Diwallu anghenion cyfathrebu disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Bryn Derw


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bryn Derw, Casnewydd, yn darparu addysg ddydd i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 19 oed. 

Mae pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol wedi cael diagnosis anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA).  Mae gan bron bob un ohonynt anawsterau lleferydd, cyfathrebu ac iaith, ac nid yw mwyafrif y disgyblion yn cyfathrebu trwy ddefnyddio lleferydd.  Mae gan bron bob un o’r disgyblion anawsterau dysgu difrifol hefyd. 

Daw disgyblion o ddalgylch mawr ar draws Casnewydd.  Mae ychydig dros draean o’r holl ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.  Daw ychydig llai na thraean o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.  

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2017.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan bob un o’r disgyblion heriau cyfathrebu sylweddol.  Pan fyddant yn ymuno â’r ysgol, mae gan lawer ohonynt orbryderon a graddau o ddadrithio addysgol, ac maent yn profi gorlwytho synhwyraidd mewn amgylchedd ysgol.  Mae angen iddynt gael dull ysgol gyfan cyson o ran cyfathrebu.  

Mae athro arweiniol yn cynllunio a rheoli system cyfathrebu cyflawn ddynodedig yr ysgol.  Cytunodd yr athro hwn, ynghyd â’r uwch dîm arweinyddiaeth, ar set o werthoedd craidd y byddai’r ysgol yn gweithredu yn unol â hi, sef:

  • cydnabod pob ymddygiad fel ffurf o gyfathrebu
  • sicrhau bod pob un o’r staff yn deall effaith amser prosesu ar ddisgyblion ag ASA 
  • ymrwymiad i ystyriaeth gadarnhaol ddiamod ar gyfer yr holl ddisgyblion

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

1. Asesu
Mae asesiad ar y cyd gan yr arweinydd cyfathrebu cyflawn a’r therapydd lleferydd ac iaith yn darparu dadansoddiad manwl i’r ysgol o’r anghenion cyfathrebu a’r rhwystrau rhag dysgu i bob disgybl.  Mae’r asesiad gwaelodlin hwn yn helpu nodi’r dulliau, y systemau a’r adnoddau mwyaf effeithiol sydd eu hangen.  Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel addysgu uniongyrchol, amgylcheddau ystafell ddosbarth hynod strwythuredig a systemau cyfathrebu cydlynus. 

2. Cynllunio’r amgylchedd
Mae adeilad cyfan yr ysgol, yn cynnwys coridorau a mannau a rennir, wedi’i sefydlu fel ‘amgylchedd sy’n gefnogol i’r synhwyrau’, gyda chyn lleied â phosibl o sŵn amgylchynol neu elfennau gweledol i dynnu sylw.  Mae panelau sy’n distewi sain, diben wedi’i ddiffinio’n glir ar gyfer pob ystafell, a wal wag ar hyd pob coridor a phob ystafell yn cyfrannu at sicrhau amgylchedd priodol ar gyfer yr holl ddisgyblion.  Mae’r arwyddion hefyd yn gyson, ac yn cynnwys geirfa Gymraeg a Saesneg, ffotograff, symbol a gwrthrych fisegol. 

3. Hyfforddi staff
Mae gan yr ysgol ffocws clir ar wella medrau staff.  Mae canlyniadau archwiliad o anghenion hyfforddi staff wedi arwain at ddatblygu ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol.  Mae’r rhain yn cynnwys arsylwadau cymheiriaid, trafodaethau am ymchwil ryngwladol, a darparu adnoddau eithriadol o dda.  
Mae hyrwyddwr cyfathrebu ym mhob dosbarth yn helpu cynnal trosolwg o anghenion disgyblion ac adnoddau, ac yn sicrhau bod strategaeth gyfathrebu’r ysgol gyfan yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol.

4. Cyngor a chymorth ychwanegol
Mae’r cymorth a’r cyngor ychwanegol ar gyfer athrawon gan yr arweinydd cyfathrebu cyflawn, uwch arweinwyr, y therapydd lleferydd ac iaith a staff allweddol eraill bob amser ar gael i helpu nodi’r ymyrraeth fwyaf defnyddiol ar gyfer disgyblion unigol neu grwpiau o ddisgyblion.  Mae’r cyngor, y cymorth neu’r ymyrraeth hon yn darparu cyfleoedd defnyddiol i fodelu arfer effeithiol hefyd. 

5. Cymorth i rieni a gofalwyr
Mae’r ysgol yn darparu cyfres reolaidd o foreau coffi a gweithdai hyfforddiant i arddangos methodoleg a heriau datrys sydd gan deuluoedd unigol yn amgylchedd eu cartref.  Pan fydd angen, mae gwasanaeth lleiafrifoedd ethnig yr awdurdod lleol yn darparu cyfieithwyr i gynorthwyo teuluoedd i fanteisio ar y sesiynau hyn. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r dull ysgol gyfan o ran Cyfathrebu Cyflawn wedi gyrru’r ddarpariaeth yn Ysgol Bryn Derw, i bob pwrpas.  Mae’n darparu amgylchedd sy’n galluogi pob disgybl i gyfathrebu’n effeithiol, cael ei ddeall gan staff, ac yn deall cyfathrebu pobl eraill yn llwyddiannus.  Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd ar eu dysgu a’u profiad ysgol.

Gall disgyblion weithredu’n effeithiol ar draws yr ysgol, gan fod eu hamgylchedd yn gyfarwydd ac yn dilyn yr un system â’u hystafell ddosbarth.  Gallant gyfathrebu’n effeithiol â staff ar draws yr ysgol, am fod gan bob un ohonynt yr un ymwybyddiaeth o’u hanghenion a gwybodaeth sylfaenol am y systemau maent yn eu defnyddio.

Mae arolygon rhieni wedi cadarnhau yn gyson fod disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu cyfathrebu, a bod llawer ohonynt yn ymgorffori’r rhain yn effeithiol gartref hefyd.

Mae nifer y digwyddiadau a gofnodir yn ymwneud ag ymddygiad wedi gostwng yn sylweddol, gan ostwng 57% dros gyfnod o ddwy flynedd.  Ni fu unrhyw waharddiadau cyfnod penodol na pharhaol. Mae disgyblion wedi bodloni 88% o’r targedau cyfathrebu mewn cynlluniau addysg unigol. Mae dros 90% o ddisgyblion yn gwneud cynnydd mewn pynciau craidd, yn unol â’u cyfradd cynnydd ddisgwyliedig, neu’n uwch, ac mae cynnydd ym mhob elfen iaith, llythrennedd a chyfathrebu uwchlaw’r disgwyliadau ar gyfer y garfan. 

Bu gwelliant amlwg yn y mesuriadau hyn ar gyfer disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, ac mae disgyblion SIY yn perfformio’n well na’u cyfoedion nad ydynt yn ddisgyblion SIY erbyn hyn.