Diwallu anghenion cymuned amrywiol 

Arfer effeithiol

Monkton Priory CP School

Grŵp o blant yn eistedd ar lawr campfa, gan godi eu dwylo mewn ymateb i athro, mewn dosbarth addysg gorfforol ysgol.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen wedi’i lleoli ar gyrion Penfro, yn Sir Benfro. Mae’r gymuned ymhlith 10% o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Daw 33% o ddisgyblion o gefndir Sipsiwn a Theithwyr, ac mae 60% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae llawer o ddisgyblion yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag dysgu, gan gynnwys materion amddiffyn plant, tai gwael a phroblemau iechyd. Mae lleiafrif o ddisgyblion wedi cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol lluosog yn ystod plentyndod, ac mae ychydig       ohonynt wedi profi lefelau uchel o drawma. I’r rhai sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, mae’r ysgol yn darparu dwy ganolfan adnoddau dysgu (CADau). 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Trwy hunanwerthuso a meithrin perthnasoedd parhaus, nododd arweinwyr yr ysgol sawl mater allweddol sy’n effeithio ar gynnydd a lles disgyblion, sef: 

  • Lefelau uchel o ddiweithdra a phroblemau iechyd. 
  • Cysylltiadau gwael o ran trafnidiaeth, sy’n cyfyngu ar brofiadau y tu hwnt i’r ardal leol. 
  • Heriau cymdeithasol sy’n effeithio ar bresenoldeb ac ymgysylltu â rhieni. 
  • Pryderon ymhlith y gymuned Sipsiwn a Theithwyr am ddisgwyliadau’r cwricwlwm statudol, gan achosi i rai teuluoedd ddewis addysg yn y cartref. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

I fynd i’r afael â’r heriau hyn, datblygodd yr ysgol gwricwlwm pwrpasol a mentrau amrywiol: 

  1. Rhaglen ‘Inspire to Aspire’: Mae’r rhaglen hon yn codi dyheadau trwy ganolbwyntio ar wahanol ddiwydiannau bob tymor, gan gynnwys cyfweliadau, ymweliadau, a deilliannau prosiect. Er enghraifft, ymgysylltodd myfyrwyr Blwyddyn 6 â ffatri denim leol, gan drafod cynaliadwyedd a chreu cynhyrchion i’w gwerthu mewn digwyddiad ysgol.  
  1. Gwasanaeth Launch: Mae’r gwasanaeth addysg a chyfeirio hwn i oedolion yn grymuso rhieni trwy gynnig cyrsiau a chymwysterau yn rhad ac am ddim, fel cyrsiau diogelwch safle             diwydiant, medrau swyddogaethol, a graddau addysg gynhwysol. Mae hyn wedi codi dyheadau disgyblion, hefyd. Mae Launch hefyd yn darparu sesiynau galw i mewn wythnosol ar gyfer iechyd meddwl, tai, cyllid a chymorth â cham-drin domestig, yn ogystal â pharseli bwyd a dosbarthu gwisg ysgol.    
  1. Rhaglen ‘Succeeding through Sport’: Mae’r fenter hon yn hyrwyddo iechyd a chariad at chwaraeon trwy ganolbwyntio ar wahanol chwaraeon bob hanner tymor, yn cynnwys  ymweliadau gan athletwyr a digwyddiadau arbennig. Mae’r rhaglen wedi ysbrydoli rhai disgyblion i ddod yn athletwyr lled-broffesiynol.  
  1. ‘Window on the World’:  Mae’r fenter hon yn cynnig ystod o ymweliadau a phrofiadau  diwylliannol yn rhad ac am ddim i ehangu gorwelion disgyblion. Er enghraifft, mae myfyrwyr Blwyddyn 4 yn ymweld â Big Pit i ddatblygu empathi a dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol fel trychineb Aber-fan. 
  1. Ymgysylltu â’r Gymuned: Mae arweinwyr yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r gymuned i fynd i’r afael â rhwystrau. Er enghraifft, mae bws mini’r ysgol yn darparu gwasanaeth casglu disgyblion yn y bore, gan wella presenoldeb 3% a chynyddu cyfranogiad yn y clwb brecwast. Aethpwyd i’r afael â phryderon am addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) yn sensitif, gan sicrhau bod cydbwysedd rhwng hawliau disgyblion a sensitifrwydd y gymuned. 
  2. Dathlu Amrywiaeth: Mae’r cwricwlwm yn pwysleisio amrywiaeth ac empathi. Fel rhan o brosiect gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bu disgyblion yn cyfweld â Richard O’Neill, awdur Roma, ac yn creu ffilmiau ar ei fywyd a mythau am Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i archifo yn y Llyfrgell Genedlaethol. Rydym hefyd yn ffodus i gael Varda wedi’i osod ar fenthyciad ar gyfer adrodd storïau o fewn tir yr ysgol.    

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae’r mentrau hyn wedi cael effaith sylweddol: 

  • Mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf dros gyfnod o fannau cychwyn isel. 
  • Maent yn datblygu ymdeimlad o hunan-werth a photensial. 
  • Caiff dyheadau uwch ar gyfer bywyd a gwaith eu meithrin. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen wedi rhannu ei strategaethau llwyddiannus â   chynulleidfaoedd amrywiol: 

  • Mae rhaglen ‘Succeeding Through Sport’ wedi cael ei rhannu ag ysgolion eraill yn Sir Benfro. 
  • Mae strategaethau llythrennedd a rhifedd wedi cael eu lledaenu trwy rwydweithiau cynradd Sir Benfro. 
  • Cyflwynwyd rhaglen Launch i’r cyn-Weinidog Addysg, myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yng ngwobrau’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. 
  • Gwnaed cyflwyniad ar degwch a chynhwysiant yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Cwricwlwm. 

Trwy fynd i’r afael ag anghenion unigryw ei chymuned, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen yn codi dyheadau ac yn goresgyn rhwystrau rhag dysgu yn effeithiol, gan greu effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a’u teuluoedd, fel ei gilydd.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn