Defnyddio ymagwedd anogol at reoli gwrthdaro - Estyn

Defnyddio ymagwedd anogol at reoli gwrthdaro

Arfer effeithiol

Somerton Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Somerton wedi’i lleoli yng nghanol dinas Casnewydd.  Mae 185 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 20 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Cânt eu haddysgu mewn chwe dosbarth oedran cymysg ac mae ychydig o ddisgyblion yn treulio rhan o’u diwrnod mewn darpariaeth anogaeth.

Dros y tair blynedd diwethaf, y cyfartaledd treigl ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 45%, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan tua 30% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw ychydig dros chwarter y disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac mae tua 24% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Dechreuodd y pennaeth gweithredol dros dro yn ei swydd ym mis Medi 2016 ac mae hefyd yn bennaeth parhaol ar Ysgol Gynradd Eveswell.  Mae’r awdurdod lleol wedi agor ymgynghoriad i ystyried y posibilrwydd o greu ffederasiwn parhaol rhwng y ddwy ysgol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Somerton yn gwasanaethu ardal yng Nghasnewydd lle mae llawer o deuluoedd yn wynebu amgylchiadau heriol.  Nod yr ysgol yw sicrhau bod darpariaeth yn bodloni anghenion ei disgyblion sy’n fwyaf agored i niwed i’w galluogi i gyflawni llwyddiant a lles gwell.  Dair blynedd yr ôl, roedd disgyblion yn cael eu gwahardd o’r ysgol yn gyson ac roedd ychydig iawn o ddisgyblion wedi ymddieithrio rhag eu dysgu.  At ei gilydd, roedd yr ysgol yn credu bod ymddygiad disgyblion yn dirywio a bod morâl staff yn isel.  Roedd arweinwyr o’r farn bod angen iddynt newid y diwylliant ar frys.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ymgysylltodd arweinwyr â’r staff, aelodau o’r ganolfan gymunedol leol, seicolegwyr addysg yr awdurdod lleol a llywodraethwyr.  Nod hyn oedd gwerthuso sefyllfa bresennol yr ysgol o ran ei chryfderau a’i meysydd i’w datblygu, a chyfleoedd i wella trwy ymgysylltu â’r gymuned gyfan wrth gynllunio ar gyfer newid.  Arweiniodd dwy sesiwn onest iawn at syniadau ar gyfer gweithredu a’r angen am weledigaeth newydd ac ymdeimlad o ddiben.  Mewn cyfarfod dilynol, datblygwyd syniadau ar gyfer datganiad o genhadaeth a chyfres o amcanion newydd ysgol gyfan a’r nod cyffredinol, sef ‘Respectful, Safe, Successful’.  

Defnyddiodd yr ysgol theori ac arfer orau gyfredol i ddatblygu sgyrsiau a strategaethau i gynorthwyo disgyblion ag ymddygiad heriol.  Datblygodd yr ysgol bedair rheol syml ac iaith gyffredin i helpu disgyblion i’w cofio.  Roedd yn defnyddio technegau adferol i annog disgyblion i unioni niwed a chadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel.  Helpodd y sgriptiau hyn i staff a disgyblion reoli gwrthdaro heb ddwysáu’r emosiwn yn y sefyllfa.  

Ystyriodd yr ysgol y ffordd orau i fodloni anghenion unigol pob disgybl.  Arweiniodd hyn at ddatblygu darpariaeth ‘anogaeth’ ddynodedig, sydd ar gael i bob disgybl sydd ei hangen.  Mae darpariaeth yn galluogi disgyblion i gael profiad o lwyddo mewn grŵp bychan.  Mae cyfleoedd i ddisgyblion goginio, gweithio yn yr ardd ac ymgymryd â gweithgareddau i’w helpu i ddysgu sut i reoli gwrthdaro a’u hemosiynau eu hunain.  Yn bwysig, maent hefyd yn cwblhau’r gwaith y byddant yn ei wneud yn eu dosbarthiadau.  Gall hyd at 12 o ddisgyblion fanteisio ar y ddarpariaeth anogaeth ar unrhyw adeg.  Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn manteisio ar ddarpariaeth am gyfnod penodedig, sy’n cael ei leihau nes bod angen ychydig iawn o gymorth arnynt.  Mae disgyblion eraill yn manteisio arni gan eu bod yn mynd trwy gyfnod anodd, fel profedigaeth neu newid yn eu bywydau.  Efallai y bydd y disgyblion hyn yn treulio tuag awr yn y ddarpariaeth o bryd i’w gilydd, yn ôl yr angen.

Mae staff yn cysylltu â rhieni’n rheolaidd, ac mae pob disgybl yn cael galwad ffôn neu nodyn i fynd adref ar gyfer ymddygiad cadarnhaol.  Mae rhieni’n gwybod am bolisi parch yr ysgol, ei harfer adferol a’r disgwyliadau o ran ymddygiad disgyblion.  Mae cyfathrebu â rhieni ac asiantaethau allanol wedi gwella’n sylweddol.  Caiff hyn ei gyfoethogi gan waith y swyddog ymgysylltu â theuluoedd, sydd wedi’i hyfforddi’n ddiweddar mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl i oedolion.  Mae’n cydweithio’n llwyddiannus ag asiantaethau amrywiol i sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth, yn ôl yr angen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol wedi mabwysiadu dull cyson, pwyllog ac anogol ar gyfer disgyblion a’u hanghenion.  Erbyn hyn, mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da neu well yn academaidd.  Mae gwaharddiadau’n brin iawn ac mae disgyblion sy’n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cyflawni’n dda mewn perthynas â’u hoed a’u gallu.  Mae disgyblion yn wydn, gan mwyaf, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymdopi’n dda â siomedigaeth, os bydd yn codi.  Mae ganddynt agweddau cadarnhaol iawn tuag at ddysgu ac mae bron pob un ohonynt yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol.  Mae gan rieni berthynas dda â’r staff a, gyda’i gilydd, gallant gynorthwyo disgyblion yn dda mewn cyfnodau o angen.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi croesawu llawer o staff o ysgolion eraill i rannu ei dulliau anogol.  Mae’r ysgol yn trafod cynnydd yng nghyfarfodydd y clwstwr ysgolion ac â’r awdurdod lleol.  Mae wedi rhannu’r arfer yn fanwl ag ysgol gyfagos.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn