dysgu a phrofiadau awyr agored o ansawdd uchel - Estyn

dysgu a phrofiadau awyr agored o ansawdd uchel

Arfer effeithiol

Sandycroft C.P. School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Sandycroft wedi’i lleoli ym Mancot yn awdurdod lleol Sir y Fflint. Mae 354 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan yr ysgol 14 o ddosbarthiadau oedran unigol, gan gynnwys tri dosbarth meithrin. Mae tua 24% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan tua 32% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae tua 14% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac ychydig iawn o’r disgyblion sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Ar hyn o bryd, mae tua 5% o’r disgyblion yn aelodau o’r gymuned Sipsiwn Teithwyr.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Gynradd Sandycroft dir helaeth sy’n cynnwys cae chwarae traddodiadol ac ardal o’r hyn a oedd yn dir segur nad oedd yr ysgol wedi’i ddefnyddio ers blynyddoedd lawer.

Datblygodd yr ysgol y tir yn systematig dros nifer o flynyddoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau a dulliau gwahanol. Gwnaed y rhan helaeth o’r gwaith hwn gan staff, rhieni a llywodraethwyr yn eu hamser eu hunain ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau. Sicrhaodd hyn fod y costau mor isel â phosibl. Cafodd yr ysgol gyllid gan fusnesau lleol a grantiau gan sefydliadau amrywiol hefyd. Gan ddefnyddio’r cyllid grant, prynodd offer chwarae mawr fel castell, llong môr-ladron, podiau chwarae a wal ddringo. Cyfrannodd busnesau lleol yn ymarferol hefyd gan ddarparu eu staff i weithio ar brosiectau, fel plannu gardd goed a gosod offer chwaraeon fel ardal pêl-fasged.
 
Fodd bynnag, y prif sbardun y tu ôl i’r gwaith oedd bod yr ysgol yn manteisio ar fedrau crefftau’r cartref y rhieni, staff a’r llywodraethwyr eu hunain i ddatblygu ystod o ystafelloedd dosbarth awyr agored, iard sborion awyr agored ac ardaloedd darpariaeth awyr agored i gefnogi dysgu a lles ar draws pob ystod oed. Mae’r ysgol hefyd wedi buddsoddi mewn digon o fannau storio i sicrhau y caiff adnoddau eu cylchdroi’n rheolaidd i gynnal diddordeb disgyblion.

Yn ogystal â hyn, trefnwyd y buarth i greu ystod o ardaloedd chwarae, chwaraeon, crefftau ac ymarferol i fodloni diddordebau eang y disgyblion. Mae llais y disgybl yn agwedd allweddol ar y cynllunio hwn. Mae hyn yn eu galluogi i gymryd rhan weithredol mewn ystod o weithgareddau a chwaraeon yn ystod amseroedd egwyl.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Nod yr ysgol yw cynnig dysgu a phrofiadau o ansawdd uchel yn yr awyr agored sy’n cwmpasu un neu fwy o’r elfennau canlynol:

  • sy’n cael eu cynnal yn yr awyr agored, yn gyffredinol
  • sydd ag elfen anturus yn aml
  • sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol
  • sy’n parchu’r amgylchedd naturiol bob amser
  • sy’n datblygu chwilfrydedd ac arloesedd
  • sy’n hyrwyddo cydweithrediad a gwaith tîm
  • sy’n annog gwydnwch a phenderfynoldeb
  • sy’n datblygu medrau echddygol bras a medrau echddygol manwl

Mae ffocws ysgol gyfan ar ddysgu yn yr awyr agored. Rhoddir yr un pwys ar ddysgu yn yr awyr agored sy’n digwydd mewn gwersi ac yn ystod amseroedd chwarae. Mae’r holl staff yn cymryd rhan ac yn deall y gellir defnyddio’r awyr agored i ddatblygu dealltwriaeth ym mhob maes dysgu a phrofiad. Mae ystod eang o weithgareddau ac adnoddau y gall y disgyblion fanteisio arnynt. O ganlyniad, mae’r awyr agored yn hyblyg iawn i fodloni anghenion y cwricwlwm. Mae’r ysgol yn darparu ystod o ddillad awyr agored i staff a disgyblion, gan gynnwys dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw a chyfarpar diogelu personol, lle bo hynny’n briodol, i sicrhau nad yw’r tywydd yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae ffocws ysgol gyfan ar ddysgu yn yr awyr agored yn annog ac yn tanio brwdfrydedd disgyblion i fynychu’n rheolaidd ac yn cael ei ddefnyddio’n arbennig o dda i wella iechyd corfforol ac iechyd meddwl disgyblion.
  • Mae’r disgyblion yn ffynnu yn yr ardaloedd awyr agored helaeth a datblygedig, beth bynnag y tywydd.
  • Mae’r awyr agored symbylol yn sicrhau bod lefelau ymgysylltiad yn dda.
  • Mae’r ystod o weithgareddau yn sicrhau y caiff dysgu yn yr awyr agored ei ddefnyddio ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, mae’r disgyblion ieuengaf yn datblygu eu gwybodaeth am rif yn yr amgylchedd awyr agored. Maent yn casglu ac yn cyfrif gwrthrychau naturiol ar dir yr ysgol ac yn defnyddio’r gwrthrychau i wneud patrymau ailadroddus. Erbyn Blwyddyn 2, mae disgyblion yn mesur estyll pren yn hyderus mewn unedau safonol ac yn datrys problem sut i lenwi bwlch â darn o bren o hyd addas wrth adeiladu pont.
  • Mae disgyblion hŷn yn dangos gwydnwch wrth ddatrys problemau yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod amseroedd egwyl fel ei gilydd, yn aml trwy brofiadau diddorol a dilys yn y gweithdy. Maent yn dyfalbarhau â thasgau ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd amgen o weithio.
  • Mae bron pob un o’r disgyblion yn archwilio eu hamgylchoedd ac yn datblygu eu dychymyg. Er enghraifft, mae’r disgyblion ieuengaf yn plannu hadau i ddatblygu eu hardaloedd yng ngardd yr ysgol, yn defnyddio cloddwyr i adeiladu cestyll tywod wrth greu trefi dychmygol ac yn canu a dawnsio ar y llwyfan awyr agored.
  • Mae’r disgyblion hŷn yn datblygu llawer o fedrau bywyd defnyddiol, er enghraifft wrth ofalu am ieir maes yr ysgol ac wrth weithio mewn timau i ddatrys problemau yn yr ysgol goedwig.
  • Mae’r disgyblion yn mwynhau defnyddio eu medrau creadigol ac artistig. Er enghraifft, maent yn creu lluniau arsylwadol tri dimensiwn gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a ffrwythau maent yn eu casglu o berllan yr ysgol. 
  • Mae datblygiad medrau corfforol disgyblion yn rhagorol.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn datblygu eu cydbwysedd, eu cydsymudiad a’u cryfder yn dda iawn wrth ddefnyddio’r ddarpariaeth awyr agored helaeth, fel y wal ddringo, strwythur y castell ac ysgol y goedwig.
  • Mae’r disgyblion yn datblygu eu medrau echddygol bras a manwl yn yr ‘iard sborion’ awyr agored, sy’n arbennig o drawiadol. Maent yn defnyddio ystod eang o offer, fel setiau soced, sbaneri a thyrnsgriwiau yn ddiogel i ddatgysylltu gwrthrychau a pheiriannau’r cartref. Mae hyn hefyd yn eu helpu i ddechrau archwilio mecaneg sut mae’r eitemau hyn yn gweithio.

Mae’r awyr agored yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd pob disgybl yn yr ysgol. Nid yw’r effaith arnynt wedi’i chyfyngu i un maes yn unig; mae’n eu datblygu’n gyfannol.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae ysgolion eraill yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd ac mae’r ysgol wedi cynnal gweithgor i’r consortiwm yn canolbwyntio ar iechyd a lles.