu i gynllunio datblygiad a hunanarfarnu yn yr ysgol?
  • A yw staff yn meddu ar y medrau sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo llythrennedd trwy holl feysydd y cwricwlwm? Pa HMS ar lythrennedd a gynhelir a sut mae hyn o fudd i addysgu a dysgu?
  • A yw disgyblion yn elwa ar y ffordd y mae eich ysgol yn gweithio gyda phobl eraill i godi safonau llythrennedd, fel yr awdurdod lleol, gyda chlwstwr eich ysgol, fel rhan o gymuned ddysgu broffesiynol (CDdB), ac ati? A gaiff arfer
  • dda ei rhannu ar draws pob partner? Beth arall y mae angen ei wneud?
  • Beth fu effaith y gwaith gwella ar safonau? Pa welliannau y mae angen eu gwneud o hyd?

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn