Defnyddio modelau rôl gwrywaidd i wella medrau ysgrifennu bechgyn

Arfer effeithiol

Ysgol Glan Gele

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol fabanod yn Abergele ar arfordir Gogledd Cymru yw Ysgol Glan Gele.  Ar hyn o bryd, mae 307 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 63 yn rhan-amser yn y feithrinfa.  Mae gan yr ysgol 11 dosbarth.  Mae tua 34% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 20%.  Mae’r awdurdod lleol yn gofalu am nifer bach iawn o ddisgyblion. 

Mae asesiadau gwaelodlin yn dangos bod cyrhaeddiad adeg mynediad islaw’r cyfartaledd i nifer sylweddol o ddisgyblion.  Mae gan oddeutu 28% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol: mae hyn ychydig uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Nod Ysgol Glan Gele yw darparu amgylchedd dysgu diogel a hapus i ddisgyblion, lle y mae’r holl randdeiliaid yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial. 

Mae arweinwyr yr ysgol o’r farn bod ymgysylltu â rhieni yn hollbwysig ar gyfer gwella deilliannau i ddisgyblion.  Cynigiant ystod eang o gyfleoedd i rieni a gofalwyr gymryd rhan ym mywyd yr ysgol.  Er 2010, mae’r ysgol wedi gwella ymgysylltu, gan gynnig sesiynau Rhiant Bartner yn rheolaidd bob hanner tymor.  Yn ystod y sesiynau hyn, mae rhieni’n mynychu’r ysgol i weithio ar agweddau ar y cwricwlwm gyda’u plant.  Mae lefel dda o rieni’n bresennol yn y sesiynau llwyddiannus hyn, ac mae’r ysgol wedi datblygu partneriaeth ragorol gyda’r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr.  Fodd bynnag, bu’n fwy anodd ymgysylltu â rhai teuluoedd.  Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion wedi galluogi’r ysgol i benodi Cynorthwyydd Cyswllt Teuluoedd i annog y rhieni ‘anodd eu cyrraedd’ hyn i ymroi i fywyd yr ysgol er mwyn codi disgwyliadau, cefnogi eu plant a gwella safonau cyrhaeddiad.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Amlygodd proses hunanarfarnu’r ysgol dangyflawni ym medrau ysgrifennu bechgyn.  O ganlyniad, penderfynodd arweinwyr geisio cynnwys tadau, teidiau a modelau rôl gwrywaidd eraill (brodyr hŷn, ewythrod) fwyfwy mewn llythrennedd bechgyn.  Mae gwaelodlin dechrau yn yr ysgol yn isel, ac mae dyheadau rhai rhieni yn isel.  Awgrymodd adborth o’r Fforwm Rhieni a holiaduron fod ‘tadau’ yn aml yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â gweithgareddau a gweithdai’r ysgol. 

Yn ddiweddar, cafodd cydlynydd llythrennedd yr ysgol, sy’n aelod o’r Uwch Dîm Arwain, hyfforddiant ar Ysgol Goedwig a theimlai y byddai hyn yn gyfle perffaith i annog tadau ‘anodd eu cyrraedd’ i gymryd rhan a chwalu’r rhwystrau rhwng y cartref a’r ysgol.  Rhoddodd yr enw ‘Dads and Lads’ ar y sesiynau hyn.  Fe wnaeth yr ysgol nodi a thargedu grŵp o ddisgyblion sy’n tangyflawni i gymryd rhan yn y strategaeth hon.  Bechgyn a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a’u tadau, oedd y rhain yn bennaf.  Nid oedd strategaethau blaenorol ar gyfer ymgysylltu â rhieni wedi cael rhyw lawer o lwyddiant gyda’r grŵp hwn.  Felly, nododd staff brosiect cyffrous, i’w gyflawni yn yr awyr agored, fel y prosiect a fyddai’n fwyaf tebygol o ennyn diddordeb tadau a chaniatáu iddynt gael amser buddiol gyda’u meibion mewn amgylchedd anfygythiol, y byddent yn teimlo’n gartrefol ynddo.  Byddai hyn, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar waith ysgrifennu eu plant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth ac yn codi ymwybyddiaeth rhieni a’u dyheadau ar gyfer eu plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Pan fydd staff yn cynnal sesiwn ‘Dads and Lads’, maent yn sicrhau eu bod yn cynllunio prosiect cyffrous i’r bechgyn gael profiad ohono yn yr awyr agored, er mwyn ysbrydoli eu gwaith ysgrifenedig yn yr ystafell ddosbarth.  Mae staff o’r farn bod rhoi profiadau uniongyrchol iddynt seilio’u gwaith ysgrifennu arnynt yn hanfodol.  Mae’r athro’n cyflwyno’r sefyllfa, er enghraifft, trwy gynllunio antur lle y mae’r ‘Dads and Lads’ ar ynys ddiffaith heb ffordd o’i gadael.  Maen nhw’n dysgu sut i adeiladu lloches i gadw’n gynnes a sut i adeiladu tân er mwyn coginio arno.

Fe wnaethant gymryd rhan mewn cwis diogelwch, a ddatblygodd eu medrau llefaredd, gan gofnodi eu hatebion gyda’i gilydd.  Yn ail ran y sesiwn, eisteddodd y bechgyn yn eu llochesi ac ysgrifennu llythyron SOS gyda’u Tad.  Rôl yr athro oedd esbonio gwahanol elfennau’r genre a rhoi syniadau a chyngor ar ysgrifennu’n bwrpasol.  Yn ddiweddarach yn yr wythnos, yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, aeth y bechgyn i sesiynau pellach lle cawsant amser i fyfyrio a thrafod y gweithgaredd, ac ailddrafftio a golygu eu llythyron gydag arweiniad pellach gan yr athro.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Roedd yr adborth gan y tadau yn gadarnhaol iawn, gyda llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi mwynhau cefnogi llythrennedd eu plant yn fawr trwy weithgareddau ystyrlon, llawn hwyl, yn yr awyr agored.  Mae hyn wedi arwain at well diddordeb yn addysg eu plant.  Roedd llawer heb ymgysylltu â sesiynau Rhiant Bartner yr ysgol cyn hynny.  Teimlont fod y wybodaeth a rannwyd yn ystod y sesiynau wedi eu grymuso ac mae hyn wedi cynyddu eu disgwyliadau a’u hyder wrth helpu eu plant i ysgrifennu.  Maent yn ymgysylltu â dysgu eu meibion yn fwy ac mae ganddynt ddisgwyliadau uwch ynghylch gwaith ysgrifennu’r bechgyn.  Mae agweddau tuag at yr ysgol yn fwy cadarnhaol hefyd. 

Cafodd nifer o dadau eu hysbrydoli i fynd ar drywydd y thema gartref ac roedd plant wedi llunio darnau estynedig o waith ysgrifennu, gan ddod â nhw i’r ysgol i’w rhannu gyda’u hathrawon.  Mae’r sesiynau hyn bellach yn boblogaidd iawn a bu’n rhaid i’r ysgol ddarparu sesiynau ychwanegol i ateb y galw gan dadau.  Mae’r gair wedi mynd ar led ymhlith tadau ac mae eu hymgysylltiad wedi cynyddu y tu hwnt i bob disgwyl.  Effaith ychwanegol hyn oedd dod â mwy o dadau i’r sesiynau eraill y mae’r ysgol yn eu cynnig, fel Dysgu Teuluol, Sesiynau Rhannu a gweithio gyda llechi electronig ac adeiladu teganau. 

Dywedodd llawer o’r bechgyn mai’r sesiynau ‘Lads and Dads’ oedd y sesiynau gorau iddynt erioed eu cael.  Mae wedi rhoi amser i rieni brofi dysgu o safon gyda’u plentyn, gyda chefnogaeth athro profiadol.  Mae hyn wedi cynyddu eu disgwyliadau ac wedi gwella deilliannau o safbwynt ansawdd y gwaith ysgrifenedig sy’n cael ei gynhyrchu gan y grŵp hwn o ddysgwyr.  Mae safonau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen wedi codi, gyda chyrhaeddiad ychydig islaw hanner y disgyblion ar lefel uwch na’r disgwyl.  Mae’r safonau ymhlith disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim hefyd yn uwch na chyfartaleddau lleol a chenedlaethol.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith gydag ysgolion ac arweinwyr ysgol dirifedi ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.  Hefyd, mae ysgolion lleol yn ymweld yn aml ac mae staff yn cynnal sesiynau i rannu’r ddarpariaeth yn rheolaidd.  Mae myfyrwyr o brifysgol leol wedi ymweld hefyd i weld arfer dda yn y maes hwn.  Mae athrawon wedi rhoi cyflwyniadau i’r consortiwm rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraethwyr Cymru i rannu’r arfer hefyd. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn