Dilyniant ieithyddol a safonau’r Gymraeg mewn deg ysgol ddwyieithog – Tachwedd 2014
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion dwyieithog:
- osod targedau i gynyddu’r gyfran o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sydd yn dal i astudio Cymraeg iaith gyntaf ac yn dilyn eu cyrsiau drwy’r Gymraeg;
- ehangu’r arlwy o gymwysterau maent yn eu cynnig drwy’r Gymraeg;
- esbonio manteision dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg i ddisgyblion a rhieni a sicrhau bod rhieni yn cael eu cynnwys fwy yn addysg eu plant;
- cydweithio gydag ysgolion eraill i gynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg, ac i drafod a rhannu strategaethau addysgu dwyieithog;
- sicrhau bod datblygu medrau Cymraeg disgyblion yn flaenoriaeth ysgol-gyfan a chynllunio’n fwriadus er mwyn hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg;
- annog athrawon ar draws y pynciau i hyrwyddo defnydd disgyblion o’r Gymraeg yn y gwersi a thu hwnt; a
- sicrhau bod athrawon ar draws y pynciau yn talu sylw i gywirdeb ac ansawdd mynegiant disgyblion yn y Gymraeg.
Dylai awdurdodau lleol:
- olrhain fesul ysgol y cyfrannau o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sy’n dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg a gosod targedau i gynyddu hyn yn ôl amcanion eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg; a
- cynorthwyo ysgolion i drafod, datblygu a rhannu’r strategaethau addysgu dwyieithog mwyaf effeithiol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- sicrhau bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel Cymraeg ar gael ym mhob pwnc ar yr ‘Hwb’;
- codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd ac o barhau i astudio pynciau drwy’r Gymraeg; a
- sicrhau bod byrddau arholi yn cyhoeddi dogfennau arweiniad a chynlluniau marcio i athrawon yn y Gymraeg ac yn paratoi cwestiynau mewn ieithwedd glir yn eu papurau arholiadau cyfrwng Cymraeg.
Astudiaethau achos o arfer orau
- Ysgol Gyfun Bodedern, Ynys Môn
- Ysgol David Hughes, Ynys Môn
- Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
- Ysgol Gyfun Aberteifi, Ceredigion
- Ysgol Gyfun Bro Pedr, Ceredigion
- Ysgol y Moelwyn, Gwynedd
- Awdurdod Lleol Gwynedd