Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd – Adroddiad arfer dda
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Wella ansawdd targedau yn CAUau disgyblion er mwyn hyrwyddo cynnydd disgyblion mewn dysgu ac annibyniaeth
- A2 Sicrhau bod trefniadau hunanwerthuso yn rhoi mwy o sylw i’r cynnydd a wna disgyblion ag AAA o ran eu hanghenion, eu galluoedd a’u mannau cychwyn unigol
Dylai awdurdodau lleol:
- A3 Gynorthwyo ysgolion i gael y gwasanaethau arbenigol allanol y mae eu hangen arnynt i hyrwyddo lles a chynnydd disgyblion ag AAA
- A4 Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion eraill a gynhelir yn yr awdurdod lleol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A5 Gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod cyfnod gweithredu’r trefniadau statudol newydd er mwyn cefnogi disgyblion ag ADY