Disgyblion yn arwain eu profiad dysgu eu hunain
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Brychdyn yn nhref Brychdyn yn Sir y Fflint. Mae 550 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn mynychu’r ysgol, gan gynnwys 76 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin. Mae 22 o ddosbarthiadau yn yr ysgol, gan gynnwys tri dosbarth meithrin rhan-amser. Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dros y tair blynedd ddiwethaf yw tua 13%. Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 19%. Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith y cartref. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 13% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol:
Arwyddair yr ysgol yw, ‘Bod y gorau y gallwn ni’ (‘Being the best that we can be’), sydd wedi’i ymgorffori yn ei chyd-destun a’i gweledigaeth. Mae diwylliant o welliant yn treiddio trwy’r ysgol gyfan, ac ar y cyd â chynllunio trylwyr a pherthnasoedd gwaith rhagorol rhwng disgyblion ac oedolion, mae’n helpu cyflawni safonau rhagorol cyson ar draws yr ysgol. Rhoddir amser i athrawon ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu (CPA), sy’n cyfrannu at lefel uchel o gydweithrediad a chysondeb yn yr ymagwedd at addysgu a dysgu.
Mae dysgu cydweithredol yn un o’r pum strategaeth graidd a ymgorfforwyd mewn arfer ysgol gyfan i sicrhau cysondeb o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6. Nodwyd y gellid ymestyn dysgu cydweithredol ymhellach trwy ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu bob wythnos, ac ychwanegu at gynllunio athrawon a’r ddarpariaeth i sicrhau ymgysylltiad a chwilfrydedd ar lefel uchel gan ddisgyblion.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch:
Nododd y tîm arweinyddiaeth fod cynghorau’r ysgol yn cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu’r ysgol, a bod angen ymestyn syniadau disgyblion a’u cyfraniad at ddysgu i bob unigolyn, ym mhob dosbarth. Cyflwynodd athrawon y cyfnod sylfaen gyfleoedd lle byddai disgyblion yn meddwl am eu syniadau, a’u rhannu, ynghylch pa weithgareddau o fewn y testun roeddent eisiau eu harchwilio mewn meysydd darpariaeth. Cofnodwyd y rhain, ac fe’u rhannwyd gan athrawon yn ystod amser CPA i gynllunio meysydd darpariaethau ar y cyd. Er enghraifft, rhannwyd casgliad o hen deganau â disgyblion, gan ennyn mwy o drafodaeth a chwestiynau fel; “A allwn ni greu ein teganau ein hunain? Beth wnawn ni? Pa ddeunyddiau allem ni eu defnyddio? Sut maen nhw’n gweithio?” Roedd y disgyblion eisiau creu amgueddfa i ddangos eu teganau gorffenedig i bobl eraill. Fe wnaethant gynllunio’r tocynnau, yr arwyddion, y taflenni gwybodaeth a’r rolau swydd yn yr amgueddfa. Trwy chwarae rôl, agorodd disgyblion yr amgueddfa i’w rhieni a’u perthnasau, a rhannu canlyniadau eu testun.
Yng nghyfnod allweddol 2, defnyddir strategaeth debyg. Cyn sesiynau CPA, mae athrawon yn casglu syniadau a chwestiynau disgyblion, sydd wedyn yn cael eu hymgorffori yng nghynllunio’r athrawon. Ceir teitl testun cyffredin, ac ymdrinnir â medrau ar draws y grwpiau blwyddyn. Fodd bynnag, caiff profiadau dysgu ym mhob dosbarth eu llywio gan y disgyblion. Caiff syniadau disgyblion eu harddangos yn yr ystafelloedd dosbarth, a daw’r atebion i gwestiynau a ofynnir gan y disgyblion yn rhan o’u taith ddysgu. Mae disgyblion yn gwerthuso ac yn myfyrio ar fanylder y cwestiynau yn barhaus. Trwy’r broses hon, mae disgyblion yn arwain cyfeiriad eu dysgu ac mae eu hymgysylltiad yn uchel. Mae hyn yn cefnogi olrhain ac asesu’r cwestiynau y mae disgyblion yn eu gofyn, ac yn cyfrannu at greu arddangosfeydd wal perthnasol i gefnogi’r dysgu. Arweiniodd llwyddiant llais y disgybl o ran gofyn eu cwestiynau eu hunain at ddatblygu poster “Cwestiwn Mawr” (“Big Question”).
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
- Lleihau amser meddwl / baich gwaith athrawon
- Gwerth cynyddol i gwestiynau disgyblion
- Ymestyn ymgysylltiad disgyblion
- Medrau meddwl yn annibynnol
- Gwelliant yn awydd disgyblion i ddysgu
- Perchnogaeth gynyddol disgyblion o ddysgu
- Grymuso disgyblion
- Mwy o ymgysylltiad gan rieni
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
- Mae disgyblion wedi cyfrannu at gyfarfodydd y corff llywodraethol ac wedi rhannu’r modd y maent yn cyfrannu at eu dysgu.
- Cafwyd cydweithio rhwng ysgolion.
- Mae pob dosbarth yn rhannu dysgu disgyblion â rhieni a disgyblion eraill yn ystod wythnosau thema a ‘rhannu gwasanaethau’ y gwasanaeth ysgol.
Cynhelir teithiau dysgu gyda swyddogion o gonsortiwm GwE, llywodraethwyr a staff o ysgolion y clwstwr.