Defnyddio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i ymestyn medrau mathemategol a chreadigol - Estyn

Defnyddio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i ymestyn medrau mathemategol a chreadigol

Arfer effeithiol

Llandrillo Yn Rhos Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llandrillo-yn-Rhos ar gyrion Bae Colwyn.  Ar hyn o bryd, mae tua 440 o ddisgyblion amser llawn a 30 o ddisgyblion rhan-amser rhwng tair ac un ar ddeg oed ar y gofrestr.  Mae tua 15% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae gan yr un gyfran anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn gysylltiedig â dysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol

Rhoddwyd blaenoriaeth yng nghynllun gwella’r ysgol i wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog am y ddwy flynedd ddiwethaf.  Mae gan yr ysgol athro celf arbenigol a hyfforddwyd yn y sector uwchradd, sy’n arwain cyfranogiad yr ysgol yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.  Yn 2016-2017, defnyddiodd yr ysgol gyllid o’r cynllun i wella medrau disgyblion mewn mathemateg weithdrefnol, gyda ffocws penodol ar herio disgyblion mwy abl a thalentog mewn cyd-destun dysgu creadigol.

Disgrifiad o’r gweithgarwch/strategaeth

Dros gyfnod o wyth wythnos, bu 60 o ddisgyblion Blwyddyn 5 yn cymryd rhan mewn prosiect creadigol am bum awr yr wythnos, dan arweiniad pedwar Ymarferwr Creadigol, athro celf yr ysgol ac athrawon dosbarth Blwyddyn 5.  Dyma oedd nodau’r prosiect:

  • datblygu medrau creadigol disgyblion trwy ddarparu cyfleoedd iddynt archwilio pum arfer greadigol y meddwl yn annibynnol, sef: dychymyg, chwilfrydedd, dyfalbarhad, cydweithrediad a disgyblaeth
  • datblygu medrau rhif, mesur a data disgyblion
  • cynorthwyo staff nad ydynt yn arbenigwyr i wella’u dealltwriaeth o addysgeg effeithiol mewn pynciau creadigol

Roedd arweinwyr hefyd yn awyddus i sicrhau bod y prosiect yn rhoi cyfle i ddisgyblion weithio’n annibynnol, hunangyfarwyddo’u dysgu a herio’r disgyblion mwy abl a thalentog hynny â medrau artistig a mathemategol mwy datblygedig. 

Ar ddechrau’r prosiect, bu grŵp o ddisgyblion mwy abl a thalentog yn ysgrifennu cwestiynau ac yn cyfweld â dau arlunydd gweledol a dau gerddor i sicrhau y byddent yn eu helpu i gyflawni nodau’r prosiect.  Gyda’i gilydd, bu’r Ymarferwyr Creadigol a’r athrawon yn cynllunio pedwar gweithdy rhagflas yn seiliedig ar arbenigedd yr ymarferwyr mewn celf a cherddoriaeth o amgylch thema ‘ditectifs patrwm’.  Yn y sesiynau, datblygodd disgyblion eu gwybodaeth am radiws, diamedr a chylchedd wrth iddynt ymchwilio i batrymau yn y byd naturiol, er enghraifft trwy ddŵr a sain.  Gwnaethant eu darluniau arsylwadol eu hunain o drawstoriad o fresychen, gan ddefnyddio siarcol a phastelau olew i archwilio llinell, patrwm a gwead.  Defnyddiodd yr Ymarferwyr Creadigol ddarluniau anatomegol Leonardo da Vinci o’r ‘Dyn Fitrwfaidd’ (1490) i gyflwyno disgyblion i’r cysyniad mathemategol o gymhareb a chyfran, y gwnaethant ymchwilio iddynt gan ddefnyddio eu cyrff i greu darluniau ar raddfa fawr.  Roedd hyn yn llwyddiannus iawn o ran ennyn diddordeb a herio disgyblion mwy abl, a aeth yn eu blaenau i archwilio cred da Vinci mai cydweddiadau ar gyfer gweithiau’r bydysawd yw cyfrannau’r corff dynol.  Fe wnaeth hyn sbarduno’u meddwl yn effeithiol iawn, gan eu hannog i ofyn cwestiynau lefel uchel a gwneud gwaith ymchwil annibynnol gartref.

Yn dilyn adolygiad o’r sesiynau rhagflas, cytunodd yr Ymarferwyr Creadigol a’r staff y dylid rhoi cyfle i ddisgyblion ddilyn eu diddordebau creadigol unigol a chael dewis rhydd ynglŷn â’r pwnc, y technegau a’r offer y byddent yn eu harchwilio o fewn y thema ‘ditectifs patrwm’ ar gyfer gweddill y prosiect.  Gyda’i gilydd, fe wnaethant gynllunio cydbwysedd gofalus o archwilio creadigol a datblygu medrau rhifedd, sydd wedi’u hanelu ar lefel briodol i fodloni anghenion disgyblion unigol, gan gynnwys y disgyblion mwy abl a thalentog.  Bu’r arbenigwyr yn gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion yn unigol ac mewn grwpiau bach i ddatblygu eu medrau, er enghraifft gan ddefnyddio cymwysiadau cyfrifiadur llechen i greu cyfansoddiadau cerddorol a deunyddiau diwydiannol fel pibau metel i greu cafn marmor yn dilyn eu hymchwiliadau o ‘lif’. 

Bob wythnos, bu athrawon a’r Ymarferwyr Creadigol yn myfyrio ar y prosiect gyda’i gilydd, yn rhoi adborth i’w gilydd ac yn adolygu cynnydd.  Dros yr wyth wythnos, sylwodd staff ar welliannau sylweddol yng ngallu disgyblion i weithio mewn timau amrywiol, trafod rolau a gwneud penderfyniadau fel sut i drefnu pob sesiwn, a gyda phwy i weithio.  Sylwodd athrawon fod disgyblion mwy abl a thalentog yn aml yn dewis gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan eu bod yn cydnabod bod ganddynt rinweddau, fel gwydnwch a dyfalbarhad, a oedd o fudd mawr wrth fentro a datrys problemau.  Yn yr un modd, roedd disgyblion llai abl yn croesawu’r cymorth gan eu cyfoedion, er enghraifft i ganfod yr onglau sydd eu hangen i greu cafn marmor effeithiol dros bellter hir ar y maes chwarae. 

Ar ddiwedd y prosiect, cynhaliodd yr ysgol ddigwyddiad rhannu ar gyfer yr holl ddosbarthiadau, rhieni a llywodraethwyr.  Dewisodd y disgyblion arddangos eu dysgu trwy stondin farchnad carwsél, lle roeddent yn rhannu eu gwaith ac yn darparu gweithgareddau creadigol byr ar gyfer pob grŵp o westeion.

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

Gofynnodd athrawon i bob disgybl gwblhau olwyn ‘arferion creadigol y meddwl’ ar ddechrau a diwedd y prosiect.  Gyda’i gilydd, roedd staff a disgyblion yn defnyddio’r graff pry cop i siarad am gynnydd disgyblion o ran datblygu dychymyg, dyfalbarhad, cydweithrediad, disgyblaeth a chwilfrydedd yn ystod y prosiect.  Er enghraifft, bu bechgyn mwy abl yn siarad yn fywiog am y modd y gwnaethant ymchwilio i’r berthynas rhwng cymarebau yn y corff dynol a’r rheiny yn y bydysawd, a oedd o ddiddordeb mawr iddynt, o ganlyniad i’r sesiwn ar gymhareb a chyfran.  Fe wnaeth disgyblion mwy abl a thalentog elwa’n fawr ar gymryd rhan mewn sgyrsiau dysgu gydag arbenigwyr a oedd yn herio’u meddwl creadigol a mathemategol.

Yn sgil y cyfle i gyflwyno ac esbonio eu gwaith i ddisgyblion eraill, er enghraifft yn y dosbarth meithrin, ac i rieni, datblygwyd gallu’r disgyblion Blwyddyn 5 i addasu’r ffordd y maent yn siarad ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd yn eithriadol o dda.  Er enghraifft, buon nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus i ddewis gwahanol enghreifftiau i ddangos eu hesboniadau a’u disgrifiadau o’u gwaith creadigol, yn dibynnu ar oedran y gwrandäwr.

Asesodd athrawon ddealltwriaeth disgyblion o gysyniadau mathemategol, y canolbwyntiwyd arnynt yn y prosiect, fel rhan o drefn arferol yr ysgol o gynnal asesiadau bob hanner tymor, cyn dechrau’r prosiect, ac ar ddiwedd yr wyth wythnos.  Nododd athrawon fod gwelliant cryf yng nghyrhaeddiad y rhan fwyaf o ddisgyblion Blwyddyn 5 mewn datrys problemau, mesur, cyfrifo arwynebedd a pherimedr, onglau a dehongli siartiau a graffiau bar.  Datblygodd disgyblion mwy abl eu dealltwriaeth o gymhareb a chyfran i lefel uchel.  At ei gilydd, cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar wella ymgysylltiad disgyblion mewn gwersi mathemateg, oherwydd gallent weld cysylltiad uniongyrchol â’u gwaith prosiect creadigol a pherthnasedd eu medrau rhifedd mewn cyd-destun ymarferol.

Roedd disgyblion mwy abl yn gwerthfawrogi’r ymreolaeth, y cyfle i fentro’n greadigol ac ehangder y profiadau ysgogol a ddarparwyd gan y prosiect.  Roedd staff nad oeddent yn arbenigwyr yn eu maes yn elwa ar weithio ochr yn ochr â’r Ymarferwyr Creadigol ac athro celf yr ysgol.  Er enghraifft, maent wedi mabwysiadu dulliau mwy creadigol yn eu haddysgu ac yn teimlo’n fwy hyderus yn caniatáu i ddisgyblion arwain eu dysgu eu hunain ar draws y cwricwlwm.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn