Dull blaengar o gefnogi disgyblion mwy galluog a dawnus - Estyn

Dull blaengar o gefnogi disgyblion mwy galluog a dawnus

Arfer effeithiol

Ynystawe Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Ynystawe yn rhan isaf Cwm Tawe ac mae ganddi 195 o ddisgyblion ar y gofrestr o ystod eang o gefndiroedd cymdeithasol. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i herio pob disgybl i gyflawni’r safonau uchaf, yn cynnwys 17 disgybl y nodwyd yn ffurfiol eu bod yn fwy abl a dawnus. Mae’r pennaeth, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol a’r cydlynydd ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus yn sicrhau bod pob un o’r staff wedi ymrwymo’n llawn i ymagwedd yr ysgol, ac yn darparu hyfforddiant a mentora ar gyfer staff newydd.

Gweithgaredd

Mae ymagwedd ysgol gyfan at ddysgu, o’r enw ‘Effaith Leonardo’, yn datblygu medrau meddwl beirniadol a medrau dysgu annibynnol disgyblion. Yn ystod tymor cyntaf pob blwyddyn, mae disgyblion yn caffael medrau a gwybodaeth am destun penodol.

Yn yr ail dymor, maent yn rheoli eu dysgu eu hunain am y testun. Defnyddir y trydydd tymor i ddatblygu medrau gwyddoniaeth a medrau creadigol mewn perthynas â’r testun. Mae athrawon yn annog creadigrwydd, medrau ymchwil, archwilio a datrys problemau disgyblion trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r pennaeth yn arfarnu safonau trwy arsylwi gwersi yn uniongyrchol trwy fonitro cynnyrch disgyblion. Defnyddir y wybodaeth hon i sicrhau trosglwyddo didrafferth rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol. Mae’r ysgol yn defnyddio diwrnod hyfforddiant mewn swydd bob blwyddyn i staff arfarnu eu gwaith, dadansoddi deilliannau disgyblion a chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nodweddion da a rhagorol

Mae’r nodweddion da a rhagorol yn cynnwys:

  • arweinyddiaeth gymhellol sy’n sicrhau ymagwedd ysgol gyfan ac ymrwymiad gan y staff;
  • dealltwriaeth ar y cyd o’r math o addysgu sy’n cefnogi ac yn herio disgyblion mwy abl i gyflawni ar y lefelau uchaf;
  • ymagweddau cyson y mae disgyblion a rhieni yn eu deall; ac
  • ymagweddau creadigol ar gyfer datblygu medrau meddwl, datrys problemau a llefaredd lefel uwch.

Effaith a budd

O ganlyniad i’r gwaith hwn:

  • mae’r disgyblion mwyaf abl yn cyflawni lefel 6 mewn un pwnc craidd neu fwy ar ddiwedd cyfnod allweddol 2;
  • mae llawer o ddisgyblion yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda iawn o destunau penodol ac mae eu medrau mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn aml uwchlaw’r lefelau disgwyliedig am eu hoedran; ac
  • mae gwaith disgyblion mewn celf a dylunio yn greadigol a dychmygus.