Dull ataliol o gefnogi lles

Arfer effeithiol

Rougemont School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd annibynnol yw Ysgol Rougemont sy’n addysgu bechgyn a merched rhwng 3 ac 18 oed.  Sefydlwyd yr ysgol ar ddechrau’r 1920au ac mae wedi’i lleoli ar safle mawr rhwng Casnewydd a Chwmbrân.

Mae 544 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae’r rhain yn cynnwys 19 disgybl yn y meithrin a 180 o ddisgyblion yn yr ysgol baratoadol.  Yn yr ysgol hŷn, mae 244 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, a 101 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn byw yng Nghasnewydd a Thorfaen, ac mae rhai ohonynt yn teithio o leoedd pellach yn ne Cymru.  Mae tua 15% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.  Mae pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg yn rhugl er bod rhai ohonynt yn siarad ieithoedd eraill fel eu mamiaith.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Daeth Ysgol Rougemont yn ymwybodol fod pobl ifanc yn wynebu nifer o fathau gwahanol o bwysau mewn byd modern sy’n effeithio ar eu lles.  Penderfynodd yr ysgol ymgorffori diwylliant ysgol gyfan, i hyrwyddo a chefnogi gwydnwch a lles.  Wrth annog ymdeimlad o berthyn trwy ymgysylltu â chymuned yr ysgol, aethpwyd ati i feithrin lles ym mhob ardal yn yr ysgol.  Cyflwynodd yr ysgol raglenni ar draws pob sector, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar annog cyfranogiad ym mywyd yr ysgol a’r gymuned.  Cyflwynwyd ystod eang o swyddi newydd â chyfrifoldeb i gefnogi ymglymiad yr ysgol a llais y disgybl.  Roedd y rhain yn cynnwys: capteiniaid chwaraeon ar lefel iau a hŷn, cynrychiolwyr a phwyllgorau eco, arweinwyr elusennau a thîm lles a ffurfiwyd yn ddiweddar.  Mae disgyblion hŷn yn gweithio’n agos gyda disgyblion iau, gan wella ymdeimlad cryf o gymuned yn yr ysgol.  Mae pob un o’r rhain yn hollbwysig o ran galluogi’r plant i ffynnu yn eu datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae Ysgol Rougemont wedi canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles trwy ymgorffori diwylliant o atal yn hytrach nag ymateb.  Mae hyn wedi canolbwyntio ar feithrin datblygiad a gwydnwch emosiynol fel bod plant yn dysgu’r medrau sydd eu hangen i ymdopi â thrylwyredd academaidd cynyddol astudio wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol.  Ar draws yr ysgol gyfan, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad manwl o ddata Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol, i nodi unigolion neu grwpiau allweddol sydd angen cymorth targedig, er enghraifft trwy grwpiau anogaeth.  Mae’r ysgol wedi addasu ei chwricwlwm ABGI i fodloni anghenion disgyblion.

Er enghraifft, mae prynhawn a neilltuir ar gyfer ABGI yn yr ysgol baratoadol yn cynnwys: athro gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar gysgu; ymwybyddiaeth ofalgar a gyflwynir gan ymarferwr Paws b; darparu cwnselwr ac asiantaethau allanol ychwanegol fel y bo’n briodol.  Mae ffocws hefyd ar greu trosiadau diriaethol i gynrychioli cysyniadau ac emosiynau haniaethol.  Er enghraifft: jariau hapusrwydd; weebles; hambyrddau zen; pobl sy’n poeni; peli straen; byrddau hwyliau a jariau ‘rydw i’n gallu’. Cyflwynwyd pecyn gwybodaeth fugeiliol yn ddiweddar, sy’n helpu rhieni i atgyfnerthu’r mentrau hyn gartref, a dyma’r darn olaf yn y pos o ran sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi lles pob plentyn.

Mae swyddi â chyfrifoldeb yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ar draws yr ysgol gymryd rôl weithredol a helpu i ffurfio eu hysgol.  Mae cyngor ysgol gweithredol yn ardaloedd y babanod, yr adran iau a’r adran hŷn, ac anogir disgyblion i greu maniffestos, cymryd rhan mewn proses ethol ac arwain newid.  Mae disgyblion ar ddiwedd yr adran iau a’r adran hŷn yn ymgeisio am rolau sy’n ymwneud yn benodol â’u meysydd arbenigol; mae’r rhain yn cynnwys tîm lles; cynrychiolwyr elusen a rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau mewnol, gan greu ymdeimlad o ysbryd cymunedol.

Mae’r arwyddair Ysgol am Oes (School for Life) yn meithrin ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol.  Mae plant hŷn yn mynd ati i gynorthwyo’r rheiny mewn blynyddoedd iau, yn fugeiliol ac yn academaidd fel ei gilydd.  Mae disgyblion hŷn yn cynnal clybiau, gwasanaethau a gwersi pwnc penodol, yn ogystal â bod yn bresennol i gynorthwyo ac arwain chwarae yn ystod amseroedd egwyl.  Ar draws yr ysgol, caiff cynghorau ysgol eu cadeirio gan brif fachgen a phrif ferch pob adran, a chymerir cofnodion i sicrhau bod syniadau’n cael eu cyflwyno a chamau priodol yn cael eu cymryd.

Ategir datblygiad cymdeithasol ac emosiynol disgyblion gan gyfleoedd iddynt gymryd rhan ar draws yr ysgol mewn dyfarniadau sy’n benodol i oedran.  Mae Rougemont Rangers yn cynnig posibilrwydd i blant y babanod ddysgu gwahanol fedrau a chyfrifoldebau bywyd, sy’n rhychwantu Fi Fy Hun, Fy Nghymuned a Fy Myd.  Mae’r rhain, er enghraifft yn cynnwys: gefeillio, cymorth cyntaf a materion eco.  Ar ddiwedd yr adran iau, mae dyfarniad REACH yn annog disgyblion i gymryd rhan yn llawn ym mywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach, ehangu eu gorwelion a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, cwblhau tasgau hyd eithaf eu gallu a gwneud eu gorau glas.  Wrth i’r plant symud i’r ysgol hŷn, mae dyfarniad cyfnod allweddol 3 yn eu herio nhw i herio eu hunain. Ceir cyfleoedd sy’n benodol i bwnc ar gyfer cymhwyso medrau a gweithgareddau lles yn annibynnol.  Yn olaf, wrth i’r disgyblion agosáu at fynd i’r ysgol hŷn, mae Gwobr Dug Caeredin yn denu cyfran sylweddol o ddisgyblion ar gyfer y wobr efydd, o leiaf.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae gan ddisgyblion ymdeimlad sylweddol o berthyn i deulu Rougemont.  Mae pob un o’r rhanddeiliaid yn teimlo’n rhan o gymuned ehangach yr ysgol, ac mae llawer o ymwelwyr yn sôn am ethos croesawgar, hapus a chynnes yr ysgol.  Mae pob un o’r gweithgareddau hyn yn helpu i chwarae rôl arwyddocaol o ran cyfrannu tuag at ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol ac academaidd disgyblion.  Mae data Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol yn dangos lefelau uchel o foddhad disgyblion â’u profiad ysgol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, a cheir lefelau arbennig o uchel o gyfranogiad disgyblion ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda trwy erthyglau mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a ysgrifennwyd gan arweinwyr lles yn yr ysgol.  Rhannwyd mentrau penodol ag ysgolion lleol a’r gymuned, er enghraifft cysylltiadau masnach deg â Bron Afon, cymdeithas dai leol; rhannu menter Rhedeg Milltir (Run a Mile) ac ysgol gynradd leol ac arweinwyr Rhedeg yn y Parc (Park Run) sy’n siarad Cymraeg, a sefydlu hwb iechyd meddwl ar gyfer addysg gynradd.