Defnyddio technoleg a datblygu medrau TGCh disgyblion - Estyn

Defnyddio technoleg a datblygu medrau TGCh disgyblion

Arfer effeithiol

Johnstown School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2012, enwyd Ysgol Gynradd Tre Ioan yn ysgol gynradd beilot ar gyfer awdurdod lleol Sir Gâr, er mwyn treialu llwyfan dysgu ar-lein newydd i Gymru.  Yn dilyn hynny, gyda chytundeb y corff llywodraethol, sefydlodd yr ysgol ddwy ystafell ddosbarth TGCh enghreifftiol ar gyfer archwilio’r effaith y byddai mwy o weithredu digidol yn ei chael ar alluogi disgyblion i ennill mwy o fedrau a hwyluso dysgu ar draws y cwricwlwm.  Pe byddent yn llwyddiannus, gallai’r ystafelloedd dosbarth enghreifftiol hyn gael eu defnyddio wedyn yn ganolfannau i gydweithwyr rannu syniadau ac archwilio llifoedd gwaith digidol arloesol trwy fodelau tiwtora cymheiriaid.

O’r craffu cychwynnol ar y prosiect peilot, daeth i’r amlwg bod y cyfle i ddarparu profiadau cyfoethog a chreadigol i ddisgyblion wedi gwella ymgysylltiad a meithrin hyder i archwilio syniadau a themâu mewn ffyrdd mwy creadigol.  Fe wnaeth y potensial am gydweithredu, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau mewn amgylchedd ar-lein, helpu i feithrin hyder disgyblion, a helpu hefyd i leihau’r gwahaniaeth rhwng cyflawniad bechgyn a merched.  Er mwyn harneisio manteision posibl y llwyfan dysgu ar-lein a oedd ar gael, datblygodd arweinwyr yr ysgol gynllun gweithredu strategol 5 mlynedd i wella’r ddarpariaeth a’r gallu i ddefnyddio adnoddau digidol ar draws yr ysgol yn raddol.

Yn sgil cyhoeddi adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ar y cwricwlwm newydd i Gymru yn ddiweddarach, rhoddwyd yr ysgol mewn sefyllfa fuddiol i barhau i ddatblygu rhaglen astudio greadigol ac arloesol a fyddai’n llwyddo i ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion a, hefyd, fynd i’r afael â phedwar diben y cwricwlwm newydd.  Cynigiodd arweinwyr yr ysgol raglenni hyfforddiant a chymorth i staff, a oedd yn eu symbylu i dreialu syniadau newydd er mwyn meithrin cymwyseddau digidol yn eu dosbarthiadau eu hunain.  O ganlyniad, mae staff yr ysgol bellach yn cynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd pwrpasol sy’n ategu medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a digidol disgyblion o fewn cwricwlwm eang a chytbwys.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae Ysgol Gynradd Tre Ioan wedi parhau i ddefnyddio’i mecanweithiau digidol helaeth i ymgorffori medrau digidol yn llwyddiannus ar draws cwricwlwm eang, sy’n cydbwyso gwaith digidol ac ysgrifenedig yn briodol.  O ganlyniad, gall disgyblion ymgymryd yn gynyddol â thasgau digidol pwrpasol sy’n ategu ac yn gwella’u dysgu, gan gydnabod y manteision sy’n rhan o gwblhau gwaith yn ddigidol.  Yn ei hanfod, nod y cwricwlwm a ddatblygwyd dros nifer o flynyddoedd yw mabwysiadu mecanweithiau digidol fel cyfrwng i annog amrywiaeth o fedrau trawsgwricwlaidd. 

Caiff disgyblion gyfleoedd buddiol i drosglwyddo cymwyseddau digidol ar draws amrywiaeth o galedwedd, fel cyfrifiaduron pen desg, llechi a dyfeisiau eraill, er mwyn cael at amrywiaeth ehangach o adnoddau dysgu ar-lein trwy lwyfan dysgu Hwb.  Trwy ddefnyddio Llwyfan Dysgu Cymru Gyfan, caiff y disgyblion eu hannog i ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau i gyfuno amrywiaeth o elfennau digidol a gwella’u hyfedredd ym maes cyfrifiadura cwmwl.  Mae defnyddio dyfeisiau symudol yn caniatáu i ddisgyblion gipio delweddau, sain a fideo heb gymorth, gyda’r cyfryngau sydd wedi’u cipio yn cael eu cadw’n awtomatig yn storfa ffeiliau ar-lein y disgyblion.  O ganlyniad, mae disgyblion wedi gallu rhannu, cydweithredu a storio’u gwaith digidol mewn lleoliad ar-lein canolog, o unrhyw ddyfais a all gysylltu.  Mae hyn wedi cyflymu llifoedd gwaith, gyda’r dechnoleg yn cael ei defnyddio’n bwrpasol i ategu caffael medrau ar draws y cwricwlwm a darparu tystiolaeth o hynny.  Mae’r broses o gipio cyfryngau digidol fel hyn wedi hwyluso datblygiad medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion.  Mae disgyblion wedi cael eu grymuso i gasglu elfennau amlgyfrwng yn annibynnol, sy’n cyfoethogi’u gwaith ac yn ei wneud yn fwyfwy rhyngweithiol a chreadigol.  Mae’r gwaith hwn yn ymddangos ochr yn ochr â gwaith ysgrifenedig mewn llyfrau disgyblion a gellir cael ato drwy godau ‘QR’. 

Mae blog dysgu ar-lein yr ysgol, ‘The Johnstown Journal’, yn un enghraifft o’r dull digidol aml-fedr hwn.  Mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r disgyblion mae’r ysgol yn eu henwi’n fwy abl a thalentog yn cydweithio â’i gilydd.  Maent yn mabwysiadu rôl ‘Johnstown Journalists’, ac yn cymryd cyfrifoldeb am olygu a dilysu eu blogiau sydd mewn arddull papur newydd, cyn eu cyhoeddi i gymuned ehangach yr ysgol drwy wefan yr ysgol.  O ganlyniad, mae hyn wedi galluogi’r ysgol i gyfleu cyfoeth o brofiadau dysgu i’w chynulleidfa o ddisgyblion, rhieni a llywodraethwyr, sy’n gallu gweld ac ychwanegu sylwadau sy’n cael eu cymedroli.  Mae pob rhifyn newydd o’r blog yn adlewyrchu newyddion a digwyddiadau diweddar yr ysgol.  Ym mhob grŵp blwyddyn, mae disgyblion yn creu’r holl elfennau digidol ac yn casglu’r erthyglau ysgrifenedig yn ynghyd.  O dan stiwardiaeth eu hathrawon ac arweiniad medrus ‘newyddiadurwyr’ Blwyddyn 6, mae disgyblion yn cydweithio i greu’r erthyglau a chipio’r elfennau amlgyfrwng y mae eu hangen i hoelio sylw’r gynulleidfa fwriadedig a bodloni anghenion pob blog unigol.  Derbyniodd y prosiect llwyddiannus hwn wobr genedlaethol am y ‘Prosiect Digidol Gorau’ yn nigwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016 yn Llandudno.

At hynny, dyfarnwyd gwobr ddigidol genedlaethol ychwanegol i grŵp o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 yn 2017.  Fe wnaeth y disgyblion mwy abl a thalentog hyn gydweithio â’i gilydd, gan ddefnyddio medrau meddwl a rhifedd uwch i gynhyrchu algorithmau codio blog i animeiddio cerdd, fel rhan o gystadleuaeth genedlaethol a sefydlwyd gan Brifysgol Aberystwyth. 

Yn y pen draw, mae cymwyseddau digidol wedi dod yn rhan annatod o lifoedd gwaith dysgu yn yr ysgol.  Mae cyfleoedd i harneisio medrau disgyblion trwy sefydlu cysylltiadau pellach â’r gymuned wedi bod yn fuddiol i holl randdeiliaid yr ysgol hefyd.  Er enghraifft, mae disgyblion cyfnod allweddol 2 wedi cael cryn fwynhad o’r profiad o wneud prosiect rhwng y cenhedloedd i sefydlu llyfr rhyngweithiol, yn darlunio bywyd ysgol yn ystod y 1950au, dan ddefnyddio technegau ‘sgrin werdd’ i gyfweld â chyn-ddisgyblion.  Trwy wneud hyn, mae’r disgyblion wedi profi a rhannu medrau newydd gyda’r henoed ac wedi llunio partneriaethau cryf ag aelodau o’r gymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn ystod cyfnod rhoi cynllun gweithredu strategol yr ysgol ar waith, mae bron pob un o’r disgyblion wedi gwneud cynnydd da o leiaf wrth gaffael medrau digidol ar draws y cwricwlwm.  Mae hyn hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar wella’u medrau llythrennedd a rhifedd a gwella’u hyder.  Erbyn hyn, mae disgyblion yn yr ysgol yn wybodus ac yn ymddiddori yn eu profiadau dysgu, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gallu llunio barnau priodol ac annibynnol ynghylch pryd i fabwysiadu prosesau digidol ar gyfer tasgau er mwyn ymestyn eu dysgu.  Mae’n amlwg bod prosiectau sydd wedi targedu grwpiau o ddisgyblion wedi lleihau’r gwahaniaeth rhwng perfformiad bechgyn a merched a disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.  Hefyd, mae’r prosiectau hyn wedi meithrin ethos o ddysgu cydweithredol, gan wella cynhwysiant a medrau allweddol disgyblion ym meysydd TGCh, rhifedd, llythrennedd a medrau meddwl.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r cryfderau ym maes dysgu digidol yn parhau i gael eu cydnabod yn genedlaethol ac ar draws consortiwm rhanbarthol ERW.  O ganlyniad, dyfarnwyd statws ‘ysgol arweiniol ddigidol’ i’r ysgol ar gyfer y rhanbarth.  Mae hyn yn golygu y gall disgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd Tre Ioan gynnig cymorth rhwng ysgolion, trwy agor ei drysau i ysgolion eraill sydd wedi bod yn awyddus i ddysgu o’r model dysgu digidol.  Mae’r ysgol yn cydnabod cymorth a chefnogaeth ei chorff llywodraethol, sydd wedi mynd ati i gymeradwyo systemau dysgu digidol ac sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i feithrin ethos o fedrau gydol oes sy’n berthnasol i ddysgwyr yr 21ain ganrif.