Disgyblion yn rhannu profiadau dysgu er mwyn annog dysgwyr sy’n llai ymgysylltiedig - Estyn

Disgyblion yn rhannu profiadau dysgu er mwyn annog dysgwyr sy’n llai ymgysylltiedig

Arfer effeithiol

Cwmfelinfach Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yng nghanol pentref Cwmfelinfach yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 192 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae nifer y disgyblion mewn grwpiau blwyddyn penodol yn amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd bod nifer o ddisgyblion yn ymuno ac yn ymadael yn ystod y flwyddyn.

Mae pedwar dosbarth oedran unigol a thri dosbarth oedran cymysg yn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion addysgol arbennig gan oddeutu 14% o ddisgyblion, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae bron pob un o’r disgyblion o gefndir ethnig gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn ymfalchïo mewn rhoi disgyblion wrth wraidd eu dysgu, gan roi llais a pherchenogaeth glir iddynt ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, a sut.  Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion lais cryf mewn helpu i wneud penderfyniadau am fywyd yr ysgol.  Mae hyn yn arwain at safonau lles uchel iawn ac yn ategu’r medrau cymdeithasol a medrau bywyd cryf iawn sydd i’w gweld ymhlith disgyblion ar draws yr ysgol.  I wella’r rhain ymhellach, penderfynodd arweinwyr gynnwys disgyblion yn fwy yn y broses fonitro a hunanarfarnu ar lefel ysgol gyfan er mwyn symud yr ysgol yn ei blaen. 

Dechreuodd y rhesymwaith oedd wrth wraidd y Prosiect Ysbiwyr Dysgu gydag Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnal yr arolwg gyda phob disgybl cyfnod allweddol 2 yn flynyddol i fonitro’u hunan-barch a’u hymateb i ddysgu.  Mae’r cydlynydd asesu, cofnodi ac adrodd yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn rhannu’r deilliannau gyda’r holl aelodau staff.  Mae carfanau cyfan, grwpiau o ddysgwyr, ymatebion unigol a thueddiadau yn destun craffu ac yn cael eu cofnodi ar system asesu’r ysgol.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi gwahodd disgyblion sy’n arddangos nodweddion fel diffyg hunan-barch ac ymateb mwy negyddol at eu haddysg i ddod yn aelodau o grŵp Ysbiwyr Dysgu.  Mae’r dirprwy bennaeth yn arwain y prosiect a chaiff dynameg y grŵp ei ystyried yn ofalus er mwyn cynnwys y disgyblion sy’n debygol o elwa fwyaf o’r profiad.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae aelodau’r grŵp Ysbiwyr Dysgu yn arsylwi gwersi ac yn gofyn cwestiynau i’w cyfoedion am sut maent yn dysgu a beth mae angen iddynt ei wybod.  Maent yn chwarae rhan bwysig mewn dyfeisio posteri dosbarth a chynnig strategaethau defnyddiol ar sut i weithio’n annibynnol.  Mae hyn yn cynyddu eu hunan-barch yn sylweddol a theimlant fod rhan weithgar ganddynt yn natblygiad yr ysgol ac mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Y man cychwyn ar gyfer aelodau’r grŵp yw darllen y Polisi Addysgu a Dysgu fel eu bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau’r athrawon a’r dysgwyr yn yr ysgol.  Yna, byddant yn trafod materion fel beth sy’n gwneud addysgu a dysgu da.  Mae hyn fel arfer yn ysgogi ymateb bywiog.  Mae aelodau’r grŵp disgyblion yn penderfynu ar brif ffocws yr arsylwadau, sy’n fyr ac yn ffocysedig.  Yn ystod amser arsylwi, mae ‘ysbiwyr’ yn arsylwi dysgwyr, yn holi dysgwyr yn uniongyrchol ac yn edrych ar lyfrau ac arddangosfeydd.  Yn union wedi ymweliad, maent yn rhannu syniadau yn eu tîm ac yn ysgrifennu nodiadau ar eu darganfyddiadau.  Yna, mae ‘ysbiwyr’ yn cael amser i gydweithio er mwyn creu cyflwyniad i’w rannu gyda rhanddeiliaid eraill.

Mae’r ysgol yn cynnwys sesiynau adborth yn yr amserlen fel bod cyn lleied o darfu â phosibl.  I ddisgyblion, dyma’r rhan fwyaf pleserus a buddiol o’r broses.  Mae’r ‘ysbiwyr’ yn rhannu eu darganfyddiadau gyda’r dosbarthiadau yr ymwelont â nhw ac yn rhoi rhestr o ddarganfyddiadau cadarnhaol iddynt, yn ogystal â ffyrdd y gallent wella.  Cyflwynant eu darganfyddiadau ar ffurf poster a’i arddangos yn eu hystafelloedd dosbarth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r holl Ysbiwyr Dysgu wedi gwneud camau sylweddol ymlaen yn Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol.  Mae llawer o’r disgyblion a gafodd sgôr ymhell islaw 50% ym mhob un o’r naw agwedd cyn y prosiect bellach yn dangos sgorau uwchlaw 80% yn yr agwedd at ddysgu ym mhob maes.

Mae’r holl ddisgyblion wedi elwa o’r broses o safbwynt ansawdd yr adborth gan eu cyfoedion, gan gynyddu llais y disgybl yn yr ysgol.

Yn ogystal, gofynnodd staff i’r Ysbiwyr Dysgu gynhyrchu cymorth gweledol ar gyfer menter ysgol gyfan ar ddysgu annibynnol.  Penllanw hyn oedd cynhyrchu poster ‘STUCK’ i helpu disgyblion o bob oedran ddeall beth i’w wneud pan fydd dysgu’n heriol iddynt.  Mae hwn yn gymorth dysgu hynod fuddiol ac mae’n datblygu annibyniaeth ym mhob dosbarth.

Yn ystod ail flwyddyn y prosiect, fe wnaeth yr ysgol adolygu ei pholisi ar ymddygiad a chyflwyno ‘Parod, Cyfrifol a Pharchus’.  Creodd yr Ysbiwyr Dysgu fapiau’r meddwl i ddangos i’w cyfoedion sut i fod yn barod, yn gyfrifol ac yn barchus.  Mae’r holl ddisgyblion yn monitro ymddygiad.  O ganlyniad, mae ymddygiad ar draws yr ysgol yn rhagorol.

Fe wnaeth disgyblion ddiweddaru’r Polisi Addysgu a Dysgu ochr yn ochr â’r uwch dîm rheoli i adlewyrchu’r datblygiadau presennol hyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae disgyblion wedi rhannu eu gwaith gyda’r pennaeth, llywodraethwyr, uwch reolwyr yr ysgol uwchradd gyflenwi a staff o ysgolion cynradd eraill.  Bu hyn yn llwyddiannus iawn ac mae nifer o ysgolion cynradd lleol wedi sefydlu eu grwpiau eu hunain i fynd i’r afael â materion tebyg.

Yn ogystal, mae’r cydlynydd asesu, cofnodi ac adrodd wedi cynnal cyfarfodydd â chydweithwyr ar draws y clwstwr i rannu’r dadansoddiad o Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol a manteision Ysbiwyr Dysgu.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn