Dull cydweithredol o ddatblygu gweithgareddau creadigol

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Aberystwyth


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref Aberystwyth ac mae’n gweithredu’r dref ac ardaloedd gwledig gogledd Ceredigion. Mae tua hanner y disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac mae 2% yn teilyngu Prydau Ysgol am Ddim. Cafodd yr ysgol ei harolygu ym mis Tachwedd 2016 a llwyddodd i gyrraedd y safon Rhagorol ym mhob un o’r meysydd arolygu. Mae’r ysgol hefyd yn ysgol arloesi ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu agweddau o ddysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu grwpiau o athrawon sy’n cydweithio mewn pedwarawdau er mwyn ffocysu ar agweddau cytunedig o ddysgu ac addysgu.  Rhan bwysig o’r broses yw’r cyfleoedd a ddarperir i athrawon gyd-gynllunio, cyd-arsylwi a chyd-werthuso.  Mae pwyslais mawr ar ddefnyddio syniadau’r disgyblion ar gyfer creu tasgau cyfoethog a diddorol sy’n ennyn eu medrau a’u chwilfrydedd tuag at ddysgu.  Mae rôl yr ysgol fel un arloesol wedi sicrhau cyfleoedd i ddatblygu’r broses hon drwy ddefnyddio themâu sy’n hybu’r argymhellion ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’r Cwricwlwm Cymreig.  Pwysleisiwyd yr angen i athrawon i fod yn greadigol ac i fentro gwneud pethe mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer, ond i gofio bod angen i’r gweithgareddau arwain at ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) y disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd a adnabuwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Datblygwyd tasgau cyfoethog drwy ganolbwyntio ar y thema ‘T Llew Jones’ er mwyn gwau agweddau o’r celfyddydau ar draws yr wyth dosbarth yng nghyfnod allweddol 2.  Yn sgil y syniadau a gasglwyd o blith y disgyblion crëwyd mapiau meddwl a chytunwyd ar weithgareddau ysgrifennu creadigol, cyflwyniadau digidol, gweithgareddau drama, celf, cerddoriaeth greadigol a dawns.  Mireiniwyd y cynlluniau ac adnabuwyd cyfleoedd i weithio gyda’r gymuned leol gan fanteisio ar arbenigedd sefydliadau fel cwmni drama’r Arad Goch a’r Brifysgol yn Aberystwyth. 

Yn sgil rôl yr ysgol fel un arloesol manteisiwyd ar y cyfleoedd i gydweithio gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant gan blethu rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon i mewn i’r ‘pair creadigol’. 
Bu hyfforddeion y Brifysgol yn rhan o’r cynllunio gyda’r athrawon a llwyddwyd i ddatblygu cyfleoedd iddynt arsylwi a chymryd grwpiau yn ystod y gwersi.  Bu hyn yn llwyddiannus ac yn rhan bwysig o’u hyfforddiant fel darpar athrawon. 

Wrth werthuso’r gwersi yn wythnosol mewn sesiynau adlewyrchol, darparwyd cyfleoedd i athrawon profiadol a darpar athrawon gydweithio er mwyn gwella’r profiadau ar gyfer y disgyblion.  Penllanw’r gwaith oedd cael prynhawn o rannu arferion da ar ffurf cyflwyniad i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, staff yr ysgol, llywodraethwyr, staff yr awdurdod lleol a myfyrwyr y Brifysgol. 

Pa effaith cafodd y gwaith ar ddarpariaeth a deilliannau’r disgyblion?

Llwyddodd y ddarpariaeth i gael effaith gadarnhaol ar fedrau llafar ac ysgrifennu’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, gyda’r thema greadigol yn ennyn brwdfrydedd y bechgyn yn benodol – roedd y cyfleoedd ehangach i ddisgyblion weithio mewn grwpiau ac i chwarae rôl yn fodd iddynt ddatblygu mewn hyder a sicrhau cyfleoedd iddynt berfformio mewn cyd-destun Cymreig. 

Llwyddodd y gweithgareddau digidol a gyflwynwyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau TGCh trwy ddefnyddio rhaglenni creu ffilm, paratoi cyflwyniadau electronig a defnyddio sgrin werdd.  Nodwyd fod parodrwydd y disgyblion a’r staff i fentro a defnyddio rhaglenni newydd wedi cyfoethogi eu medrau cyfrifiadurol ar draws yr ysgol. 

Sut ydych chi wedi rhannu’r arfer dda?

Un o flaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol oedd ymestyn y cyfleoedd i rannu arfer dda o safbwynt dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol.  Llwyddwyd i wneud hyn yn effeithiol, gan sicrhau bod yr athrawon yn datblygu sgiliau arsylwi, gwerthusol a gwella’r ffyrdd y maent yn rhoi adborth effeithiol.  Cafwyd cyfleoedd i rannu’r arfer dda drwy rwydwaith ysgolion arloesol, mewn cynadleddau’r Consortiwm Rhanbarthol a chydag ysgolion lleol. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn