Dull ysgol gyfan o hunanwerthuso - Estyn

Dull ysgol gyfan o hunanwerthuso

Arfer effeithiol

Evenlode C.P. School

Mae person mewn gwisg felen yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyda thri chydweithiwr mewn lleoliad swyddfa.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Gynradd Evenlode yn ysgol sydd â dau ddosbarth mynediad ar gyfer disgyblion o’r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6. Mae gan yr ysgol gapasiti ar gyfer 510 o ddisgyblion (mae capasiti yn y dosbarth meithrin ar gyfer 96 o leoedd rhan-amser a derbynnir disgyblion deirgwaith y flwyddyn). Mae 2% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 5% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac mae gan 3% anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae gan yr ysgol ddiwylliant myfyrio sy’n sail i’w gweledigaeth a’i gwerthoedd.  

Gweledigaeth Evenlode  

‘Mae Ysgol Gynradd Evenlode yn gymuned o berthyn. Rydym wedi ymrwymo i ysbrydoli pob unigolyn i ffynnu a blodeuo trwy ein profiadau dysgu cyfoethog. Caiff pob plentyn ei werthfawrogi yn ein hysgol gynhwysol, fywiog ac anogol.’   

Gwerthoedd:  

Mae’r pedwar diben canlynol yn sail i werthoedd yr ysgol: 

  • Fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus, rydym yn barchus ac yn dosturiol 
  • Fel cyfranwyr mentrus a chreadigol, rydym yn benderfynol ac yn gallu meddwl yn greadigol 
  • Fel dysgwyr uchelgeisiol a medrus, rydym yn wydn ac yn chwilfrydig 
  • Fel unigolion iach a hyderus, rydym yn gadarnhaol ac yn garedig 

Arwyddair: 

Perthyn, Credu, Cyflawni. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Ymgorfforir diwylliant myfyriol neu ‘ddolen adborth parhaus’ ym mhob agwedd ar y diwylliant yn Ysgol Gynradd Evenlode. Roedd newidiadau diweddar i gyd-destun yr ysgol, yn cynnwys uno â’r feithrinfa leol, newidiadau mewn arweinyddiaeth, rhoi prosesau cwricwlwm ac asesu newydd ar waith, yn cynnig cyfle unigryw i adolygu prosesau strategol. Mae’r ysgol wedi sicrhau bod adlewyrchu ei hethos a’i gwerthoedd, ei haddysgeg, ei chwricwlwm a’i phrosesau hunanwerthuso, yn ganolog i’w gwaith a’i gwelliant. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Cymuned: Fforwm Rhieni 

Sefydlwyd Fforwm Rhieni yng Ngwanwyn 2023, i ymateb i angen a nodwyd i ddatblygu partneriaethau a chyfathrebu cryfach rhwng yr ysgol a’r rhieni. Cynrychiolir pob grŵp blwyddyn mewn cyfarfodydd bob hanner tymor, lle mae uwch arweinwyr ac Is-Gadeirydd y Llywodraethwyr yn cyfarfod i drafod agweddau ar waith yr ysgol yr hoffai rhieni wybod mwy amdanynt. Yn y cyfarfodydd hyn, gall rhieni godi unrhyw ymholiadau. Mae’r fforwm hwn yn creu dolen adborth effeithiol gan rieni i arweinwyr a llywodraethwyr, ac yn arwain at newidiadau i fywyd yr ysgol. 

Cymuned: Ymchwil Weithredu Gwrth-hiliaeth. 

Cafodd yr ysgol ei chynnwys yn yr ymchwil weithredu gwrth-hiliaeth gyntaf yn ALl Bro Morgannwg. Bu staff yn myfyrio’n bersonol ac yn broffesiynol ar werthoedd, ethos a chwricwlwm yr ysgol yn ystod ei gwaith i ddatblygu ysgol wrth-hiliol. Rhoddwyd amser i staff ymchwilio i syniadau allweddol gan ddefnyddio ymagwedd ‘meddwl, paru, rhannu’: treulio amser yn myfyrio’n unigol, mewn grwpiau blwyddyn ac fel cymuned staff gyfan. O ganlyniad, mireiniodd yr ysgol ei gweledigaeth, gwnaeth newidiadau i’w chwricwlwm dyniaethau a’r adnoddau, yn cynnwys llyfrau a ddefnyddir i gefnogi dysgu. Yn ychwanegol, cymerodd yr ysgol ran mewn dau brosiect celf yn archwilio themâu dathlu, hunaniaeth a pherthyn trwy ddawns. Mae cynlluniau ar waith i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach trwy gynnwys rhieni a llywodraethwyr. 

Gweithwyr proffesiynol myfyriol 

Yn ystod cyfnod o dair blynedd, bu’r pennaeth yn arwain gweithredu cwricwlwm pwrpasol a phrosesau asesu newydd. Yn rhan o’r gweithredu hwn ac i sicrhau bod y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, roedd arweinwyr ac athrawon yn cyfarfod bob hanner tymor i fyfyrio ar arfer a deilliannau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar ddeialog broffesiynol drylwyr a gonest am effaith strategaethau addysgeg a’r cwricwlwm: beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei newid? Mae’r gwerthusiadau’n bwydo i mewn i’r cylch adolygu gwella’r ysgol, a gwneir addasiadau pan fydd angen. Er enghraifft, gwnaeth yr ysgol newidiadau i’r addysgu o ganlyniad uniongyrchol i ddeialog broffesiynol yn y cyfarfodydd hyn. Mae’r ysgol hefyd yn defnyddio hyfforddi i alluogi athrawon i fyfyrio ar eu harfer eu hunain.  

Dysgwyr myfyriol 

Gyda’r pedwar diben yn sail i sut caiff cwricwlwm Evenlode ei gynllunio a’i lunio, un o flaenoriaethau allweddol yr ysgol yw sicrhau bod disgyblion yn myfyrio’n ystyriol ar y byd o’u cwmpas, gan eu galluogi i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae’r ysgol wedi rhoi ymholi athronyddol ar waith fel ymagwedd ysgol gyfan. Trwy’r ymagwedd athronyddol hon, mae disgyblion yn archwilio syniadau a chysyniadau mawr trwy ‘gwestiynau mawr’ ac yn cynllunio’u cwestiynau ymholi eu hunain ar gyfer dysgu. Mae disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr beirniadol, cydweithredol, creadigol a gofalgar effeithiol.  

Mae cwricwlwm ‘Hook, Book and Big Question’ yr ysgol yn darparu cyfleoedd defnyddiol i ddisgyblion ddylanwadu ar eu dysgu. Mae disgyblion yn dewis agweddau ar ddysgu yr hoffent ddysgu mwy amdanynt, yn cael cyfleoedd mynych i fyfyrio ar eu dysgu, ac yn ychwanegu at eu byrddau cynllunio’u hunain yn yr ystafell ddosbarth. Mae disgyblion hŷn yn llenwi cofnodion dysgu: myfyrdodau ar eu dysgu eu hunain, gan ddewis sut i gofnodi’r wybodaeth hon.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar ddysgu? 

Mae partneriaeth yr ysgol â rhieni yn cynnwys cynnal gweithdai sy’n eu cynorthwyo i ddeall trefniadau cwricwlwm ac asesu’r ysgol. Mae arweinwyr yn cynnwys asiantaethau a sefydliadau eraill, er enghraifft i ddarparu gwybodaeth am gymorth ADY, niwroamrywiaeth a defnydd disgyblion o ffonau clyfar. Bydd gweithdai yn y dyfodol yn cynnwys Cymraeg 2050. 

Cryfhawyd cwricwlwm yr ysgol trwy’r ymchwil weithredu gwrth-hiliaeth a’r ymagwedd ymholi athronyddol, ac fe gaiff disgyblion brofiad o ystod amrywiol o safbwyntiau. Mae disgyblion yn ymgysylltu’n dda â’u dysgu ac yn mwynhau cymryd perchnogaeth o’u cynnydd. Mae disgyblion yn gwneud eu barn yn glir, er enghraifft ymateb i’w dysgu: ‘mae’n eich herio ac yn ennyn eich diddordeb, ac rydych chi’n adeiladu ar syniadau pobl eraill’, ‘rydym ni’n dod i ddysgu am farnau pobl eraill yn ystod y sesiynau ac yn cadw meddwl agored’, ‘mae’n cysylltu ein dysgu mewn gwahanol ffyrdd’. Trwy ganolbwyntio ar gyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar eu dysgu eu hunain, a’i gyfarwyddo, dangosant ymgysylltiad a chwilfrydedd, yn ogystal â chadw a dangos gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth fanwl.  

Mae staff yn datblygu iaith a dealltwriaeth gyffredin o addysgeg ac asesu effeithiol, ac mae hyn yn arwain at gynnydd cryf dros gyfnod i ddisgyblion. Mae athrawon o’r farn fod ymagwedd yr ysgol yn eu galluogi i ‘edrych ar bethau gyda lens wahanol’ ac yn gweld bod hyn yn bwerus i adolygu, mireinio ac addasu ymagweddau at ddysgu a dysgu. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith cwricwlwm gydag ysgolion eraill trwy gyfarfodydd clwstwr ac yn ystod hyfforddiant. Mae uwch arweinwyr wedi cyflwyno effaith gwaith gwrth-hiliol yr ysgol gydag uwch arweinwyr mewn ysgolion eraill ac enghreifftiau a rennir o arfer fyfyriol gyda’r Awdurdod Lleol.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn