Dysgu Proffesiynol - Estyn

Dysgu Proffesiynol

Arfer effeithiol

Ysgol Penglais


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Penglais yn ysgol cyfrwng Saesneg yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu ardal eang yng ngogledd a chanol Ceredigion. Mae tua 1100 o fyfyrwyr yn yr ysgol, y mae 12.8% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 34.8% ar y gofrestr ADY. Mae dwy uned arbennig ar y safle: y Ganolfan Cymorth Dysgu ar gyfer myfyrwyr â lefelau uchel o anghenion a’r Ganolfan Adnoddau Clywed. Mae tua 10% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a siaredir 34 o ieithoedd eraill yn yr ysgol.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi bod ar daith i wella. Ategwyd hyn gan weledigaeth newydd yr ysgol, sy’n dechrau gyda’r nod i fod ‘yn ysgol hapus, uchelgeisiol sy’n cyflawni’n dda lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi’. Mae’r weledigaeth gynhwysol ac uchelgeisiol hon yn ymgorffori’r angen i weithio fel cymuned gyfan ac i bawb fod y gorau y gallant, fel y gall disgyblion fod yn ddinasyddion llwyddiannus yn eu cymunedau, yng Nghymru a’r byd. Mae dysgu proffesiynol wedi bod yn agwedd hanfodol ar y daith gyda ffocws cryf ar addysgu a dysgu. Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant agored iawn lle caiff arfer dda ei rhannu’n barhaus. Mae’r gwaith a wnaed yn y ddwy flynedd gyntaf o ran datblygu staff ac addysgeg wedi rhoi’r ysgol mewn sefyllfa dda i ganolbwyntio ar ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ymchwil wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar y gwaith hwn, gyda’r holl ddatblygiadau wedi’u seilio ar ymchwil ac ymholi proffesiynol. Mae gwaith mwy diweddar ar ddatblygu model arweinyddiaeth, lle rhoddir cyfrifoldeb i adrannau neu gyfadrannau unigol am yrru eu gwelliant eu hunain, wedi datblygu diwylliant o hunanwella ymhellach lle mae ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn mynd law yn llaw.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuodd taith yr ysgol i ddatblygu dysgu proffesiynol ym mis Medi 2017 lle dechreuodd arweinwyr ddatblygu diwylliant mwy agored yn canolbwyntio ar ddatblygiad yn hytrach na barn. Rhoddwyd mwy o berchnogaeth o’u dysgu proffesiynol i gydweithwyr, a chyflwynwyd grwpiau ymchwil gan alluogi’r holl gydweithwyr i gyfrannu at ddatblygiad strategol ym Mhenglais. 

Ym mis Medi 2018, rhoddwyd mwy o berchnogaeth i gydweithwyr addysgu ac arweinwyr canol i arwain ar ddatblygu addysgu a dysgu o fewn eu cyfadrannau a’r ysgol ehangach hefyd. Roedd hyn yn cynnwys: 

  • sicrhau bod pob cyfarfod yn cynnwys ffocws cryf ar addysgu a dysgu
  •  dileu’r holl raddau o arsylwadau gwersi, gan ganolbwyntio ar ansawdd y drafodaeth broffesiynol a gododd o’r arsylwadau 
  •  gweithio mewn cyfadrannau i ddatblygu eu polisïau asesu eu hunain o fewn y fframwaith a roddwyd gan yr ysgol gyfan
  • darparu arweiniad a chyfeiriad i’r ysgol gyfan am flaenoriaethau addysgu a dysgu tra’n datblygu arweinwyr cyfadrannau i gymryd mwy o berchnogaeth dros addysgu a dysgu yn eu cyfadrannau hefyd 
  • annog cydweithwyr i ddechrau cyfrannu a rhannu syniadau yn y briffiau ddwywaith yr wythnos ar gynhwysiant a darpariaeth ADY ac addysgu a dysgu 
  • mwy o gyfranogiad gan gydweithwyr mewn hyfforddiant HMS a chyfarfodydd ar gyfer y staff cyfan
  • cyflwyno rhaglen hyfforddi lle mae hyfforddwr ar gael i bob cydweithiwr addysgu yn ei gyfadran

Nod y rhaglen hyfforddi oedd datblygu agweddau ar addysgeg yn eu maes pwnc. Cafodd amser am adborth effeithiol o sesiynau hyfforddi ei gynnwys mewn amser cyfarfodydd adrannau. Er enghraifft, sefydlodd yr adran ieithoedd sesiwn hyfforddi ac addysgeg yn ystod amser cinio bob dydd Mercher am 30 munud i drafod arfer a hyfforddi proffesiynol a gynhaliwyd.

Ym mis Medi 2019, roedd amcanion rheoli perfformiad, a elwir erbyn hyn yn amcanion dysgu proffesiynol, wedi’u cysylltu ag addysgu ac arweinyddiaeth gyda’r pwyslais ar y safonau proffesiynol, gan gynnwys arweinyddiaeth ar gyfer yr holl gydweithwyr. Er enghraifft, dechreuodd y gyfadran fathemateg dreialu gwahanol ddulliau addysgu wedi’u seilio ar ymchwil wybyddol, a dechrau addysgu rhannau o’u gwers ‘yn dawel’. Rhannodd cydweithwyr y canlyniadau gyda phob aelod o staff trwy friffiau a HMS.

Ym mis Medi 2020, rhoddwyd dulliau ar waith i wneud dysgu proffesiynol yn fwy teilwredig. Defnyddiwyd oriau cyfnos yn unigol neu o fewn adran i ddatblygu eu harfer. Gwnaed hyn trwy  ffurfiau amrywiol gyda rhai ohonynt yn gwneud hyfforddiant ar-lein, rhai yn gwneud ymchwil, a rhai eraill yn ymgymryd â hyfforddiant yn yr adran y gellir ei ledaenu yn ystod cyfarfodydd. Er enghraifft, penderfynodd y gyfadran fathemateg astudio a threialu gwahanol agweddau ar ymchwil i addysgu mathemateg ac adrodd yn ôl am eu canfyddiadau mewn cyfarfodydd cyfadrannau. 

Mae dysgu proffesiynol wedi cael ei alluogi trwy roi amser i athrawon ymgymryd ag ymchwil addysgegol, gan gynorthwyo staff i gymhwyso a gwerthuso addysgeg newydd a rhannu arfer mewn briffiau a chyfarfodydd cyfadrannau. Yn dilyn yr hyfforddiant o fewn cyfadrannau, cyflwynodd yr ysgol rôl athro-hyfforddwr ADY. O fewn y rôl hon, mae hyfforddi wedi bod â rhan bwysig mewn mireinio technegau cyfarwyddol, gwella cymorth personoledig ar gyfer disgyblion ag ADY, ac ymgorffori strategaethau sy’n datblygu darllen, ysgrifennu a llafaredd ar draws adrannau.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu proffesiynol wedi cael ei haddasu, ei datblygu a’i mireinio’n helaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys:

  • cylchlythyr wythnosol ar arfer effeithiol gyda chysylltiadau i gydweithwyr arbrofi heb deimlo y byddant ‘yn gwneud camgymeriadau ac yn methu’
  • cydweithwyr, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso, yn cyflwyno ar arfer orau mewn briffiau ar-lein 
  • cyfadrannau’n gweithio gyda’i gilydd bob wythnos i ddatblygu adnoddau a chefnogi dysgu cyfunol a dysgu byw ac wedyn yn rhannu eu recordiadau i ddatblygu technegau dysgu ac addysgu cyfunol ymhellach; wedyn, rhannwyd arfer orau mewn sgrinlediadau a chyflwyniadau wythnosol ar sut i ddatblygu dysgu byw a dysgu cyfunol
  • datblygu diwylliant agored gyda thryloywder mewn trafodaethau, trwy rannu elfennau nad aethant cystal â’r disgwyl yn yr addysgu 

Mae strategaethau wedi cael eu mireinio i ddatblygu dysgu proffesiynol ymhellach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • amcanion dysgu proffesiynol sydd wedi’u cysylltu’n glir ag addysgu a dysgu gydag un yn canolbwyntio ar agwedd ar ddysgu proffesiynol pob aelod o staff ei hun. Rhoddir amser i bob aelod o staff ganolbwyntio ar hyn. Mae’r amcan hwn wedi’i gysylltu â datblygu addysgu, arweinyddiaeth neu arfer broffesiynol a fydd yn cael effaith ar safonau disgyblion. Caiff yr amcanion hyn eu trafod yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn gyda’r arfarnwr yn yr hyn a elwir yn ‘gyfarfodydd dal i fyny’. Yn sgil y rhain, mae rhai athrawon wedi ymgymryd ag ymholi proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth
  • addasu’r brîff cynhwysiant i beidio â dim ond rhoi gwybod i gydweithwyr am anghenion disgybl, ond hefyd sut i fireinio technegau addysgu ar gyfer deilliannau gwell i ddisgyblion ag ADY 
  • datblygu’r brîff addysgu a dysgu i fod yn sesiwn boblogaidd lle mae llawer o gydweithwyr yn awyddus i rannu syniadau, llwyddiannau a methiannau. Mae hyn wedi bod yn hynod effeithiol wrth rannu gwaith am y cwricwlwm newydd, gan roi dealltwriaeth i gydweithwyr o’r datblygiadau mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill a chydnabod bod creu’r cwricwlwm newydd yn broses o dreialu, gwerthuso a mireinio    
  • darparu cyfle i’r holl gydweithwyr brynu llyfr ar addysgu a dysgu neu arweinyddiaeth a fydd wedyn yn cael ei roi yn y gronfa neu’r adnoddau yn ein cornel addysgu a dysgu ar gyfer staff yn y llyfrgell
  • defnyddio recordiadau fideo o wersi i alluogi athrawon i recordio eu harfer eu hunain, rhannu arfer dda â’u cydweithwyr a thrafod cyfleoedd ar gyfer datblygu

Erbyn hyn, caiff unrhyw addysgu a datblygu dysgu yn yr ysgol ei lywio’n drylwyr gan ymchwil addysgegol. Mae’r holl ddysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r ysgol gyfan, sy’n rhoi fframwaith ar gyfer athrawon ac oedolion, ac yn annog cynnydd cyflym yn y meysydd hyn. Ceir diwylliant cefnogol iawn lle mae sicrhau ansawdd a dysgu proffesiynol wedi’u cysylltu’n gadarn trwy arsylwadau gwersi datblygiadol, teithiau dysgu a gweithgareddau eraill. Mae hyn yn arwain at sgyrsiau agored, gonest ac ymddiriedus ar sut i fireinio arfer ymhellach. Mae hyfforddi yn elfen bwysig o hyn, ac mae llawer o athrawon ac arweinwyr yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu medrau ymhellach trwy gael eu hyfforddi a thrwy fod yn hyfforddwr.   

Yn dilyn ymlaen o grwpiau ymchwil, mae nifer o aelodau staff wedi ymestyn eu profiadau proffesiynol ar y cyd ag asiantaethau allanol. Mae hyn yn cynnwys:

  • manteisio ar gyfleoedd i ddilyn gradd Meistr mewn Addysg 
  • astudio ar gyfer doethuriaethau mewn addysg 
  • cydweithio â phrifysgolion ar brosiectau ymchwil
  • cyflwyno neu weithio gydag asiantaethau allanol, e.e. Prifysgol Aberystwyth, NAEL
  • gweithio gydag ysgolion eraill i ddatblygu medrau arwain

Y flwyddyn nesaf, mae’r ysgol yn bwriadu:

  • parhau â’r model dysgu proffesiynol mewnol gyda’r ffocws ar addysgeg ar gyfer y cwricwlwm newydd a blaenoriaethau’r ysgol 
  • cyflwyno model hyfforddi ychwanegol
  • cyflwyno llwybrau mwy teilwredig ar gyfer staff
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ceir tystiolaeth glir fod dysgu proffesiynol a newid mewn diwylliant wedi cael effaith ar yr addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol, sydd yn ei dro wedi cael effaith ar safonau disgyblion. Gellir gweld hyn yn y canlynol:

  • mae gan yr ysgol ymagwedd gydweithredol gref erbyn hyn, ac fe gaiff athrawon ac arweinwyr drafodaethau o ansawdd uchel yn rheolaidd am addysgeg ac arweinyddiaeth. Mae diwylliant cydweithredol, agored ac ymddiriedus yr ysgol a hunanwelliant wedi arwain at welliant mewn addysgu a dysgu ar draws yr ysgol
  • gwelliant cryf yng nghanlyniadau TGAU a chyfnod allweddol 5 yn 2019. Mae’r gwelliant hwn wedi parhau ar bob lefel, ac mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da erbyn hyn
  • yr arolygon staff blynyddol yn adrodd am welliant clir yn ansawdd, defnyddioldeb a chyflwyno dysgu proffesiynol a nifer uchel y staff sy’n dweud bod ymddiriedaeth ynddynt i arloesi i ddiwallu anghenion disgyblion
  • mwy o staff yn ymgymryd ag astudiaethau ymchwil unigol, grŵp ac allanol a chymwysterau proffesiynol
  • cyfraniadau at sefydliadau allanol ar sut maent yn cyflwyno dysgu proffesiynol

 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ymwelodd cynrychiolwyr o’r consortiwm rhanbarthol â’r ysgol i weld effaith ymchwil ar addysgu mathemateg. Gwnaeth y pennaeth gyflwyniad mewn cynhadledd ranbarthol ar daith yr ysgol i wella trwy’r ffocws ar ddysgu proffesiynol. Mae gwybodaeth am y daith dysgu proffesiynol yn Ysgol Penglais wedi cael ei rhannu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ar eu gwefan.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn