Disgyblion yn dod â hanes yn fyw trwy bartneriaeth yr ysgol ag amgueddfa

Arfer effeithiol

Barry Island Primary


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Ynys Y Barri yn nhref Y Barri ym Mro Morgannwg.  Mae 243 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed.  Mae hyn yn cynnwys 35 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae naw  dosbarth yn yr ysgol.  Canran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 14%, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 16% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig, ac nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig o ddisgyblion. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Gynradd Y Barri weledigaeth glir i hyrwyddo a chynllunio cyfleoedd dysgu cyffrous yn gysylltiedig â chyd-destun go iawn, a dilys.  A hithau’n Ysgol Arloesi Dysgu Proffesiynol gyda Llywodraeth Cymru, nododd yr ysgol gyfle i hwyluso datblygu’r cwricwlwm yn effeithiol trwy weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Hanes Cymru yn Sain Ffagan.  Bu’r ysgol yn canolbwyntio i ddechrau ar y model ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’ a’r gwerthoedd trosfwaol i ysgogi cynllunio cwricwlwm arloesol sy’n ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm newydd i Gymru trwy brofiadau dysgu cyfunol ysbrydoledig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Trwy hunanwerthuso yn unol â’r Safonau Proffesiynol fel man cychwyn, nododd yr ysgol feysydd i’w datblygu ar gyfer y tîm addysgu.  Cafodd datblygiad proffesiynol staff ei gynllunio a’i amserlennu’n ofalus.  Galluogodd hyn iddynt gael dealltwriaeth ddyfnach o’r model a chynllunio ymagwedd gyfannol wedi’i hanelu at sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer dysgwyr.

Sefydlodd y tîm arweinyddiaeth bartneriaeth gwaith effeithiol â Sain Ffagan, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, i dreialu elfennau o’r cwricwlwm newydd.  Roedd y prosiect, sef ‘Treftadaeth Gymreig – Cofnodi eiliad mewn amser’ (Welsh Heritage – Capturing a moment in time’), yn cynnwys cydweithio llwyddiannus rhwng y ddau sefydliad, gan drwytho disgyblion ym meysydd dysgu a phrofiad newydd mathemateg a’r dyniaethau yn y cwricwlwm newydd i Gymru.

Neilltuwyd lleoliad ar y safle, a chyfnod mewn hanes i’w archwilio, ar gyfer dosbarthiadau.  Bu’r tîm addysgu yn datblygu templed cynllunio newydd ar y cyd, wedi’i gynllunio i ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm newydd, ac yn olrhain dilyniant yn unol â datganiadau drafft y cwricwlwm newydd, ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’, ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a mathemateg.

Cynhaliwyd gwersi wedi’u cynllunio dros hanner tymor, a neilltuwyd amser i ddysgwyr ymweld â sawl safle i gasglu gwybodaeth a chreu adnoddau digidol, fel defnyddio codau QR a TGCh i ddatblygu ffeiliau ffeithiau gwybodaeth i ymwelwyr ar gyfer pob lleoliad.  Heriwyd dysgwyr i sgriptio a chreu ffilm ddogfennol ffeithiol am eu lleoliad i ganolbwyntio ar fedrau hanesyddol a medrau yn seiliedig ar lythrennedd.  Fe wnaeth gwersi trawsgwricwlaidd wedi’u cynllunio herio disgyblion i gymhwyso gwybodaeth a medrau mewn lleoliad hanesyddol go iawn, a’u galluogi i arwain eu dysgu eu hunain yn fwy annibynnol.  Daeth tîm Sain Ffagan i ymweld â’r ysgol ‘yn eu gwisgoedd’, i gefnogi’r pedwar diben a helpu adeiladu profiadau dysgu go iawn.

Grŵp Blwyddyn:

Tŷ:

Thema:

Dyddiad/Cyfnod mewn Amser

Tarddiad:

Ailgrëwyd/

Ailgodwyd:

Meithrin

Ysgol Maestir

Y Fictoriaid

1894- 1916

Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

1984

Derbyn

Bryn Eryr

Tŷ Crwn o’r Oes Haearn

2300 o flynyddoedd yn ôl

Cwm Ogwr

2016

Blwyddyn 1

Tai Teras Rhyd-y-car

Y Chwyldro Diwydiannol

1805- 1900

Merthyr Tudful

1987

Blwyddyn 2

Tai Teras Rhyd-y-car

Y Chwyldro Diwydiannol

1900- 1980

Merthyr Tudful

1987

Blwyddyn 3

Tolldy

Terfysgoedd Beca

1839-1844

Penparcau Aberystwyth

Adeiladwyd: 1771

Ailgodwyd:1968

Blwyddyn 4

Siop Gwalia

Manwerthu

1880-1945

Abertawe

1991

Blwyddyn 5

Ffermdy Kennixton ac adeiladau

Bwthyn

Nantwallter

Ffermio

Cyfoeth/Tlodi

1800

1785

Penrhyn Gŵyr

Taliaris, ger Salem Sir Gaerfyrddin

1955 a 2012

1993

Blwyddyn 6

Llys Llywelyn

Oes y Tywysogion

1195-1240

Y Canol Oesoedd

Ynys Môn/Gwynedd

2016

Rhoddwyd cyfleoedd i ddysgwyr fynegi eu dysgu yn arloesol, a chynhaliodd yr ysgol ddigwyddiad dathlu i arddangos gwaith y disgyblion, a dangos datblygiad eu medrau.  Ar safle Sain Ffagan, chwaraewyd ffilmiau dogfen hanesyddol y disgyblion ar sgrin sinema awyr agored i deuluoedd a rhanddeiliaid eraill eu mwynhau.  Hefyd, rhoddwyd tasg i’r disgyblion drefnu arddangosfa o’u gwaith, a gynhaliwyd yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan. 

Mae Ysgol Gynradd Ynys Y Barri yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Amgueddfa, ac wedi creu glasbrint ar gyfer cynllun gwaith, y gellir ei rannu ag ysgolion eraill fel model enghreifftiol o gyd-destunau go iawn, dilys ar gyfer dysgu i gefnogi gofynion y cwricwlwm newydd.  Trefnwyd bod yr adnoddau digidol a ddatblygwyd gan y dysgwyr ar gael i’r Amgueddfa hefyd, a gellir eu defnyddio i wella’r profiad i ymwelwyr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad proffesiynol ar draws y tîm addysgu ac arweinyddiaeth.  Mae’r tîm wedi canolbwyntio ar gynnal yr amodau angenrheidiol i gyflawni’r pedwar diben ar gyfer dysgwyr.  Mae’r dadansoddiad manwl o’r model Safonau Proffesiynol a’r daith hunanwerthuso wedi datblygu hyder ymhlith y staff i fentro a chydweithio i ddarparu profiadau dysgu cyfunol cynaledig, a hynod effeithiol.  Mae staff wedi datblygu eu harfer fyfyriol yn effeithiol i greu cysylltiadau rhwng y meysydd dysgu, a hwyluso dilyniant y dysgu yn well.

Rhoddwyd cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rôl fwy weithgar mewn arwain eu dysgu eu hunain.  Roedd y gwersi’n cynnig her briodol i alluogi dysgwyr i ddatblygu gwydnwch wrth ddatrys problemau.  Bu gwelliant sylweddol o ran cymhwyso ‘medrau’r dyniaethau digidol’ i gasglu, dadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau, gan gynnwys creu cronfa o adnoddau digidol i gefnogi’r cynllun gwaith.  Cafodd y digwyddiad dathlu effaith sylweddol ar les dysgwyr, a rhoddwyd cyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio’n gadarnhaol ar ansawdd uchel eu cynhyrchion a’u perfformiadau.  Roedd balchder y disgyblion yn eu gwaith yn gwbl amlwg, ac mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar gynyddu ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu.

Trwy asesu gwaith disgyblion, roedd yn amlwg eu bod yn gallu llunio casgliadau, er enghraifft trwy ddadansoddi arteffactau, mapiau, technegau ffermio a dyluniadau adeiladu cyfnodau.  Roedd disgyblion yn gallu datblygu eu cwestiynau eu hunain â hyder cynyddol, a cheisio atebion mewn cyd-destun go iawn.  Wrth feddwl yn feirniadol am eu darganfyddiadau, roedd disgyblion cyfnod allweddol 2 yn gallu sefydlu casgliadau gwybodus a chwestiynau pellach ar gyfer ymholi.  Hefyd, fe wnaeth effaith y prosiect alluogi disgyblion i barhau i ddangos medrau gwell mewn llafaredd, darllen ac ysgrifennu.  Roeddent yn gallu prosesu gwybodaeth hanesyddol yn fanylach, ac ymateb yn unol â hynny hefyd i gyfleu eu dealltwriaeth.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Cafodd rhaglenni dogfen hanesyddol y disgyblion eu rhannu a’u dathlu mewn digwyddiad wedi’i drefnu yn Sain Ffagan.  Roedd teuluoedd, pwysigion lleol a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a chonsortia lleol yn bresennol yn y digwyddiad.

Cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa o waith y disgyblion i arddangos y medrau llythrennedd a rhifedd a gafodd eu datblygu a’u cymhwyso trwy’r pedwar diben, a gwahanol feysydd profiadau dysgu.  Cyflwynwyd modelau a gwaith disgyblion fel arddangosfa ar gyfer ymwelwyr â’r amgueddfa.

Trefnwyd bod y cynllun gwaith ac adnoddau digidol ategol ar gael i’r Amgueddfa Genedlaethol yn Sain Ffagan, sy’n bwriadu trefnu bod y pecyn ar gael i ysgolion eraill sy’n dymuno defnyddio’r prosiect i ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn eu lleoliad.

Yn dilyn llwyddiant y prosiect, dechreuodd yr ysgol gydweithio’n ehangach â Grŵp Gwella Ysgolion i archwilio’r maes dysgu a phrofiad mathemateg, gan ddefnyddio Sain Ffagan eto fel y symbyliad i ddarparu cyd-destunau go iawn a dilys.  Rhannwyd y cydweithio yn fewnol ym mhob un o’r ysgolion partner fel rhan o ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant staff i ddatblygu’r cwricwlwm.  Trwy werthuso, canfu athrawon y Grŵp Gwella Ysgolion ei bod yn fuddiol ymgysylltu ag elfennau’r ‘cwricwlwm drafft’, a chanolbwyntio ar elfennau’r Pedwar Diben i ennyn brwdfrydedd dysgwyr, a’u cymell.  Arweiniodd prosiect y Grant Gwella Ysgolion at ddull i athrawon gynorthwyo’i gilydd mewn cyd-gynllunio effeithiol tra’n cyfoethogi cyfleoedd ar gyfer yr holl ddysgwyr.

Yn dilyn y prosiect, gwahoddwyd disgyblion i gymryd rhan mewn digwyddiad y cyfryngau gan y BBC yn yr amgueddfa i rannu profiadau dysgu a barn am yr ymdriniaeth â Diwylliant Cymru yn y cwricwlwm newydd.  Yn ystod y digwyddiad hwn, bu disgyblion yn rhannu syniadau a llwyddiant y prosiect gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr ym maes y dyniaethau, i hyrwyddo’r posibiliadau cyffrous i ddysgu am dreftadaeth a diwylliant Cymru ledled Cymru.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn