Defnyddio technoleg fideo ar gyfer datblygiad proffesiynol - Estyn

Defnyddio technoleg fideo ar gyfer datblygiad proffesiynol

Arfer effeithiol

St David’s Catholic College


 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Sefydlwyd Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant ym 1987 gan Archesgobaeth Caerdydd.  Mae’n cynnig darpariaeth chweched dosbarth ar ei gampws yn ardal Penylan y ddinas.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 130 o aelodau staff ac yn darparu ar gyfer tua 1,400 o ddysgwyr, y mae bron bob un ohonynt yn astudio ar sail amser llawn a rhwng 16 a 19 oed.

Mae’r coleg yn cynnig dewis o 30 cwrs Safon Uwch, ynghyd â chyrsiau galwedigaethol lefel 3 ar draws wyth pwnc.  Mae cyrsiau UG a Safon Uwch yn cyfrif am 64% o’r cofrestriadau yn y coleg, gyda chyrsiau galwedigaethol lefel 3 yn cyfrif am 23% o gofrestriadau.  Mae cyrsiau lefel 2 yn cyfrif am 10% o gofrestriadau ac mae cyrsiau lefel 1 yn cyfrif am 2% o gofrestriadau.  Y meysydd pwnc sydd â chyfran fwyaf y ddarpariaeth yw gwyddoniaeth a mathemateg; busnes, gweinyddu a’r gyfraith; y celfyddydau, y cyfryngau a chyhoeddi; a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r coleg yn recriwtio dysgwyr o amrywiaeth eang o ysgolion, gan gynnwys pedair ysgol uwchradd Gatholig bartner.  Mae dysgwyr o amrywiaeth fawr o gefndiroedd economaidd gymdeithasol, ethnig a chrefyddol yn mynychu’r coleg.  Mae 34 y cant o ddysgwyr yn byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru fel y’u diffinnir gan gwintel cyntaf mynegai amddifadedd lluosog Cymru.  Mae 26 y cant o’r dysgwyr yn byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru.  Mae 36 y cant o boblogaeth y coleg o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.  Mae 39 y cant o ddysgwyr y coleg yn dilyn y ffydd Gatholig.

Mae’r corff llywodraethol yn gweithio ar gynnig i ddiddymu’r coleg fel sefydliad addysg bellach dynodedig a’i ailgyfansoddi ar ffurf ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yn ôl rheoliadau ysgolion, o dan reolaeth Cyngor Dinas Caerdydd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r astudiaeth achos hon yn gysylltiedig â maes arolygu 5 y fframwaith arolygu cyffredin ac mae’n disgrifio gwaith dysgu proffesiynol y coleg i wella addysgu trwy bwyslais ar arsylwi, hunanfyfyrdod dwys, anogaeth a chydweithredu.  Mae’r ymagwedd hon wedi meithrin diwylliant lle mae’r staff yn anelu at ragoriaeth ac yn ymhél yn gadarnhaol â gweithgareddau i wella ansawdd eu haddysgu er mwyn helpu dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Yn 2017, cyflwynodd Coleg Dewi Sant strategaeth bedair blynedd i wella ansawdd dysgu ac addysgu, yn rhan o fynd ar drywydd rhagoriaeth.  Yn rhan o’r strategaeth hon, mae ymagwedd estynedig at werthuso dysgu ac addysgu.  Cyn y cyfnod hwn, roedd trefniadau arsylwi gwersi’r coleg yn cynnwys arsylwadau gwersi traddodiadol.  Fe’u cyflawnwyd gan uwch-arweinwyr ac arweinwyr canol a roddodd adborth ac arweiniad i staff addysgu er mwyn datblygu cynlluniau gweithredu personol i fynd i’r afael â meysydd i’w datblygu a rhannu arfer dda.  Er bod yr ymagwedd hon yn cydnabod cryfderau athrawon a’u meysydd i’w datblygu yn effeithiol, nododd y coleg fod angen i athrawon fod yn fwy myfyriol yn eu hymarfer, er mwyn ysgogi gwelliannau parhaus.  Arweiniodd hyn at ddefnyddio technoleg fideo i ffilmio gwersi.  Mae aelodau staff yn defnyddio’r dechnoleg hon i hwyluso ymagwedd anogol at ddatblygiad proffesiynol.  Mae arweinwyr ac athrawon yn defnyddio recordiadau i ysgogi deialog broffesiynol am ddysgu ac addysgu.  Yn ogystal â dal y recordiadau hyn, mae arsyllfa dysgu’r coleg ar lwyfan digidol yn cynnig mynediad at adnoddau datblygu dysgu ac addysgu perthnasol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Mae strategaeth dysgu proffesiynol Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yn cynnwys amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau i wella ansawdd dysgu ac addysgu ar draws ei ddarpariaeth:

  • Ffocws ar chwe egwyddor allweddol dysgu ac addysgu hynod effeithiol.  Mae’r chwe egwyddor hyn, sef herio, esbonio, modelu, ymarfer, adborth a holi yn rhoi’r sylfeini ar gyfer gwaith datblygu proffesiynol yn ystod y flwyddyn.  Caiff athrawon eu hannog i fabwysiadu ac archwilio’r egwyddorion hyn o fewn eu gwersi.  Mae staff yn defnyddio sesiynau datblygiad proffesiynol ac amser mewn cyfarfodydd meysydd dysgu i ledaenu a rhannu arfer orau. Mae arweinwyr wedi cysoni trefniadau arsylwi dysgu ac addysgu’r coleg â’r chwe egwyddor ac wedi sicrhau bod ffocws cryf ar y cynnydd a wna dysgwyr.  Gall athrawon ddewis p’un a yw arsylwadau yn rhai traddodiadol neu’n cael eu ffilmio.
  • Mae defnyddio technoleg fideo i recordio gwersi yn galluogi athrawon i adolygu a myfyrio ar ansawdd y dysgu ac addysgu yn eu gwersi.  Mae’n hwyluso dadansoddi a deialog proffesiynol gwerthfawr rhwng athrawon ac yn eu galluogi i ddadansoddi agweddau penodol ar weithgarwch dysgwyr ac addysgu yn ofalus.  Mae hyn yn galluogi athrawon i wneud addasiadau buddiol i’w hymarfer, gan roi hyder iddynt yn eu cynllunio a’u cyflwyno.  Gyda chytundeb athrawon, mae arweinwyr yn defnyddio recordiadau i safoni’r broses arsylwi gwersi.
  • Gall athrawon arsylwi gwersi’u cymheiriaid gan ddefnyddio ystafell bwrpasol â drych rhannol dryloyw i arsylwi addysgu.  Gyda chaniatâd pawb sy’n gysylltiedig, gan gynnwys y dysgwyr, mae hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr i athrawon ac arweinwyr arsylwi a thrafod y dysgu a’r addysgu, gan sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar wersi.  Mae dyfais gyfathrebu sain hefyd yn galluogi’r athro i gael hyfforddiant amser real.  Mae’r adborth hwn yn y fan a’r lle yn galluogi athrawon i archwilio effeithiolrwydd strategaethau gwahanol wrth i’r wers fynd yn ei blaen.
  • Mae Arsyllfa Dysgu’r coleg yn darparu adnoddau datblygu ac arweiniad ar y chwe egwyddor.  Llwyfan ar-lein pwrpasol yw hwn ar gyfer cefnogi athrawon y coleg.  Mae darnau fideo a deunyddiau ymchwil perthnasol, parhaus, ar gael drwy’r llwyfan hwn, y mae uwch arweinwyr yn sicrhau ei ansawdd.  Daw darnau fideo o strategaethau dysgu ac addysgu effeithiol, yn cwmpasu’r chwe egwyddor, o sefydliadau eraill ac o’r coleg ei hun.  Mae’r arsyllfa dysgu yn adnodd cydweithredol ac yn ffordd effeithiol o rannu a dathlu arfer dda.
  • Mae cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol i fyfyrwyr yn helpu arweinwyr i fesur effaith strategaeth dysgu ac addysgu’r coleg yn erbyn targedau datganedig, yn ogystal â darparu gwybodaeth feincnodi ar draws y coleg cyfan ar gyfer strategaethau dysgu ac addysgu penodol.  Caiff y gynhadledd ei harwain gan gyfarwyddwyr addysgu, dysgu ac asesu’r coleg, ac mae’n cynnwys dysgwyr sy’n cynrychioli pob cwrs yn y coleg.  Fel rhan o’r gynhadledd, mae dysgwyr yn ymateb i gwestiynau caeedig am eu profiadau dysgu ac addysgu.  Caiff y canlyniadau eu casglu a’u cyflwyno i ddysgwyr ar unwaith.  Mae arweinwyr yn defnyddio’r drafodaeth ddilynol werthfawr i archwilio unrhyw faterion sy’n codi.  Mae arweinwyr yn defnyddio deilliannau’r gynhadledd flynyddol i ddylanwadu ar flaenoriaethau datblygiad proffesiynol y coleg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymagwedd arloesol y coleg at wella dysgu ac addysgu wedi sicrhau gwelliannau cadarnhaol i athrawon a dysgwyr.  Mae’r strategaeth wedi ennyn sylw athrawon yn llwyddiannus, gan gynyddu brwdfrydedd a deialog broffesiynol ddyfnach am ddysgu ac addysgu o fewn timau cyrsiau ac ar draws disgyblaethau pwnc.  Mae athrawon wedi dod yn fwy myfyriol a hunanwerthusol.

Mae adborth o arsylwadau dysgu ac addysgu’n dangos tystiolaeth o welliant yn ansawdd y dysgu ac addysgu yn y coleg, ynghyd â gwelliant yn y cynnydd a wna dysgwyr mewn gwersi.  Mae deilliannau dysgwyr wedi gwella ers cyflwyno’r strategaeth.  Yn benodol, mae dysgwyr yn cyflawni graddau cadarn iawn ar gyfer cyrsiau safon uwch a galwedigaethol lefel 3.

Mae boddhad dysgwyr â dysgu ac addysgu wedi gwella’n gyson ers cyflwyno’r strategaeth.  Er enghraifft, yn 2018-2019, dywedodd 93% o ddysgwyr eu bod wedi cael adborth defnyddiol gan athrawon ar sut i wella’u gwaith.

Mae gwariant ar brynu datblygiad proffesiynol ynghylch dysgu ac addysgu o’r tu allan wedi gostwng.  Mae arsyllfa dysgu’r coleg wedi hwyluso ymagwedd gydweithredol ymhlith athrawon a, thrwyddi, gellir rhannu arfer dda.  Mae wedi darparu adnodd pwrpasol, hynod briodol ac effeithiol ar gyfer datblygiad proffesiynol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn