Defnyddio rhaglenni’r ysgol i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth - Estyn

Defnyddio rhaglenni’r ysgol i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth

Arfer effeithiol

Bassaleg School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Basaleg yn ysgol gymysg ar gyfer disgyblion 11-19 oed i’r gogledd ddwyrain o Gasnewydd.  Ar hyn o bryd, mae ganddi 1,749 o ddisgyblion ar y gofrestr, a 405 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Daw disgyblion o chwe ysgol cynradd partner yn bennaf.  Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae tua 2% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan un pwynt pedwar y cant (1.4%) o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig o gymharu â 2.2% ar gyfer Cymru gyfan.  Mae gan ryw 8% o ddisgyblion angen addysgol arbennig.  Mae llawer o ddisgyblion o gefndir Gwyn Prydeinig.  Daw ychydig o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.  Mae ychydig o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac mae ychydig iawn ohonynt yn siarad Cymraeg yn rhugl.  Mae’r ysgol yn Ysgol Arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2018.  Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys dau ddirprwy bennaeth, Cyfarwyddwr Busnes, tri phennaeth cynorthwyol a dau bennaeth cyswllt.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gweledigaeth yr ysgol yn canolbwyntio ar roi cyfleoedd eang i bobl ifanc ddatblygu i fod yn ddinasyddion sy’n foesegol wybodus; i ddangos synnwyr cryf o ymwybyddiaeth gymdeithasol a chyfrifoldeb a bod yn rhan o ddiwylliant lle caiff amrywiaeth a chydraddoldeb eu dathlu a’u croesawu.  Cymerir camau gweithredu manwl i alluogi’r ysgol i gyflawni’r weledigaeth hon ym mhob agwedd ar les, addysgu a dysgu, gofal, cymorth ac arweiniad ac arweinyddiaeth.  Mae gwerthoedd craidd yr ysgol yn treiddio trwy gynllun gwella’r ysgol, gan felly sicrhau nad ydynt byth yn colli golwg ar eu diben craidd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  1. Roedd creu rhaglen diwtor weddnewidiol wedi’i hysgogi gan les yn ganolog i gyflawni’r weledigaeth hon.  Cafodd y rhaglen ei llunio ar y cyd gan ddisgyblion a staff, ac mae wedi’i gwreiddio mewn ymchwil weithredu bresennol.  Mae’r rhaglen, a ysgogwyd gan lais y disgybl, yn cwmpasu ystod eang o destunau’n ymwneud ag iechyd meddwl, perthnasoedd ac addysg rhywioldeb a meithrin gwydnwch.  Mae’r ddarpariaeth bwrpasol, sydd wedi’i theilwra ar gyfer pob grŵp blwyddyn, hefyd yn seiliedig ar fyfyrio ac mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn deialog agored a gonest am destunau heriol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
  2. Mae’r ffaith fod yr ysgol wedi ailwampio ac ailfrandio’r Rhaglen ‘Crefydd, Moesau ac Athroniaeth’ y gwnaed gwelliannau iddi yn ddiweddar, sef Astudiaethau Crefyddol gynt, wedi bod yn ffactor arwyddocaol o ran cyfrannu at alluogi’r disgyblion i archwilio a deall gwerthoedd a chredoau ysbrydol, diwylliannol a moesol ymhellach.  Mae disgyblion yn dangos hyder, gwydnwch ac angerdd mewn dathlu gwahaniaeth a hunaniaeth, ac yn trosglwyddo agweddau o’r fath i bob agwedd ar eu bywyd ysgol.
  3. Un o nodweddion eithriadol yr ysgol yw’r ddarpariaeth i godi ymwybyddiaeth am y gymuned pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol.  Mae pob un o’r disgyblion yn croesawu amrywiaeth y gymuned pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ac maent wedi ffurfio grŵp Cynghrair Pobl Queer a Strêt o ganlyniad, sy’n dangos y parch sydd gan y bobl ifanc at hyrwyddo hawliau unigolion.  Mae sicrhau bod cymorth helaeth ar waith ar gyfer disgyblion trawsrywiol wedi golygu bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn hyderus ac yn angerddol ynglŷn â siarad am eu profiadau i helpu pobl eraill.
  4. Bu dadansoddi camsyniadau ac unrhyw stigma posibl ynglŷn â materion iechyd meddwl yn ysgogiad o ran dod â chymuned yr ysgol yn agosach at ei gilydd.  Mae cyngor iechyd meddwl yr ysgol, a arweinir gan ddisgyblion, yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cymorth cryf rhwng cyfoedion gan ddisgyblion sydd wedi eu hyfforddi.  Mae ‘Llysgenhadon Lles’ yr ysgol yn darparu cymorth helaeth i ddisgyblion o bob oedran mewn ffordd anfygythiol ac anffurfiol hefyd.  Mae cymorth cydlynus o’r fath ar gyfer disgyblion, sy’n cael ei arwain gan ddisgyblion, yn allweddol iddynt ddatblygu synnwyr cryf o wydnwch.
  5. Cefnogir yr ysgol gan agenda ‘Iechyd a Hapusrwydd’, sy’n blaenoriaethu ‘gofalu amdanom ni ein hunain a gofalu am ein gilydd trwy ‘ddal ati i edrych i fyny’, ac mae lles disgyblion yn ganolog i’w hathroniaeth.  Mae’r agenda ‘Iechyd a Hapusrwydd’ hefyd yn rhoi cyfleoedd buddiol i ddisgyblion a staff ddatblygu synnwyr cryf o gyfrifoldeb cymdeithasol trwy godi symiau sylweddol o arian ar gyfer elusennau a ddewiswyd gan y disgyblion.  Yn ystod digwyddiadau misol wedi eu trefnu ar galendr yr ysgol, daw cymuned yr ysgol at ei gilydd yn un, gan roi amser i fyfyrio ar bob agwedd ar eu lles eu hunain, a chael hwyl, sy’n bwysig.
  6. Nodwedd nodedig o gyflawni’r weledigaeth hon yw’r ffordd y mae’r ysgol yn annog disgyblion i gymryd rhan weithredol ym mhob agwedd ar fywyd ysgol a’r gymuned.  Mae rhaglen ‘Rhoi’n ôl i Fasaleg’ (‘Giving Back to Bassaleg’) y chweched dosbarth yn dangos i ddisgyblion y graddau y mae’r ysgol yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfrannu at eich cymuned eich hun.  Yn yr un modd, trwy olrhain ymglymiad disgyblion sy’n agored i niwed a’r rheiny â nodweddion gwarchodedig yn agos mewn gweithgareddau cymunedol a grwpiau disgyblion, mae’r ysgol yn hyderus fod pob grŵp disgyblion yn adlewyrchu poblogaeth yr ysgol gyfan; sef agwedd sy’n dangos y modd y mae’r gymuned yn un sy’n cael ei hysgogi gan degwch hefyd.
  7. O ran addysgeg, mae agenda ‘Mynegi’ yr ysgol ar draws y cwricwlwm yn grymuso disgyblion i fynegi eu hunain a herio pobl eraill yn briodol ar bob pwnc.  Mae’r dysgu proffesiynol mewn strategaethau gwrando gweithredol a llafaredd cymdeithasol fel ‘Trios’ (sy’n canolbwyntio ar hyfforddi disgyblion mewn gwrando ar ei gilydd) hefyd wedi ei briodoli i raddau helaeth i wella diwylliant cynhwysol yr ysgol.
  8. Mae polisi ymddygiad ar gyfer dysgu yr ysgol yn atgyfnerthu’r graddau y caiff cymuned yr ysgol ei gyrru gan werthoedd craidd.  Fe wnaeth staff, disgyblion a rhieni gyd-lunio polisi a ddiwygiwyd yn ddiweddar, sy’n rhoi pwyslais clir ar ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau.  Mae’r polisi yn defnyddio strategaethau buddiol i alluogi disgyblion i fyfyrio’n llwyddiannus ar eu hymddygiadau a dysgu rheoli eu hemosiynau’n gadarnhaol.
  9. Bu amgylchedd anogol yn hanfodol i gyflawni gweledigaeth yr ysgol, a gwaith teilwredig y Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn benodol.  Mae ymyriadau wedi rhoi i ddisgyblion y cymorth emosiynol sydd ei angen arnynt yn aml cyn ystyried sut i elwa ar y cwricwlwm.  Mae gwaith rhagweithiol y Swyddogion Cymorth Bugeiliol yn adlewyrchu ymhellach y sylw a roddir i gynorthwyo dysgwyr sy’n agored i niwed.  Mae dull cydlynus y tîm bugeiliol ehangach, sy’n cynnwys pob aelod o staff, yn ganolog i greu amgylchedd diogel, saff ac anogol ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae disgyblion yn dangos lefelau uchel o ofal a pharch am bobl eraill.  Mae eu rhan weithredol yn yr amrywiaeth helaeth o ddarpariaeth a restrir yn dangos pa mor frwd yw’r bobl ifanc ynglŷn â sicrhau lefelau uchel o oddefgarwch a chymorth i’w gilydd.
  • Mae gwaith arloesol y cyngor iechyd meddwl a’r llysgenhadon lles wedi creu derbyniad a dealltwriaeth gynyddol o faterion iechyd meddwl ar draws cymuned yr ysgol ac mae disgyblion/staff mewn sefyllfa well o lawer i feddwl am eu lles eu hunain, a’i flaenoriaethu.
  • Yn ogystal â chael rhan sylweddol mewn datblygu amgylchedd cynhwysol, mae grwpiau fel y Gynghrair Pobl Queer a Strêt wedi cael effaith gadarnhaol ar gyflwyno newid i bolisi ysgol i gyflwyno gwisg ysgol sy’n niwtral o ran y rhywiau, er enghraifft.
  • Yn ymarferol, bu’r Polisi Ymddygiad ar gyfer Dysgu yn llwyddiannus o ran lleihau nifer y gwaharddiadau a nifer yr achosion ymddygiad a adroddwyd.  Yr hyn sydd bwysicaf yw bod hyn yn adlewyrchu diwylliant sydd wedi’i wreiddio mewn amrywiaeth, cydraddoldeb a pharch.
  • Mae’r ffordd y mae’r ethos hwn yn ategu popeth a wna’r ysgol wedi llwyddo i greu cymuned lle caiff gwerthoedd craidd o’r fath eu dathlu, lle caiff hawliau unigol disgyblion eu parchu, ac amgylchedd lle gall yr holl ddysgwyr ffynnu gan eu bod yn ‘gallu bod y sawl mae arnyn nhw eisiau bod’.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

  • Mae Basaleg yn Ysgol Arloesi, ac felly mae wedi rhannu, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, y modd y mae ei chwricwlwm newydd wedi’i gwreiddio mewn datblygu’r gwerthoedd craidd hyn trwy’r pedwar diben.
  • Mae’r ysgol yn cynorthwyo ysgolion eraill yn y rhanbarth trwy ei statws Ysgol Rhwydwaith Arweiniol mewn gwyddoniaeth, addysg gorfforol, Crefydd, Moesau ac Athroniaeth a lles; mae’r ddwy agenda olaf yn rhoi cyfleoedd teilwredig iddynt drosglwyddo rhywfaint o’r ddarpariaeth a nodwyd yn yr astudiaeth achos hon.
  • Mae’r ysgol wedi arwain cynadleddau yn lleol ac yn rhanbarthol ar eu hagenda iechyd meddwl ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i barhau â gwaith ymchwil weithredu a chefnogi eu pobl ifanc.
  • Mae Basaleg yn gweithio’n agos iawn â’i hysgolion cynradd partner.  O’r herwydd, maent wedi rhannu arfer dda ym mhob agwedd ar sut i ddatblygu dealltwriaeth foesol, ddiwylliannol ac ysbrydol disgyblion.
  • Bu’r ffordd weddnewidiol y mae’r ysgol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu ei harfer dda yn allweddol i hyrwyddo a dathlu ei gwerthoedd craidd, sef amrywiaeth, cydraddoldeb a pharch.