Defnyddio’r Gymraeg: gweithgareddau allgyrsiol bwriadus ac unigryw sy’n cefnogi dysgwyr i siarad Cymraeg yn gynyddol ddigymell ar safle’r Nant ac yn y gymuned leol
Quick links:
Gwybodaeth am y darparwr
Cyrsiau preswyl yw arbenigedd y Nant ac mae’r cyrsiau rheiny yn digwydd am gyfnodau o 3 neu 5 diwrnod ar y tro. Mae’r Nant hefyd yn darparu ychydig o gyrsiau rhithiol 3 neu 5 diwrnod. Mae gan y Nant gyrsiau unigryw a phwrpasol ar gyfer y profiad dwys o ddysgu o lefel Blasu hyd at Gloywi. Yn ystod 2022-23, darparodd prif ffrwd y Nant 452 o brofiadau dysgu unigol i 411 o ddysgwyr unigol. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhedeg cynllun Defnyddio Cymraeg Gwaith. Yn ystod blwyddyn ddiweddaraf y cynllun, gwelwyd 334 o brofiadau dysgu unigol ar 35 o gyrsiau.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae cyfnod preswyl yn y Nant yn cyfuno sesiynau dysgu ffurfiol yn y dosbarth a phrofiadau allgyrsiol er mwyn cynyddu medrau dysgwyr.
Mae’r rhaglen allgyrsiol yn cynnwys adloniant neu weithgaredd gyda’r nos a theithiau penodol ar brynhawniau Mercher. Mae’r elfennau hyn yn rhan bwysig o’r profiad dysgu ehangach yn y Nant ac yn gyfle i’r dysgwyr arbrofi gyda’u sgiliau newydd y tu allan i’r dosbarth. Cyn unrhyw ymweliad neu sesiwn adloniant mae’r dysgwyr yn cael sesiwn baratoi yn y dosbarth i’w harfogi i wneud y gorau a rhoi eu medrau Cymraeg ar waith.
Penderfynir ar y math o adloniant a thaith ar sail lefel y dysgwyr ond hefyd o ran eu diddordebau. Gan fod y Nant yn cynnal sgyrsiau ffôn gyda dysgwyr cyn iddynt ymweld â’r safle mae gennym lawer o wybodaeth amdanynt cyn eu croesawu yma. Golyga hynny ein bod yn medru trefnu gweithgaredd sy’n addas ac o ddiddordeb ac yn debygol o danio eu dychymyg.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Holl bwrpas y teithiau prynhawn Mercher yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd go iawn. Enghraifft o hyn yw ymweld â siop lyfrau Gymraeg mewn tref gyfagos a chefnogi’r dysgwyr i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i’r perchennog. I nifer ar y lefelau is, dyma’r tro cyntaf iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn annibynnol. Mae enghreifftiau o eraill yn prynu llyfr Cymraeg am y tro cyntaf neu yn prynu paned drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn gam mawr iawn i sawl dysgwr ac yn rhywbeth y maent yn teimlo’n falch iawn o’i wneud.
Mae lleoliad y teithiau i gyd wedi eu dewis yn ofalus ac rydym yn cefnogi’r unigolion sydd yn gweithio yno i gefnogi’r dysgwyr mewn ffordd briodol. Golyga hyn ei bod hi’n annhebygol iawn i ddysgwr gael profiad anodd neu anghyfforddus. Maent yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg. I nifer o ddysgwyr, mae hyn yn drobwynt yn eu taith iaith.
Rydym yn annog y dysgwyr i ymweld â Thafarn y Fic yn ystod eu hwythnos gyda ni. Mae’r dafarn hon sy’n lleol iawn i’r Nant yn bartner pwysig i ni ac yn cynnig amgylchedd naturiol cyfrwng Cymraeg. Dyma gyfle i’r dysgwyr ymlacio yng nghwmni siaradwyr Cymraeg, ymuno yn y cwis wythnosol neu wylio gêm o bêl droed. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae’r dysgwyr wedi ymuno mewn ymarfer côr lleol ac un arall wedi cynnig cyfeilio am fod y gyfeilyddes yn sâl. Mae’r profiadau hyn yn bwysig iawn i’r dysgwyr wrth iddynt deimlo yn rhan o’r gymuned Gymraeg ehangach.
Ar gyfer y criwiau Cymraeg Gwaith, mae teithiau i leoliadau gwaith cyfrwng Cymraeg amlwg yn bwysig. Mae ymweld â lleoliadau megis Galeri Caernarfon a chwmni teledu Cwmni Da wedi bod yn gyfle i’r dysgwyr weld y Gymraeg yng nghyd-destun y gweithle, a’r cyd-destunau rheiny yn rhai cyfoes a chyffrous sy’n ffynnu. Mae creu’r ddelwedd gadarnhaol yma o ddefnydd iaith yn holl bwysig i annog defnydd iaith.
Yn gyffredinol, mae gennym lu o enghreifftiau o fannau i ymweld â nhw megis Gwinllan Pant Du, Cwrw Llŷn, Amgueddfa Forwrol Llŷn, Canolfan Porth y Swnt, Oriel Glyn y Weddw, Coffi Poblado i enwi rhai yn unig. Drwy’r casgliad gwych yma o bartneriaid rydym yn medru darparu amrywiaeth o brofiadau i ddysgwyr sy’n dewis dychwelyd i’r Nant dro ar ôl tro.
Yn yr un modd, mae’r adloniant a drefnir i’r dysgwyr yn ddylanwadol hefyd. Mae’r ddarpariaeth yn eang ac yn ymatebol i ofynion y grŵp, er enghraifft wrth drefnu Noson Lawen ar gyfer criw o weithwyr celfyddydol a oedd gyda ni ar gwrs Mynediad. Doedd neb o’r criw wedi perfformio yn y Gymraeg o’r blaen felly roedd tipyn o nerfau a pharatoi. Bu’r tiwtoriaid yn cefnogi’r dysgwyr i baratoi eitemau, e.e. darnau llefaru, geiriau caneuon, ddarlleniadau, ac ati. Gwnaeth un criw berfformio Neges Ewyllys Da’r Urdd. Ar ddiwedd y noson roedd pawb wrth eu boddau a’r teimlad o gyflawniad yn amlwg. Bu gweddill yr wythnos yn un llawn egni a brwdfrydedd tuag at y dysgu yn y dosbarth.
Mae unigolion amlwg o’r Sîn Roc Gymraeg yn ymuno gyda ni yn wythnosol i ddiddanu hefyd. Dyma gyfle i’r dysgwyr weld y diwylliant Cymraeg cyfoes ar waith a chael cip ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael iddynt drwy eu hiaith newydd. Mae cymeriadau fel Meinir Gwilym yn agor y drws at gerddoriaeth Gymraeg ac at deledu Cymraeg megis ‘Garddio a Mwy’ hefyd.
Mae’r gwaith paratoi sy’n digwydd cyn ymweliad/adloniant yn holl bwysig i fwynhad y dysgwyr. Os ydynt wedi eu harfogi yn y gywir, e.e. gyda geirfa briodol, cwestiynau addas, gwybodaeth gefndirol maent yn medru gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg a hynny gyda chefnogaeth lawn eu cyd-ddysgwyr a’u tiwtor.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r math hwn o waith yn golygu ein bod fel darparwr yn darparu profiad cyfrwng Cymraeg i’n dysgwyr sy’n eu tynnu yn nes at fyw yn Gymraeg. Mae rhoi blas iddynt o’r hyn sydd ar gael iddynt yn eu hiaith newydd (gyda chefnogaeth tiwtor) yn ffordd o agor y drws a’u cefnogi i gamu drwyddo.
Yn ogystal, mae’n golygu bod pob wythnos breswyl yn ddeinamig ac yn fywiog ac yn ymatebol i anghenion y dysgwyr. Mae hynny yn ei dro yn creu darpariaeth atyniadol sy’n debygol o ddenu dysgwyr yn ôl ond hefyd eu hannog i greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg eu hunain – mae’n torri’r garw.