Defnyddio’r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored i gefnogi dysgu a lles disgyblion - Estyn

Defnyddio’r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored i gefnogi dysgu a lles disgyblion

Arfer effeithiol

Rhayader C.I.W. School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr yn ysgol gynradd ffrwd ddeuol yn Rhaeadr, Powys, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Cwm Elan. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal nad yw’n ddifreintiedig nac yn freintiedig. Mae niferoedd y disgyblion yn yr ysgol wedi tyfu’n sylweddol yn y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar dir helaeth gyda gofodau gwyrdd a choetir.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod y staff yw sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pob un o’u disgyblion i’w galluogi i lwyddo a sicrhau lles gwell. Mae’r ysgol yn ysgol gynhwysol sy’n darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Bum mlynedd yn ôl, roedd yr ysgol yn pryderu am ymgysylltiad a phresenoldeb disgyblion, a dechreuodd gymryd rhan mewn prosiect Celfyddydau Creadigol i ymchwilio a allai cwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion wella deilliannau dysgwyr. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar dir helaeth nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n llawn oherwydd cyfyngiadau iechyd a diogelwch. Trwy waith gydag ymarferwr creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, gofynnodd y staff i ddisgyblion nodi sut oedd yn well ganddynt ddysgu. Arweiniodd hyn at gwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion a defnydd llawn o’r ardaloedd yn yr awyr agored. Ffurfiodd astudiaeth am y defnydd o’r amgylchedd awyr agored ran o’r prosiect, ac fe gafodd gofodau ar gyfer addysgu a dysgu eu cynllunio a’u creu gan staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ysgol wedi sefydlu ardaloedd dynodedig ysgol goedwig ac ardaloedd dosbarth awyr agored. Roedd ffocws ysgol gyfan ar hyfforddi staff i gynllunio a chyflwyno dysgu yn yr awyr agored bron ym mhob gwers. Ymgorfforwyd hyn trwy’r ysgol gyfan, ac mae pob dosbarth yn cael sesiynau ysgol goedwig rheolaidd. Mae defnyddio’r awyr agored yn rhan annatod o’r diwrnod ysgol ac ym mhob tywydd. Mae’r gweithgareddau awyr agored hyn yn annog y disgyblion i ddefnyddio offer, cynnau tân, dringo coed ac adeiladu llochesau yn rheolaidd, yn ogystal â defnyddio’r awyr agored ar gyfer mwy o sesiynau rhifedd a llythrennedd wedi’u seilio ar y cwricwlwm. Defnyddir yr ardaloedd hefyd ar gyfer amseroedd ffocws ar les i ddisgyblion gael amser tawel, a defnyddir technegau pwyllo ar gyfer unrhyw ddisgyblion sydd eu hangen. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd yn galluogi’r disgyblion i fentro, meithrin gwydnwch, ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles ar ôl pandemig COVID-19. Trwy ddefnyddio’r awyr agored bob dydd mewn gwersi rheolaidd, mae’r disgyblion yn dod yn fwy hyderus a hunanymwybodol. Mae bod mewn byd natur wedi dangos ei fod yn helpu rheoli emosiynau a chydweithredu ag eraill yn fwy effeithiol. Mae’r amgylchedd awyr agored distrwythur yn hyrwyddo addasrwydd yn y plant ac yn hybu eu cymhelliant i lwyddo. Cyn pandemig COVID, mae defnyddio’r awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn yr ysgol. Mae athrawon yn gweld bod canolbwyntio a ffocws yn yr ystafell ddosbarth yn well ar ôl sesiynau dysgu yn yr awyr agored.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn hyrwyddo’r defnydd o’r awyr agored gyda’r lleoliadau cyn-ysgol ar safle’r ysgol. Mae gweithio gyda sefydliadau lleol, fel Cambium Sustainable, wedi ymestyn defnydd o’r ysgol goedwig mewn ysgolion lleol eraill. Cyn COVID-19, roedd yr ysgol yn rhannu arfer orau a hyfforddiant gydag ysgolion eraill y clwstwr. Cynhalion nhw ddiwrnod dysgu yn yr awyr agored ar gyfer y gymuned, a gwahoddwyd ysgolion yr esgobaeth. Mae swyddog addysg yr esgobaeth wedi creu fideo yn arddangos dysgu yn yr awyr agored i’w rannu ag ysgolion eraill yr esgobaeth.