Defnyddio system hyfforddi a mentora bwrpasol i wella addysgu - Estyn

Defnyddio system hyfforddi a mentora bwrpasol i wella addysgu

Arfer effeithiol

Oldcastle Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae 421 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 57 o ddisgyblion yn nosbarth meithrin yr ysgol.  Mae disgyblion wedi eu trefnu’n 15 dosbarth. 

Mae tua 8% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref, ac mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, er mai dim ond yn ddiweddar yr ymunodd llawer o’r disgyblion hyn â’r ysgol.  Nododd yr ysgol fod gan ryw 14% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. 

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Strategaeth a chamau gweithredu

Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Mawrth 2013.  Un o’i gamau gweithredu cyntaf oedd cynnal cyfres o arsylwadau gwersi i lunio barn wybodus am ansawdd yr addysgu yn yr ysgol.  Canfu ei arsylwadau, er bod pob un o’r staff yn gweithio’n galed, nad oeddent o reidrwydd yn canolbwyntio ar y pethau cywir i’w helpu i wella eu haddysgu, a dysgu disgyblion yn ei dro.  Cyn penodi’r pennaeth, roedd athrawon wedi mynychu nifer o gyrsiau a chyfnodau sabothol datblygiad proffesiynol unigol.  Nododd y pennaeth fod gan athrawon ystod o wahanol gryfderau a meysydd i’w datblygu.  Nid oedd yn credu y byddai mynychu rhagor o ddigwyddiadau allanol yn ysgogi’r gwelliannau oedd eu hangen.  Roedd eisiau gwella addysgu trwy ddefnyddio mecanweithiau cymorth mewnol.  Cyflwynodd y pennaeth system hyfforddi a mentora ddwys am ddeuddeg wythnos i gynorthwyo datblygiad pellach athrawon.  Rhyddhaodd yr ysgol uwch athrawes o’i dyletswyddau ystafell ddosbarth i gynnal y rhaglen a sefydlu partneriaethau gydag ysgolion a sefydliadau eraill i ddatblygu rhaglenni datblygu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso a myfyrwyr.

Roedd y rhaglen hyfforddi a mentora yn bersonol a theilwredig i’r athrawon dan sylw.  Roedd rhaglenni unigol yn canolbwyntio ar feysydd y nodwyd bod angen eu gwella trwy arsylwadau gwersi a chraffu ar lyfrau, yn ogystal ag ar feysydd y nododd yr athro ei fod eisiau eu caboli.  Roedd yr hyfforddwr athrawon yn cyfarfod â phob athro o leiaf unwaith yr wythnos.  Darparodd gymorth yn y dosbarth trwy fodelu gwersi a chyd-addysgu.  Gweithiodd gydag athrawon ar gynllunio gwersi a strategaethau rheoli ystafell ddosbarth hefyd.  Ar ôl pob sesiwn hyfforddi, nododd athrawon ar beth roeddent am weithio cyn y cyfarfod nesaf.  Roedd y perthnasoedd gweithio gonest ac agored a sefydlodd uwch arweinwyr gyda’r staff hynny a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen yn allweddol i’w llwyddiant.  Arweiniodd hyn at lefelau uchel o ymddiriedaeth i’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen ac fe wnaeth fagu hyder a meithrin hunan-barch ymhlith athrawon. 

Mae rhaglen hyfforddi a mentora debyg ar waith ar gyfer athrawon newydd gymhwyso ac athrawon graddedig sy’n ymuno â’r ysgol.  Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn cyflogi dau o athrawon ar y rhaglen athrawon graddedig ac athro sydd ar ei ail flwyddyn yn addysgu.  Mae’r dirprwy bennaeth yn cyfarfod â’r athrawon hyn bob wythnos i gynllunio eu profiadau dysgu proffesiynol, fel trefnu ar gyfer modelu gwersi, cyd-addysgu ac arsylwadau cymheiriaid ac i osod targedau addysgegol ar gyfer y dyfodol.  Mae’r ysgol yn teilwra’r profiadau yn effeithiol i fodloni anghenion a chyfnod datblygu’r athro unigol.

Mae’r pennaeth yn ymwybodol iawn o ofynion y proffesiwn addysgu a’r pwysau ychwanegol y mae rhai o’r staff yn eu rhoi arnyn nhw eu hunain.  Er mwyn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a staff yn gofalu am eu hiechyd meddwl, gwahoddodd bob athro i fynychu cwrs ymwybyddiaeth ofalgar.  Ariannwyd y cwrs gan undeb athrawon cenedlaethol a mynychodd athrawon y cwrs o’u gwirfodd am ddwy awr ar ôl yr ysgol am wyth wythnos.  Mynychodd bron pob un o’r athrawon.  Mae athrawon yn cytuno bod mynychu’r cwrs wedi helpu codi eu hymwybyddiaeth o’i gilydd a phwysigrwydd cyfathrebu’n onest ac agored fel bod problemau’n cael eu rhannu yn hytrach na’u cuddio.  Mae hyn wedi helpu gwella llinellau cyfathrebu ymhellach yn yr ysgol ac wedi annog mwy o ddidwylledd fel bod athrawon bellach yn gyfforddus gyda chydweithwyr yn galw i mewn i’w hystafelloedd dosbarth. 

Mae’r ysgol yn defnyddio dull ysgol gyfan o ran dysgu proffesiynol.  Er enghraifft, pan benderfynodd yr ysgol gyflwyno adnoddau mathemateg newydd a ffyrdd newydd o weithio, mynychodd pob un o’r staff ddigwyddiadau datblygu mewnol rheolaidd.  Ar ôl pob digwyddiad, mae staff yn cytuno ar ffocws i weithio arno, sy’n gysylltiedig â’u dysgu.  Maent yn rhannu deilliannau eu gwaith mewn cyfarfodydd staff ac uwch arweinwyr.  Mae hyn yn helpu sicrhau gwybodaeth a dull cyson ar draws pob dosbarth.  Mae staff yn mynychu sesiynau diweddaru a gwybodaeth rhanbarthol a lleol, ond anaml iawn y maent yn mynychu digwyddiadau dysgu proffesiynol. 

Mae arweinwyr yn annog athrawon i gymryd rhan mewn ymchwil weithredu ac arbrofi â syniadau newydd.  Er enghraifft, mae athrawon wedi defnyddio technegau ymchwil ac ymholi i archwilio sut gall gemau wella medrau mathemategol a sillafu disgyblion.  Mae athrawon yn arbrofi â syniadau ar gyfer gwella cysur a lles disgyblion hefyd trwy gyflwyno seddau bagiau ffa a gwisgo sliperi mewn ystafelloedd dosbarth.  Nid yw arweinwyr yr ysgol yn ofni rhoi’r gorau i brosiectau ac arbrofion os nad ydynt yn bodloni anghenion disgyblion a staff.  Er enghraifft, ychydig flynyddoedd yn ôl, cyflwynodd yr ysgol ddefnydd o dechnoleg fideo ar gyfer arsylwadau gwersi ac arsylwadau cymheiriaid.  Fodd bynnag, ar yr adeg honno, nid oedd athrawon yn ddigon cyfarwydd â rhannu arfer i fod yn gyfforddus â’r math hwn o ddull.  Bu’r ysgol yn arbrofi â marcio triphlyg hefyd ond rhoddodd y gorau i hyn pan gytunodd athrawon nad oedd yn gwella ansawdd yr adborth i ddisgyblion ac nad oedd yn ddefnydd effeithiol o’u hamser. 

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, buddsoddodd yr ysgol yn sylweddol mewn rhaglen arweinyddiaeth bwrpasol am chwe diwrnod ar gyfer pob aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth.  Dros y chwe diwrnod, dysgodd cyfranogwyr am eu hymddygiadau a’u harddulliau arwain eu hunain.  Fe wnaethant archwilio beth oedd y ffordd orau i gyfathrebu a rhoi adborth, osgoi gwrthdaro a magu hyder ymhlith staff, trwy ddefnyddio ymddygiadau cadarnhaol pendant.  Dysgon nhw am dechnegau hyfforddi a mentora a chawsant hyfforddiant ac adborth un i un ar eu perfformiad eu hunain gan fentor allanol.  Mae pob un o’r athrawon a gymerodd ran yn y rhaglen yn teimlo eu bod wedi magu hyder a meithrin gallu i gael trafodaethau proffesiynol manwl am ansawdd yr addysgu a’r ddarpariaeth.  Mae hyn wedi arwain at lefelau uwch o ddidwylledd a gonestrwydd wrth archwilio a rhannu arfer yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn symud oddi wrth arsylwadau gwersi ffurfiol.  Nid yw arweinwyr yn yr ysgol yn credu mewn graddio gwersi cyfan na dadansoddi a graddio elfennau unigol o addysgu.  Yn 2017-2018, maent yn arbrofi â system o sesiynau galw i mewn lle bydd arweinwyr yn galw i mewn i wersi’n rheolaidd am ryw 15 munud ac wedyn yn cael deialog broffesiynol gydag athrawon.  Dros gyfnod, mae staff yn yr ysgol wedi ymgyfarwyddo â’r pennaeth ac aelodau eraill o’r uwch staff yn galw i mewn i’w gwersi’n ddirybudd i siarad â disgyblion a chymryd rhan yn yr addysgu a’r dysgu.  Yn 2017/2018, bydd athrawon yn cael eu hannog i arsylwi ei gilydd yn fwy rheolaidd. 

Deilliannau

Mae dull yr ysgol o hyfforddi a mentora athrawon ar sail eu hanghenion unigol a’u cyfnod datblygu wedi arwain at arferion addysgu cyson dda ar draws yr ysgol.  Mae gallu uwch arweinwyr i gymryd rhan mewn adborth agored a gonest wedi gwella oherwydd yr hyfforddiant pwrpasol ar arweinyddiaeth, hyfforddi a mentora.  Mae hyn yn golygu bod pob un o’r arweinwyr yn gyfforddus yn herio eu syniadau eu hunain a’i gilydd ynglŷn â beth sy’n gwneud addysgu da.  O ganlyniad, mae pob un o’r staff yn ymarferwyr myfyriol.  Mae ymagwedd yr ysgol gyfan at agweddau at ddysgu proffesiynol yn sicrhau bod mentrau newydd yn cael eu gweithredu a’u datblygu’n gyson ar draws yr ysgol. 

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Dyma dair prif flaenoriaeth yr ysgol:

  • Mireinio’r broses arsylwi gwersi er mwyn i athrawon allu elwa ar lefel uwch o gymorth proffesiynol
  • Parhau i gynnal a chyhoeddi ymchwil ar lefel uchel i wella ansawdd dysgu ac addysgu
  • Defnyddio arsylwadau gwersi i wrando ar ddysgwyr a chraffu ar lyfrau, gan sicrhau bod gweithgareddau ar gyfer disgyblion medrau sylfaenol yn gweddu’n agosach i’w gallu

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn