Defnyddio rhaglen gyfoethogi i wella medrau
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11-16 oed ym Merthyr Tudful yw Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley. Mae 519 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae’r ffigurau hyn ychydig yn is nag oeddent adeg yr arolygiad craidd blaenorol, gan nad oes chweched dosbarth yn yr ysgol mwyach. Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion o saith ysgol gynradd Gatholig gysylltiedig yn bennaf. Mae’r ysgolion hyn yn cwmpasu ardal eang, gan gynnwys Merthyr Tudful, Ynysowen, Gurnos, Hirwaun, Aberdâr, Glynebwy, Bryn-mawr, Tredegar a Rhymni. Mae’r ysgol yn croesawu disgyblion o bob ffydd a’r rheiny nad oes ganddynt unrhyw gefndir ffydd. Mae 20.6% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.4% ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae tua 26% o ddisgyblion yr ysgol ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22.9% ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae gan ryw 1% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.2%. Daw tua 29% o ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol, a daw tua 27% o ddisgyblion o gartrefi lle nad Saesneg yw’r famiaith. Nid oes bron unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Dechreuodd y pennaeth dros dro yn ei swydd yn 2018. Mae dirprwy bennaeth dros dro, a thri phennaeth cynorthwyol. Mae’r ysgol yn ysgol arloesi’r cwricwlwm ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn ymwneud â diwygio’r cwricwlwm.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Fel Ysgol Arloesi’r Cwricwlwm, manteisiodd Ysgol Esgob Hedley ar y cyfle i arloesi a mentro’n ofalus. Credir nad oedd disgyblion yn meddwl yn gyfannol gan nad oeddent yn gallu trosglwyddo medrau’n rheolaidd, ac nid oedd llawer ohonynt yn fodlon mentro, nid yn unig yn eu dysgu, ond mewn bywyd o ddydd i ddydd. Dechreuwyd y ‘Rhaglen Gyfoethogi’ (‘Enrichment Programme’), o’r enw ‘Agor Meddyliau’ (‘Opening Minds’), yn sgil awydd i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac fe’i modelwyd yn fras ar Fagloriaeth Cymru a’r Fagloriaeth Ryngwladol.
Wrth i’r ysgol ddechrau meddwl am y Cwricwlwm Newydd ac addasu ei hymagwedd, daeth yn amlwg yn gyflym iawn fod angen i ddisgyblion addasu eu hymagwedd hefyd. Roedd yr ysgol yn ystyriol o wneud y cwricwlwm yn berthnasol i ddysgwyr a fyddai’n gadael i symud yn raddol i fyd nad yw’n bodoli eto. Neilltuwyd amser cynllunio a pharatoi sylweddol yn ystod tymor yr haf 2017, gan alluogi lansio ‘Agor Meddyliau’ ym mis Medi 2017. Datblygwyd y rhaglen hon gan y ‘Tîm Arloesi’, dan arweiniad yr arweinydd pwnc ar gyfer Daearyddiaeth yn 2017, a gwnaed rhagor o welliannau iddi yn 2018.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Amlygodd heriau’r cwricwlwm blaenorol fod angen gwella’r cyfleoedd cyfoethogi sydd ar gael i ddisgyblion, yn enwedig i ddisgyblion gael cyfleoedd ystyrlon i ystyried ac ennill arbenigedd yn y medrau a’r priodoleddau y bydd eu hangen a’u heisiau arnynt wrth iddynt fynd ar y cam nesaf yn nhaith eu bywyd.
Mae’r Rhaglen Gyfoethogi arloesol yn mynd i’r afael â datblygu’r medrau bywyd pwysig hyn, ac yn cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru trwy brofiad ysgol gyfan ar gyfer disgyblion yr ysgol. Mae rhaglen flynyddol sy’n para pythefnos yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion archwilio a datblygu eu medrau a’u diddordebau unigol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys saith maes allweddol, y mae pob un ohonynt yn cefnogi athroniaeth ‘Dyfodol Llwyddiannus’ (Donaldson 2015) ac yn seiliedig ar fynd i’r afael â’r pedwar diben craidd. Trwy archwilio pob un o’r meysydd allweddol hyn, mae disgyblion hefyd yn datblygu ‘Arferion hanfodol y Meddwl’ (‘Habits of Mind’) (Costa a Kallick 2008) sy’n ategu’r meysydd rhaglen:
- Cenhadaeth
- Medrau bywyd
- Meddylfryd twf
- Meddwl yn feirniadol
- Gwasanaeth cymunedol
- Iechyd a lles
- Creadigrwydd
Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion, yn yr ysgol ac yn y gymuned fel ei gilydd, gyda gweithdai wedi eu harwain gan staff a darparwyr allanol. Caiff disgyblion eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt wedi eu gwneud o’r blaen neu gywreinio medr nad ydynt yn hyfedr ynddo, gyda’r nod o ddatblygu gwydnwch ac annibyniaeth. Er enghraifft, gallant fynychu gweithdai llythrennedd, diwrnod rhyngwladol ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant, gweithgareddau awyr agored a digwyddiadau theatr lleol ac yn Llundain. Mae’r elfen gwasanaeth cymunedol yn hynod effeithiol, lle mae’r ysgol yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn cynlluniau yn yr ysgol a thu hwnt, fel codi sbwriel ar y traeth. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau cymdeithasol trwy herio eu syniadau, a datblygu dealltwriaeth well o bwysigrwydd goddefgarwch, parch at bobl eraill a dathlu amrywiaeth. Mae’r pythefnos hefyd yn gyfle i ddysgwyr cyfnod allweddol 4 fynd i’r afael â rhai o ofynion Bagloriaeth Cymru. Ychwanegwyd cydnabyddiaeth am ymgymryd â rolau arwain o dan gynllun ‘Adduned Hedley’ (‘Hedley Pledge’) at y rhaglen ar gyfer 2018, ac ymglymiad disgyblion cyfnod allweddol 2 mewn nifer o weithgareddau i gryfhau trefniadau pontio.
Cyfeiriadau
Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: http://gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-cy.pdf
Costa, A. a Kallick, B. (2008) Learning and Leading with Habits of Mind: 16 Essential Characteristics for Success. ACSD, Virginia, U.S.A.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Ers ei gyflwyno, mae ‘Agor Meddyliau’ wedi hwyluso pontio ac wedi galluogi disgyblion i sicrhau ymdeimlad o lwyddo mewn llawer o feysydd newydd. Un o fanteision nodedig y rhaglen yw cryfhau ethos Cristnogol gofalgar a chynhwysol yr ysgol ymhellach, gan gydnabod medrau ehangach disgyblion, a darparu ar eu cyfer, wrth i ddysgwyr gymryd perchnogaeth lwyddiannus o’u datblygiad. Mae manteision eraill yn cynnwys:
- gwelliant o ran lles ac agweddau at ddysgu, gyda defnydd rheolaidd disgyblion o fedrau lluosog y tu allan i feysydd y cwricwlwm ac ar eu traws
- gwaith cynyddol a gwell gydag asiantaethau allanol i ehangu profiadau disgyblion, ymgysylltu â nhw ymhellach, a’u cymell
- yng nghyfnod allweddol 4, deilliannau gwell yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Fel Ysgol Arloesi, mae Ysgol Esgob Hedley wedi cynnal llawer o ymweliadau gan ysgolion eraill a grwpiau sydd â diddordeb. Mae’r ysgol hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a lleol, ac wedi cyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r consortiwm lleol. Mae’r ysgol hefyd yn rhannu’r gwaith arloesi ymhlith Grŵp Gwella Ysgolion y consortiwm.