Defnyddio llais y disgybl i lunio dysgu
Quick links:
Gwybodaeth am yr Ysgol
Mae Ysgol Gymraeg Treganna yn ysgol cyfrwng Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd. Mae 680 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 96 oed meithrin. Mae’r disgyblion wedi eu rhannu rhwng 20 dosbarth, gan gynnwys dau ddosbarth meithrin.
Mae tua 53% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac mae 8% o gefndir lleiafrifol ethnig. Ychydig iawn sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae’r ysgol wedi adnabod 10% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n llawer is na’r ganran genedlaethol, sy’n 21%.
Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, tri dirprwy cynorthwyol a’r bwrsar.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Bûm yn cydweithio gydag Ysgol Albert er mwyn datblygu strwythur ysgol a fyddai’n hyrwyddo datblygiad y cwricwlwm newydd ac yn adeiladu ar egwyddorion asesu ar gyfer dysgu trwy ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer cyfranogiad disgyblion.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae pob blwyddyn yn cynnal “Diwrnod Darganfod” ar ddiwedd y tymor er mwyn sefydlu fframwaith ar gyfer gwaith y tymor olynol. Mae’r staff yn cyflwyno bwydlen flasu yn seiliedig ar ddiddordebau’r disgyblion ac yn cofnodi’n ofalus syniadau a sylwadau disgyblion yn ystod y diwrnod. Mae’r staff dysgu ac arweinwyr yn mynd ati i gynllunio’r cwricwlwm yn seiliedig ar syniadau a chwestiynau’r disgyblion gan ddefnyddio fframwaith er mwyn sicrhau dilyniant a datblygiad. Mae syniadau’r dysgwyr yn sicrhau cwricwlwm eang, cyfoes sy’n berthnasol i’r dosbarth ac yn hoelio’r chwe maes dysgu a’r fframweithiau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol.
Mae’r ysgol yn rhannu’r cynlluniau cynnar yma gyda rhieni ar wefan y dosbarth, er enghraifft
Mae’r disgyblion yn chwarae rôl allweddol yn y dysgu a’r addysgu. Er enghraifft, maent yn cynnig arweiniad ac adborth allweddol i’r staff er mwyn eu cynorthwyo i fireinio cynlluniau a’r cylch dysgu ac addysgu wythnosol.
Yn ogystal â mabwysiadau dull cynllunio, mae dosbarthiadau yn cynnal prosiectau arbennig o fewn thema er mwyn hyrwyddo cymhwysiad medrau, er enghraifft,
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae cyfleoedd cyson i ddatblygu medrau disgyblion o fewn meysydd ymarferol a diddorol. Golyga hyn newid sylweddol i ddiwylliant yr ysgol a hunan hyder disgyblion mewn llawer o agweddau. Maent yn gwneud cyflwyniadau i’r gwasanaeth ysgol gyfan yn gyson:
Yn ogystal â gweithio gyda grwpiau fel arweinwyr digidol a hyfforddwyr chwaraeon, mae gwaith y tymor yn gofyn i ddisgyblion weithio’n rheolaidd i addysgu blynyddoedd iau’r ysgol.
Mae llais y disgybl wedi tyfu’n gryfder arbennig ym mhob agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol.
Ar draws yr ysgol, mae cyfraniad disgyblion wrth benderfynu ar eu tasgau yn nodwedd gref iawn o’r ddarpariaeth.
- Cânt gyfle i lywio cynnwys a chynllun gwaith y tymor yn ystod y “Diwrnod Darganfod”
- Mae staff yn cynnal sesiynau codi cwestiwn er mwyn mireinio cyfeiriad dysgu’r disgybl canolig yn gyson yn ystod y tymor
- Mae’r rhan fwyaf o’r themâu yn cynnwys mewnbwn gan rieni / gwarcheidwaid ac mae pob thema yn gorffen gyda gwahoddiad i’r oedolion ymuno â’r dosbarth i ddathlu’r dysgu
Defnyddir y fframweithiau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol er mwyn strwythuro diddordebau a chyfeiriad dysgu’r disgyblion. Mae’r pwyslais ar gyfranogiad disgyblion yn sicrhau eu bod yn ymrwymo’n llwyddiannus iawn yn eu gwaith, gan arddangos balchder a mwynhad ac agwedd gadarnhaol tuag at eu dysgu.
Ar draws yr ystod oed a gallu, mae disgyblion yn arddangos gwydnwch a dyfalbarhad wrth fentro ac arbrofi gyda strategaethau dysgu a gweithdrefnau newydd. Mae’r disgyblion yn defnyddio’u medrau meddwl yn llwyddiannus i ddatrys problemau ac yn dyfalbarhau’n hyderus iawn gyda’u gweithgareddau. Maent yn gwneud dewisiadau synhwyrol a doeth ynglŷn â lefel eu tasgau, gan adnabod pwysigrwydd dethol heriau sy’n addas ar eu cyfer.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda chlwstwr Ysgol Plasmawr er mwyn rhannu arfer dda ac mae ymwelwyr cyson i wersi a hyfforddiant yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn rhyddhau staff i gydweithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill er mwyn datblygu agweddau penodol o waith “ Cynllunio ar y Cyd” a’n strwythur rheolaeth Ysgol Gynradd 600+.