Dull cyfannol o gefnogi dysgwyr coleg

Arfer effeithiol

Bridgend College


 

Gwybodaeth gyd-destunol gryno am y darparwr/partneriaeth:

Coleg addysg bellach sydd â thua 2,600 o ddysgwyr amser llawn yw Coleg Penybont.  Mae’n cyflogi tua 600 o staff.  O ran dysgwyr amser llawn, y coleg yw un o’r colegau addysg bellach lleiaf yng Nghymru.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/sy’n arwain y sector:

Mae’r coleg yn gwasanaethu rhanbarth sydd â lleiniau o ddifreintedd cymdeithasol uchel.  Mae 11 o’r 85 o ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae canran poblogaeth y sir dros 16 oed sydd ag afiechyd meddwl crybwylledig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yn uchel ac uwchlaw cyfartaledd Cymru.

Mae gan lawer o ddysgwyr fedrau sylfaenol gwael wrth iddynt ymuno â’r coleg, ac mae 92% ohonynt ar Lefel 1 neu’n is ar gyfer rhifedd, a 71% ar Lefel 1 neu’n is ar gyfer llythrennedd.  Yn 2015-2016, datganodd dros hanner y dysgwyr amser llawn fod ganddynt angen dysgu ychwanegol wrth ymrestru yn y coleg. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer ragorol/sy’n arwain y sector?

I fodloni anghenion yr heriau y mae llawer o ddysgwyr yn eu hwynebu, mae’r coleg wedi buddsoddi mewn nifer o rolau i gynorthwyo dysgwyr mewn ffordd fwy cyfannol, gan gynnwys swyddogion lles, hyfforddwyr dysgu a hyfforddwyr medrau.  Mae’r staff allweddol hyn yn ffurfio tîm lles a chymorth sy’n gysylltiedig â meysydd y cwricwlwm ac yn cynorthwyo dysgwyr ym mhob agwedd ar eu dysgu a’u lles.  Maent yn darparu cyngor ac arweiniad priodol, neu’n cyfeirio dysgwyr ato, ar ystod o faterion fel cwnsela, clinigau cymunedol a materion diogelu, yn ogystal â chynorthwyo cynnydd dysgwyr.  Yn ogystal, maent yn monitro ac yn cynorthwyo presenoldeb myfyrwyr, mewn partneriaeth â thimau’r cwricwlwm.  Mae’r tîm lles a chymorth yn sicrhau y caiff cymorth ei gynnig i ddysgwyr cyn gynted â phosibl. 

Yn ogystal â staff cymorth, mae gan y coleg ystod gynhwysfawr o adnoddau i helpu dysgwyr.  Mae’r gwasanaethau arbenigol sydd ar gael i bob dysgwr yn cynnwys sgrinio ar gyfer dyslecsia, sgrinio ar gyfer syndrom Irlen, dehonglwyr iaith arwyddion, gwasanaethau ar gyfer nam ar y golwg a dallineb, yn ogystal â lwfans i fyfyrwyr anabl a gwasanaeth asesu.  Mae ystod eang o dechnoleg gynorthwyol ar gael hefyd, fel dyfeisiau chwyddo, dictaffonau, cymhorthion sillafu, cymhorthion cyfathrebu, dyfeisiau mewnbwn arbenigol a meddalwedd cymorth llythrennedd.  Caiff y gwasanaethau hyn eu cynnig er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn gwneud cynnydd addas ac yn cael cyfle i wireddu ei (l)lawn botensial wrth ddysgu.  

Mae’r coleg wedi meithrin cysylltiadau buddiol â llawer o asiantaethau allanol hefyd er mwyn sicrhau bod y gyfran gynyddol o fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth gorau; er enghraifft, mae ARC (Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned) yn cynnal clinigau cymorth rheolaidd yn y coleg, tra darperir cymorth arall gan grwpiau fel y Samariaid, Oedolion Ifanc sy’n Gofalu ac asiantaeth cymorth tai Llamau.    Mae gan y coleg gysylltiadau rhagorol â sefydliadau i helpu’r rhai sydd wedi dioddef trais yn y cartref hefyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros y tair blynedd diwethaf, mae canlyniadau wedi gwella’n gyson, er gwaethaf mannau cychwyn cymharol isel llawer o ddysgwyr y coleg.  Yn ystod yr amser hwn, mae cyfradd y dysgwyr sy’n cwblhau eu cymhwysterau’n llwyddiannus wedi cynyddu o 77% i 85%.  Mae’r duedd hon ar i fyny yn gyson ar draws bron pob maes dysgu.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn