‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon’ Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu gwarchod a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru. Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd person yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso o natur rhywiol sydd gyda’r bwriad neu’r effaith o:
- amharu ar urddas rhywun; neu
- greu amgylchedd bygythiol, cas, diraddiol, ymosodol neu sy’n cywilyddio
- iddynt
Mae aflonyddu rhywiol yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn ein gwaith gyda disgyblion, dyma sut y diffinir aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion:
- gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
- codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi/iddo
- gwneud sylwadau cas am gorff, rhywedd, rhywioldeb neu olwg rhywun i
- achosi cywilydd, gofid neu fraw iddo/iddi
- camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd, fel rhannu llun neu fideo o rywun yn noeth / hanner noeth heb gydsyniad y sawl sydd yn y llun
- anfon ffotograffau / fideos rhywiol, cignoeth neu bornograffig digroeso at rywun
Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan y Gweinidog Addysg ym mis Mehefin 2021. Mae’r adolygiad hwn yn berthnasol i ddysgwyr, rhieni ac ysgolion yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau statudol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc.