Defnyddio sesiynau datblygiad proffesiynol wedi’u harwain gan athrawon yn seiliedig ar dystiolaeth i wella addysgu ar lefel ysgol gyfan - Estyn

Defnyddio sesiynau datblygiad proffesiynol wedi’u harwain gan athrawon yn seiliedig ar dystiolaeth i wella addysgu ar lefel ysgol gyfan

Arfer effeithiol

Ysgol Uwchradd Aberteifi


Cyd-destun

Ysgol ddwyieithog 11-19 yn nhref arfordirol Aberteifi yng Ngheredigion yw Ysgol Uwchradd Aberteifi.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o’r dref a’r dalgylch gwledig cyfagos.  Roedd 534 o ddisgyblion ar y gofrestr adeg yr arolygiad craidd ym mis Ionawr 2015, ond bu cynnydd sylweddol yn niferoedd y disgyblion ers hynny.  Erbyn hyn, mae gan yr ysgol 603 o ddisgyblion ar y gofrestr, gydag 84 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.

Daw tua 30% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg fel prif iaith yr aelwyd.  Fodd bynnag, dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi cynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio Cymraeg mamiaith i 67%.  Mae’r ysgol wedi cynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ers adeg yr arolygiad craidd hefydMae tua 16% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 34% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae canolfan adnoddau dysgu yn yr ysgol.  

Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2012.  Mae’r uwch dîm rheoli yn cynnwys y pennaeth, pennaeth cynorthwyol a phennaeth cynorthwyol dros dro.

Strategaeth a chamau gweithredu

Ers yr arolygiad craidd, mae’r ysgol wedi penodi dirprwy bennaeth newydd a thri phennaeth cynorthwyol.  Mae’r pennaeth wedi rhannu ei gweledigaeth ar gyfer gwella addysgu gyda phob un o’r staff.  Mae’r weledigaeth hon i sicrhau bod pob un o’r athrawon yn cydweithio â’i gilydd ac yn cynorthwyo ei gilydd i sicrhau diwylliant o ysgol hunanwella, sy’n anelu am ragoriaeth.  Addysgu a dysgu yw’r ffocws canolog yn y weledigaeth hon a neilltuir llawer o egni ac amser i sicrhau bod athrawon yn cyflwyno’r gwersi gorau posibl yn gyson.

Cynhelir adolygiadau cyfadran hynod effeithiol bob blwyddyn ar gyfer pob un o’r wyth cyfadran.  Mae’r adolygiad trylwyr a chynhwysfawr yn cynnwys disgyblion yn cymryd rhan mewn arolygon addysgu a dysgu ddwywaith y flwyddyn ar gyfer pob cyfadran.  Mae arweinwyr hefyd yn craffu ar dystiolaeth o gofnodion cyfarfodydd cyfadrannau ac arfarniadau o ddysgu proffesiynol i farnu i ba raddau y mae athrawon yn defnyddio hyfforddiant ac arweiniad.  Mae’r corff llywodraethol llawn yn derbyn adolygiadau’r cyfadrannau, sy’n cynnwys argymhellion ynglŷn â sut i wella’r gyfadran.  Wedyn, mae penaethiaid cyfadrannau’n cyflwyno cynllun gweithredu i gyfarfod nesaf pwyllgor safonau’r llywodraethwyr.

Mae uwch arweinydd, sydd â chyfrifoldeb am addysgu a dysgu, wedi treulio llawer o’i hamser yn ymgymryd ag ymchwil weithredu ac yn archwilio arfer dda mewn ysgolion eraill.  Mae’n defnyddio ymarferwyr cryf yn yr ysgol i’w chynorthwyo yn ei hymdrech i wella addysgu.  Mae’r ysgol wedi gwneud defnydd cynhyrchiol a buddiol o ymchwil i addysgeg i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel a phwrpasol ar gyfer pob un o’r  staff.  Yn sgil y gweithgareddau hyn, mae athrawon wedi diwygio a diweddaru polisïau ar addysgu a dysgu a marcio ac asesu.  Mae nod cyffredin i’r ddau bolisi hyn, sef: i athrawon fod yn gyson a theg trwy greu awyrgylch o ymddiriedaeth gyda’r disgyblion y maent yn eu haddysgu.  Mae’r polisïau yn pwysleisio pwysigrwydd athrawon yn defnyddio eu hamser cynllunio ac asesu yn ddoeth ac yn gynhyrchiol i leihau eu baich gwaith.  I’r perwyl hwn, mae’r polisïau’n cynnwys atodiadau tra ystyriol ar ffyrdd ymarferol o leihau baich gwaith a chynyddu effaith.

Ers yr arolygiad craidd, mae dysgu proffesiynol parhaus yn ffocws allweddol wrth gynllunio datblygiad yr ysgol.  Dros y flwyddyn academaidd, mae athrawon, fel rhan o’u hamser cyfeiriedig, yn cymryd rhan mewn cyfres o 11 o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol a sesiynau hyfforddi.  Mae hyn wedi galluogi arweinwyr i hyfforddi staff a rhoi ar waith yr addysgeg yr ymchwiliwyd iddi’n dda, sy’n ategu gweledigaeth y pennaeth ar gyfer gwella addysgu.  Mae gofyn i holl arweinwyr digwyddiadau dysgu proffesiynol seilio eu mewnbwn ar dystiolaeth a gafwyd o ymchwil weithredu ddibynadwy ac effeithiol.  O ganlyniad, mae staff yn ymateb yn gadarnhaol iawn i hyfforddiant ac arweiniad gan eu cymheiriaid.  Ar ôl pob digwyddiad dysgu proffesiynol, mae pob cyfadran yn cynnal dadansoddiad cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau o ansawdd eu darpariaeth bresennol.  Wedyn, mae cyfadrannau’n llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â deilliannau’r dadansoddiad.

Mae arweinwyr yn rhoi llawer o bwys ar gofnodi barn disgyblion, ac mae gan lais y disgybl ran annatod yn y rhan fwyaf o weithgareddau hunanarfarnu.  Er enghraifft, mae aelodau o’r cyngor ysgol ac athrawon allweddol yn aelodau o bwyllgor addysgu a dysgu.  Mae gan y grŵp arloesol hwn rôl bwysig mewn cynorthwyo athrawon i wella eu harfer.  Dyfeisiodd y pwyllgor strategaeth ‘Quality Teacher 10’ yr ysgol, sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio effeithiol ac yn cynnwys arweiniad fel cael dechrau ysbrydoledig i wersi, cynnwys pwrpasol a sesiwn lawn, fuddiol.

Mae ymchwil i strategaethau addysgegol i ddatblygu annibyniaeth a gwydnwch disgyblion yn ategu llawer o weithdrefnau cytûn yr ysgol ar gyfer cynllunio ac addysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau eistedd bechgyn/merched, lleoliad strategol disgyblion o grwpiau sy’n agored i niwed, holi disgyblion ar hap a sicrhau ‘amser aros’ priodol am ateb gan ddisgyblion, ar lafar ac wrth ymateb i waith ysgrifenedig.  Mae athrawon yn gwneud defnydd effeithiol o fatrics tra ystyriol o dechnegau holi, sy’n eu galluogi i ddatblygu medrau meddwl a datrys problemau disgyblion yn dda.  Mae’r ysgol yn disgwyl i athrawon roi yr un pwys ar ‘amser aros’ ac  ‘amser siarad’.  Mae arweinwyr yn darparu arweiniad tra ystyriol, sy’n deillio o ymchwil gynhwysfawr, i athrawon ar sut i asesu gwaith disgyblion yn effeithiol a darparu adborth defnyddiol.  Mae pob un o’r athrawon yn defnyddio model cytûn yr ysgol ar gyfer marcio gwaith disgyblion.  Mae’r model hwn yn annog athrawon i roi sylw cyfartal i gynnwys y gwaith, cymhwyso medrau a meysydd i’w gwella.  Mae athrawon yn amlygu meysydd o waith disgyblion sydd angen eu gwella ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol sy’n helpu disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am wella eu gwaith eu hunain.  Mae athrawon yn rhoi amser mewn gwersi i ddisgyblion ymateb i sylwadau am eu gwaith.

Er mwyn cefnogi ei nod o gael rhagoriaeth mewn addysgu, mae’r ysgol wedi addasu ei dogfennau sicrhau ansawdd.  Er enghraifft, mae ffurflenni arsylwi gwersi ac adroddiadau craffu ar waith yn ei gwneud yn glir mai safonau, darpariaeth ac addysgu da yw’r disgwyliad gofynnol.  Os bydd arweinwyr yn barnu bod angen gwella unrhyw weithgaredd neu wers, mae’n seiliedig ar y ffaith nad oes digon o ddisgyblion yn gwneud cynnydd.  Mae athrawon yn defnyddio systemau cyffredin ar gyfer cynllunio gwersi a meini prawf llwyddiant hefyd.  Maent yn rhannu tair lefel o ddisgwyliad gyda disgyblion, gan esbonio’r lefel ddisgwyliedig ofynnol a sut beth yw llwyddiant da a rhagorol.  Ar draws yr ysgol, mae athrawon yn ei gwneud yn glir i ddisgyblion y dylai bron eu holl waith fod yn dda, o leiaf.

Mae arweinwyr yn sefydlu llawer o brosiectau thematig fel rhan o’u ffocws ysgol gyfan ar wella darpariaeth yn gyffredinol, ac addysgu yn benodol.  Nododd yr ysgol grŵp o athrawon yn eu trydedd neu bedwaredd flwyddyn yn addysgu a fyddai’n elwa ar gyfarwyddyd clir a dull newydd o wella eu haddysgu.  Roedd arweinwyr nid yn unig am i’r athrawon hyn elwa ar ddysgu proffesiynol, ond hefyd i ddefnyddio eu datblygiad personol er budd yr ysgol trwy fod yn ymarferwyr arweiniol.  Dechreuwyd adnabod yr athrawon hyn fel y grŵp gwella addysgu.

Gwnaeth y grŵp ddefnydd cynhyrchiol o dechnoleg fideo i arfarnu cryfderau a meysydd i’w datblygu yn eu haddysgu eu hunain.  Fe wnaethant gyfarfod yn rheolaidd, rhannu pytiau fideo ohonyn nhw eu hunain a nodi meysydd ffocws ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Fe wnaethant drefnu teithiau dysgu ffocysedig yn yr ysgol ac ymweld â darparwyr eraill.  Ymhen amser, fe wnaethant nodi cryfderau penodol yn eu harfer, a rannwyd gyda staff yr ysgol gyfan ar ffurf pytiau fideo ‘sut i’ deg munud.  Mae’r ysgol bellach wedi cynyddu’r platfform cymorth ac arweiniad hwn trwy alluogi mwy o athrawon i greu’r pytiau fideo, er enghraifft ‘Sut i ddefnyddio tablau lluosi’n gywir mewn tasgau rhifedd trawsgwricwlaidd’, ‘Sut i ymdawelu dosbarth a’i gael yn barod am waith yn llwyddiannus’ a ‘Sut i gynllunio gweithgareddau dechreuol effeithiol ac ysbrydoledig’.  Mae gwaith y grŵp gwella addysgu wedi rhoi mwy o hyder ac arbenigedd i staff wrth gynllunio gweithgareddau pwrpasol.  Mae hyn wedi sicrhau gwelliannau yn ansawdd yr addysgu a safon y gwaith yn llyfrau disgyblion. 

Nododd yr ysgol grŵp o ymarferwyr rhagorol hefyd, a’u galluogi i ymuno â’r rhaglen ranbarthol ar gyfer athrawon rhagorol.  Darparodd yr ymarferwyr hyn arweinyddiaeth a hyfforddiant ysgol gyfan, yn seiliedig ar theori a methodoleg addysgegol gadarn wedi iddynt gymryd rhan yn y rhaglen.  Er enghraifft, fe wnaethant arwain gweithgareddau dysgu proffesiynol ysgol gyfan ar ddefnyddio cynllunio holi effeithiol.

Deilliannau

Mae’r ysgol wedi llwyddo i newid ei diwylliant ac wedi dod yn sefydliad sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.

Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddysgu proffesiynol ac mae arweinwyr wedi buddsoddi amser a chyllid sylweddol ar gyfer y flaenoriaeth hon.  Mae’r cyfleoedd dysgu proffesiynol a bennir i staff wedi arwain at arferion addysgu gwell a chysondeb gwell o lawer o ran cyflwyno addysgu da ar draws yr ysgol.  Mae rhoi cyfle i athrawon arwain gweithgareddau dysgu proffesiynol wedi cryfhau gallu’r ysgol i arwain.  Mae hyn wedi gwella agenda cynllunio dilyniant yr ysgol yn llwyddiannus ac wedi gwella ansawdd arweinyddiaeth ganol ac uwch arweinyddiaeth yn sylweddol. 

Bellach, caiff athrawon gyfleoedd mwy rheolaidd a buddiol i fyfyrio ar, ac arfarnu, eu harfer eu hunain, a’u cydweithwyr.  Mae ymglymiad dysgwyr mewn gweithgareddau sicrhau ansawdd, fel craffu ar waith, wedi creu cyfleoedd gwerth chweil i staff gydweithio â disgyblion i flaenoriaethu gwella deilliannau. 

Mae deilliannau perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 wedi gwella ers yr arolygiad craidd ac mae’r bwlch o ran rhywedd wedi cau’n sylweddol (Llywodraeth Cymru, 2017c).  Mae gwelliant mawr wedi bod yn ymddygiad disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn yr ysgol hefyd.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Cryfhau ymhellach fedrau athrawon mewn holi a strategaethau asesu eraill, i gynyddu lefel yr her i ddisgyblion  
  • Gwneud addysgu a dysgu yn fwy cyson ar draws yr ysgol trwy ddod o hyd i gyfleoedd i ledaenu arfer orau trwy ddefnyddio technoleg
  • Gwella ymglymiad disgyblion yn eu dysgu trwy wneud arferion asesu a marcio yn fwy cyson ar draws yr ysgol er mwyn rhoi adborth gwell i ddisgyblion ar eu cynnydd a sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod beth y dylent ei wneud i wella’u gwaith
  • Rhannu arfer orau o ran cynnwys disgyblion wrth asesu eu cynnydd eu hunain a datblygu eu medrau dysgu annibynnol
  • Datblygu dealltwriaeth athrawon o’r safonau proffesiynol diwygiedig a chynnwys athrawon mewn ymchwil weithredu fel rhan o’r gweithdrefnau rheoli perfformiad newydd

 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn