Defnyddio’r awyr agored i ddatblygu medrau disgyblion - Estyn

Defnyddio’r awyr agored i ddatblygu medrau disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Bryn Coch C.P.


 

Cefndir

Mae Ysgol Bryn Coch yn gwasanaethu tref Yr Wyddgrug a’r ardal gyfagos yn Sir y Fflint.  Mae 648 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 77 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin a 23 o ddisgyblion yn y dosbarthiadau adnoddau dysgu.

Cyd-destun

Nododd yr ysgol yr angen i sicrhau y caiff medrau disgyblion eu datblygu’n raddol yn y dosbarth awyr agored fel blaenoriaeth mewn Cynllun Gwella Ysgol blaenorol.  Neilltuodd arweinwyr amser yn ystod cyfarfodydd rheolaidd y cyfnod sylfaen i lunio cynllun gweithredu.  Cwblhaodd staff archwiliad o adnoddau awyr agored y cyfnod sylfaen, a chynllunio’n ofalus ar gyfer dilyniant ar draws y meysydd darpariaeth cyffredin.  Er mwyn sicrhau cysondeb a dilyniant, cymerodd yr ysgol y camau canlynol:

  • Lluniodd arweinwyr canol gynlluniau ar gyfer yr ardal darpariaeth barhaus ar gyfer holl grwpiau blwyddyn y cyfnod sylfaen, yn gysylltiedig â medrau ac adnoddau’r cyfnod sylfaen.
  • Er mwyn sicrhau cysondeb a safonau uchel, a chreu ymdeimlad o berchenogaeth ar y cyd, cydnabu arweinwyr ei bod yn hanfodol i’r holl staff gael hyfforddiant priodol.
  • Ceisiodd yr ysgol gyngor gan yr awdurdod lleol, a darparodd ymgynghorwyr hyfforddiant i’r holl staff.
  • Creodd staff adnoddau ar gyfer yr ardaloedd allanol a oedd yn raddedig ac yn caniatáu datblygu medrau disgyblion yn systematig.  Er enghraifft, yn y dosbarth meithrin, mae gan yr ardal chwarae dŵr gynhwysyddion o feintiau gwahanol ac, erbyn Blwyddyn 2, mae gan ddisgyblion silindrau mesur mwy ffurfiol gan ddefnyddio unedau safonol.
  • Mae arweinwyr yn blaenoriaethu gwariant ar adnoddau o ansawdd da sy’n cynnig cyfleoedd dysgu eang.  Er enghraifft, darparwyd blociau o ansawdd da ar gyfer pob grŵp blwyddyn.
  • Prynodd yr ysgol ddillad awyr agored ar gyfer holl staff y cyfnod sylfaen.

Mae darpariaeth estynedig o ansawdd da yn y dosbarth awyr agored yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn.  Mae’r ysgol wedi cyfoethogi ei hamgylcheddau dysgu yn llwyddiannus yn nosbarthiadau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 y cyfnod sylfaen, gan roi pwyslais cryf ar ddatblygu ardaloedd allweddol o ddarpariaeth estynedig a chynorthwyo staff i sgaffaldio chwarae yn yr ardaloedd hyn.

Y Blynyddoedd Cynnar

Mae plant yn archwilio’r ardal awyr agored yn rhydd.  Mae staff yn cyflwyno estyniadau bob wythnos, ar sail diddordebau disgyblion.

Meithrin

Nid oes unrhyw ‘amseroedd egwyl’ ffurfiol.  Mae un oedolyn yn gweithio yn yr awyr agored am wythnos gyfan ac yn cael dylanwad uniongyrchol ar gynllunio.  Mae hyn yn sicrhau cysondeb ac y caiff medrau ac estyniadau eu datblygu’n briodol.  Mae un oedolyn yn cefnogi mynediad rhwydd at bob ardal awyr agored.

Derbyn

Nid oes unrhyw ‘amseroedd egwyl’ ffurfiol yn ystod sesiwn y bore.  Mae dau oedolyn yn cynllunio, paratoi ac yn cynorthwyo’r plant yn y dosbarth awyr agored bob wythnos.  Mae un oedolyn yn gweithio mewn ardal benodol i ganolbwyntio’n benodol ar sgaffaldio dysgu’r plant wrth iddynt chwarae.  Mae un oedolyn yn cynorthwyo’r plant ar draws yr ardaloedd awyr agored eraill.

Blynyddoedd 1 a 2:

Mae system ‘rhyddlifo’ er mwyn i’r plant allu manteisio ar yr ardal awyr agored drwy’r dydd.  Mae’r ardaloedd darpariaeth barhaus wedi’u hen sefydlu ac maent yn parhau’n gyson am dymor ar y tro.  Mae staff yn cyfoethogi’r ddarpariaeth gan ddefnyddio gwybodaeth o arsylwadau ac awgrymiadau’r plant.  Mae oedolyn wedi’i (h)amserlenni ar gyfer pob sesiwn i gyfarwyddo, cynorthwyo a herio dysgwyr.  Mae naill ai her fathemateg neu iaith awyr agored y mae’n rhaid i bob disgybl ei chwblhau yn ystod yr wythnos.  Mae hyn yn sicrhau bod pob disgybl yn defnyddio’r dosbarth awyr agored ar ryw adeg.  Mae athrawon yn cynllunio’n ofalus er mwyn sicrhau bod disgyblion yn symud ymlaen yn eu dysgu wrth iddynt weithio yn y ddarpariaeth barhaus yn yr ardal awyr agored.  Er enghraifft, maent yn annog disgyblion yn y dosbarth meithrin i ddefnyddio iaith gymharol i fesur, fel ‘yn hirach na’ neu ‘yn fyrrach na’.  Mae disgyblion derbyn yn defnyddio mesuriadau ansafonol, er enghraifft olion traed.  Mae Blwyddyn 1 yn atgyfnerthu mesuriadau ansafonol ac yn dechrau cyflwyno mesuriadau safonol pan fydd y disgybl yn barod, ac mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar fesuriadau safonol ar gyfer y mwyafrif o ddisgyblion.

Effaith

Mae gallu manteisio’n barhaus ar ddosbarth awyr agored heriol, sydd wedi’i gynllunio’n dda, wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu disgyblion.  Mae disgyblion yn elwa ar ddysgu yn yr awyr agored trwy ddatblygu eu medrau mewn amgylchedd ysgogol sydd wedi’i gynllunio’n dda ac sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd am ddilyniant.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn